Iaith Cymraeg & Cadwraeth Ddiwylliannol

Illustration of Mair Russell-Jones by Molly Allen

Mair Russell-Jones

Iaith Cymraeg & Cadwraeth Ddiwylliannol Y Celfyddydau

Ganwyd Mair Eluned Thomas yn 1917 ym Mhontycymer ger Pen-y-bont ar Ogwr. Cafodd ei dewis ar gyfer y gwaith datgodio tra oedd yn astudio Cerddoriaeth ac Almaeneg ym Mhrifysgol Caerdydd, ac roedd yn un o’r sifiliaid a fu’n datrys codau i’r llywodraeth yn Bletchley Park yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Byddai’n datgodio negeseuon drwy ddefnyddio peiriant Enigma, ond siaradodd hi ddim am y gwaith hwn tan 1998, gan ei bod wedi llofnodi’r Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol. Gyda chymorth ei mab, Gethin Russell-Jones, ysgrifennodd ei chofiant, My Secret Life in Hut Six, a gyhoeddwyd ar ôl ei marwolaeth.

Illustration of Llinos Medi by Molly Allen

Llinos Medi

Iaith Cymraeg & Cadwraeth Ddiwylliannol Y Celfyddydau

Llinos Medi yw arweinydd benywaidd cyntaf Cyngor Sir Ynys Môn ac arweinydd benywaidd ieuengaf yng Nghymru. Fe’i hetholwyd gyntaf yn 2013 fel Cynghorydd Plaid Cymru ar gyfer ward Talybolion, gwasanaethodd yn wrthblaid cyn dod yn arweinydd grŵp Plaid yn 2015. Yn 2017, cafodd Llinos ei hail-ethol gan ei hetholwyr a’i chymeradwyo’n ddiweddarach fel Arweinydd y Cyngor Sir yn ogystal â bod yn ddeiliad portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol yr awdurdod.

Fel Arweinydd, ei blaenoriaethau (fel yr adlewyrchir yng Nghynllun y Cyngor) yw:

• Creu’r amodau i bawb gyflawni eu potensial tymor hir
• Cefnogi oedolion a theuluoedd bregus a’u cadw’n ddiogel, yn iach ac mor annibynnol â phosib a
• Gweithio mewn partneriaeth â’n cymunedau, i sicrhau eu bod yn gallu ymdopi’n effeithiol â newid a datblygiadau wrth amddiffyn ein hamgylchedd naturiol.

Mae Llinos yn cadeirio Gweithrediaeth y Cyngor ac yn dal y portffolio gwasanaethau cymdeithasol. Mae hi wedi cymryd rôl weithredol ar faterion rhanbarthol gan ganolbwyntio ar economi, iechyd a lles Gogledd Cymru. Fel mam sengl i ddau o blant ifanc, mae’n awyddus i gysylltu ac ysbrydoli pobl ifanc Ynys Môn; eu haddysgu am wasanaethau’r Cyngor a rhoi llais iddynt wrth lunio ei nodau a’i amcanion yn y dyfodol. Mae hyn wedi helpu’r awdurdod i wella ei berthynas â phobl ifanc a chael gwell dealltwriaeth o’u hanghenion. Mae Llinos bob amser yn awyddus i weld pobl ifanc yn ffynnu ac yn ddiweddar mae wedi dechrau rhannu ei sgiliau arwain a’i phrofiadau mewn gwleidyddiaeth ag arweinwyr y dyfodol. Mae hi’n gobeithio bod ei gweithdai yn ysbrydoli’r rhai sydd eisiau datblygu a llwyddo.

Illustration of Kate Bosse-Griffiths by Molly Allen

Kate Bosse-Griffiths

Addysg Iaith Cymraeg & Cadwraeth Ddiwylliannol Y Celfyddydau

Yn enedigol o’r Almaen, gwnaeth Kate Bosse-Griffiths gyfraniad unigryw i lenyddiaeth Gymraeg yr ugeinfed ganrif ac mae’n cael ei chofio fel Eifftolegydd o fri. Wedi dianc rhag erledigaeth y Natsïaid yn 1936, aeth siwrnai Kate â hi i’r Pentre yn y Rhondda ac yna i Abertawe. Meistrolodd y Gymraeg ac ysgrifennu nifer o gerddi a straeon yn Gymraeg. Cyfrannodd at ddarlledu cynnar yn y Gymraeg (1950au) a chafodd ei phenodi’n Guradur Amgueddfa Wellcome yn Adran y Clasuron yng Ngholeg Prifysgol Abertawe (1970au). Yno y treuliodd weddill ei hoes, yn gwneud yr hyn yr oedd yn ei hoffi fwyaf: catalogio, trefnu ac ymchwilio i arteffactau o’r Aifft.

Illustration of Gillian Clarke by Molly Allen

Gillian Clarke

Iaith Cymraeg & Cadwraeth Ddiwylliannol Y Celfyddydau

Yn enedigol o Gaerdydd, mae Gillian Clarke wedi cyhoeddi gwaith fel bardd a dramodydd. Mae’n gyn olygydd ar The Anglo-Welsh Review ac ar hyn o bryd hi yw llywydd canolfan ysgrifennu Tŷ Newydd. Roedd hefyd yn un o’r rhai a sefydlodd y ganolfan yn 1990. Mae myfyrwyr TGAU a Safon Uwch ledled Prydain yn astudio ei barddoniaeth. Ymhlith y gwobrau y mae wedi’u hennill mae Gwobr Glyndŵr am Gyfraniad Eithriadol i’r Celfyddydau yng Nghymru (1999), Bardd Cenedlaethol Cymru (2008), yr ail berson o Gymru i ennill Medal Aur y Frenhines am Farddoniaeth (2010) a Gwobr Farddoniaeth Cymdeithas Wilfred Owen (2012).

Illustration of Eirwen Gwynn by Molly Allen

Eirwen Gwynn

Iaith Cymraeg & Cadwraeth Ddiwylliannol Y Celfyddydau

Ganwyd Eirwen Gwynn yn Lerpwl i rieni o Gymry. Roedd yn genedlaetholwraig ac yn awdur. Enillodd PhD mewn Crisialeg Pelydr-X, a bu’n dysgu ac yn darlithio am wyddoniaeth. Ysgrifennodd sawl llyfr a chyhoeddi dros 1,000 o erthyglau mewn cyhoeddiadau megis y Scientist, y New Scientist, yr Observer a’r Scientific American. Yn 2006, enillodd Eirwen Fedal Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol a daeth yn aelod anrhydeddus o Orsedd y Beirdd.

100 Welsh Women illustrations by Molly Allen