Gwasanaethau iechyd merched dan COVID 19: Dr Jane Dickson

Dydd Mawrth Ebrill 28th, 2020

Dr. Jane Dickson yn rhannu rhai o’i phrif bryderon  am Iechyd Menywod yn ystod pandemig y Corona Virus ac yn annog menywod dal i fynd i’r Uned Achosion Brys neu’r meddyg teulu os ydynt yn cael anawsterau yn ystod y cyfnod hwn

 

Roeddwn wrth fy mod di gael fy ngwahodd i fod yn siaradwr yng Nghaffi RhCM ar Iechyd Menywod, gyda, Dr Olwen Williams, MBE, Llysgennad RhCM. Mae’r ddwy ohonom yn ymarferwyr arweiniol brwd yn y maes iechyd menywod ac mae gennym hanes hir o gefnogi gwaith ein gilydd mewn Iechyd Rhyw ledled y DU. Fy mhrif swydd yw arwain y gwasanaeth erthylu ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Mae COVID-19 wedi cyflwyno heriau a phryderon i’r sawl sy’n gweithio yn y maes iechyd menywod. Mae gwaith meddygol arferol mewn ysbytai wedi cael ei ohirio ac mae hyn wedi arwain at y camddealltwriaeth yr effeithir ar yr holl wasanaethau meddygol. Cafwyd cwymp o ran cyflyrau nad ydynt yn ymwneud â COVID mewn Unedau Achosion Brys ac mae ymholiadau i feddygon teulu ar gyfer symptomau y mae angen sylw brys arnynt e.e. symptomau cancr wedi disgyn. Gallai’r ofn a’r dryswch ynghylch y newid mewn darpariaeth gwasanaethau fod yr un mor niweidiol â’r firws ei hun. Mae’n hanfodol i fenywod dderbyn y neges bod gofal iechyd ‘arferol’ dal yn bodoli, ac na ddylent fod ag ofn cael mynediad iddo ar ei ffurf newydd, drwy ymgynghoriad dros y ffôn neu dros fideo.

Yn y maes Iechyd Rhyw, mae’r holl wasanaethau brys dal yn bodoli ar gyfer yr holl fenywod y mae eu hangen arnynt. Mae hyn yn cynnwys asesu trais rhywiol, rheoli symptomau heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, dulliau atal cenhedlu brys a phroffylacsis ôl-ddatguddiad ar gyfer HIV. Mae’r rhan fwyaf o’r gwasanaethau bellach yn gweithredu ymgynghoriadau dros y ffôn gyda gwasanaethau casglu neu bostio ar gyfer dulliau atal cenhedlu arferol e.e. tabledi. Mae swyddogaethau ‘arferol’, megis dulliau atal cenhedlu tymor hir (dyfeisiau yn y groth/coiliau/mewnblaniadau) neu brofi am heintiau a drosglwyddir yn rhywiol lle nad oes unrhyw symptomau wedi cael eu hatal am y tro. Mae canllawiau wedi cael eu hailysgrifennu ar gyfer dulliau atal cenhedlu tymor hir oherwydd bod tystiolaeth yn awgrymu eu bod yn gweithio’n hwy nag y mae’n ei nodi ar drwydded y cynnyrch. https://www.fsrh.org/news/new-fsrh-patient-guide-advice-for-women-seeking-contraception/

Mae gweithio yn y maes gofal erthylu wedi bod yn arbennig o heriol. Mae pryder nad yw rhai menywod yn sylweddoli bod gwasanaethau erthylu dal i fod ar gael ac yna gallant ddod yn hwyrach yn eu beichiogrwydd pan fo gweithdrefnau erthylu’n fwy anodd. Yn ffodus, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithredu i alluogi dau newid hanfodol er mwyn caniatáu i barhau i ddarparu’r gwasanaeth:

  • Rheoli erthyliadau drwy ymgynghoriadau dros y ffôn
  • Y gallu i ddarparu meddyginiaeth erthylu er mwyn i fenywod ei chymryd yn eu cartrefi (fel arfer byddai’n rhaid gwneud hyn mewn clinig).

Mae hyn wedi trawsnewid cyflwyniad y gwasanaeth. Rydym bellach yn ymgymryd â’n hasesiadau meddygol dros y ffôn, gan weld menywod wyneb yn wyneb lle bo’n feddygol orfodol yn unig, megis cael sgan i gadarnhau nad oes beichiogrwydd ectopig. Gall menywod gasglu eu meddyginiaeth erthylu neu os ydynt yn hunan-ynysu, yn sâl neu’n methu â’i chasglu eu hunain, gall gael ei hanfon drwy bost cofrestredig. Yn fy ngwasanaeth fy hunan, rydym wedi sylwi at gynnydd o 50% yn y galw am ofal erthylu dros yr wythnosau diwethaf ac mae llawer o fenywod wedi nodi bod eu penderfyniad wedi cael ei ddylanwadu gan COVID-19, naill ai ansefydlogrwydd cymdeithasol neu ariannol neu anallu i ymdopi â mwy o blant.

Fel rhan o gyflawniad ein gwasanaeth mewn lleoliad gofal iechyd traddodiadol, rydym yn gallu gofyn yn uniongyrchol am orfodaeth neu drais domestig mewn amgylchedd diogel i fenywod. Rydym ni, fel ymarferwyr, yn arbennig o ymwybodol bod trais domestig yn cynyddu yn ystod y cyfnod gorfodol hwn o gyfyngiadau symud cymdeithasol. Un o’r camau diogelu rydym wedi’i weithredu yw rhoi cod i fenywod drwy e-bost, cyn eu bod yn derbyn galwad, fel y gallant ddweud wrth nyrs maent yn siarad â hi eu bod mewn perygl a gallwn gymryd y camau priodol.

Codwyd pryderon am Ofal Cynenedigol, Beichiogrwydd a Geni Plant dan gyfyngiadau COVID yn ystod y Caffi. Mae’r RCOG a Choleg Brenhinol Bydwragedd wedi llunio canllawiau defnyddiol iawn i annog menywod i gael mynediad i’w gofal cynenedigol. Un gamdybiaeth oedd efallai na fyddai menywod yn gallu cael partner genedigaeth; fodd bynnag, mae’r canllawiau’n nodi’n glir iawn y dylai menywod gael partner genedigaeth. Os oes gan y partner a ddewiswyd symptomau COVID-19, mae modd dewis partner genedigaeth arall.

 

Yn olaf, gofynnwyd i Olwen a minnau “Beth byddai’n gweledigaeth er mwyn gwella gofal iechyd menywod yng Nghymru?” Mae’r ddwy ohonom yn credu y dylai meddygon dderbyn hyfforddiant anghydraddoldeb rhyw o’r cychwyn cyntaf, a hoffwn i’r holl fenywod allu cael mynediad i arbenigwr iechyd menywod ym meddygfeydd deulu. Rwy’n hynod ffodus bod un yn fy meddygfa deulu (dyn!) a chredaf y dylai’r holl fenywod yng Nghymru gael mynediad i’r gofal hwn.

Roedd yn bleser o’r mwyaf gallu siarad â chynifer o fenywod i chwalu’r mythau ynghylch darpariaeth Gwasanaethau Iechyd Menywod bresennol dan COVID-19, a rhannu gwybodaeth a chyngor mawr eu hangen i fenywod ledled Cymru.

Cofiwch, mae bod yn ddiogel hefyd yn golygu gofyn am gymorth brys os oes ei angen arnoch.

Dr Jane Dickson yw Is-lywydd (Strategaeth) y Gyfadran Gofal Iechyd Rhyw ac Atgenhedlu (FSRH) ac ymgynghorydd mewn Gofal Iechyd Rhyw ac Atgenhedlu ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

@TheSexDoctorUK