Iaith Cymraeg & Cadwraeth Ddiwylliannol

Illustration of Audrey Williams by Molly Allen

Audrey Williams

Iaith Cymraeg & Cadwraeth Ddiwylliannol Y Celfyddydau

Wedi’i geni a’i magu yn Ninas Powys, roedd Audrey Williams yn archeolegydd proffesiynol a fu’n cloddio ar safleoedd hanesyddol enwog ledled y DU, gan gynnwys Teml Mithras yn Llundain, y Barbican a Phalmant Rhufeinig Caergaint, ynghyd â safleoedd yn agosach at ei chartref megis Comin Fairwood yn Abertawe a Rhosili ar Benrhyn Gŵyr. Dechreuodd ymwneud ag Amgueddfa Abertawe ac Athrofa Frenhinol De Cymru ar ôl astudio Saesneg yn Rhydychen, a rhwng 1941 ac 1944 roedd yn Arolygydd Henebion Cynorthwyol i Weinyddiaeth Gwaith ac Adeiladau Llywodraeth Prydain. Ei gwaith oedd cloddio safleoedd archeolegol cyn iddynt gael eu datblygu i greu amddiffynfeydd neu safleoedd milwrol, ond er iddi weithio bob dydd ar safle Teml Mithras, yn wahanol i’w chyfarwyddwr a’i chydweithiwr yr Athro William Grimes, ei enw ef yn unig sydd i’w weld ar y safle.

Illustration of Angharad Tomos by Molly Allen

Angharad Tomos

Iaith Cymraeg & Cadwraeth Ddiwylliannol Y Celfyddydau

Mae Angharad Tomos yn ymgyrchydd iaith ddigyfaddawd, a’i gwreiddiau yn ddwfn yn Nyffryn Nantlle, yn un o bum chwaer,ac yn wyres i’r Sosialydd, David Thomas.
Roedd yn gadeirydd Cymdeithas yr Iaith rhwng 1982-84 ac fe’i carcharwyd fwy nag unwaith am ymgyrchoedd iaith. Mae’n llenor disglair ac wedi ysgrifennu a darlunio nifer helaeth o lyfrau i blant gan gynnwys ei chyfres Rwdlan, a gyhoeddwyd am y tro cyntaf ym 1983. Mae wedi ennill coron Eisteddfod yr Urdd ddwywaith, Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith, a Gwobr Tir na n-Og ddwywaith. Enillodd Wobr Mary Vaughan Jones yn 2009 am ei chyfraniad tuag at lenyddiaeth plant yng Nghymru. Ysgrifennodd hanner dwsin o nofelau i oedolion, a llwyfannwyd drama o’i heiddo gan y Theatr Genedlaethol yn 2012. Yn ddiweddar, mae wedi sgwennu tair nofel i bobl ifanc yn seiliedig ar ddigwyddiadau hanesyddol. Mae’n byw ym Mhenygroes gyda’i gŵr Ben a’i mab 15 oed, Hedydd.

Illustration of Sarah ""Cranogwen"" Rees by Molly Allen

Sarah “Cranogwen” Rees

Iaith Cymraeg & Cadwraeth Ddiwylliannol Y Celfyddydau

Cafodd Sarah Jane Rees ei geni ger Llangrannog yng nghefn gwlad Ceredigion, ac roedd yn eiriolwraig frwd gydol ei hoes dros addysg i fenywod. Gwrthododd fynd i wneud prentisiaeth fel gwniadwraig pan adawodd yr ysgol, a threuliodd ddwy flynedd ar y môr yn gweithio ar long ei thad, cyn dychwelyd i ysgol forwrol yn Llundain lle’r enillodd gymhwyster a fyddai’n caniatáu iddi fod yn bennaeth ar long yn unrhyw ran o’r byd. Wedi iddi ddychwelyd adref, cymerodd yr awenau yn yr Ysgol Brydeinig i ferched a bechgyn, ond roedd hefyd yn derbyn dynion ifanc a oedd am astudio morwriaeth. Yn sgil hynny, byddai llawer o forwyr a chapteiniaid y dyfodol yn cyhoeddi’n falch eu bod wedi cael eu hyfforddiant morwrol cyntaf gan fenyw. Roedd hefyd yn fardd nodedig yn ystod oes Fictoria, dan yr enw Cranogwen, a hi oedd y fenyw gyntaf i ennill yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1865 gyda ‘Y Fodrwy Briodasol’, portread teimladwy o fywyd menyw briod. Hi oedd y fenyw gyntaf erioed i olygu cylchgrawn Cymraeg i fenywod, Y Frythones, i fenywod ifanc o’r dosbarth gweithiol yn bennaf. Hi hefyd sefydlodd Undeb Dirwestol Merched y De.

100 Welsh Women illustrations by Molly Allen