Rydym yn recriwtio Ymddiriedolwyr!

Dydd Llun Awst 2nd, 2021
Poster that reads We Are Recruiting

Yn ein CCB ar 16 Tachwedd 2021, fe fydd tri o’n hymddiriedolwyr gwych a chefnogol yn ein gadael. Rydym yn ddiolchgar i Maria Mesa, Kerry-Lynne Pyke, a Joy Kent am eu cyfraniadau enfawr i RhCM Cymru ers iddynt fod gyda ni, wrth ddatblygu ein strategaeth a’n cefnogi i feithrin capasiti RhCM.

Felly, rydym yn chwilio am tri ymddiriedolwr newydd i ymuno â’n bwrdd deinamig a chefnogol. Yn dilyn ein hadolygiad blynyddol o ymddiriedolwyr bwrdd cyfredol rydym wedi nodi bylchau mewn sgiliau penodol sy’n cynnwys Cyfathrebu,   Masnachol a Chodi Arian. Mae gennym ddau ymddiriedolwr o Ogledd Cymru, un o Aberystwyth, a saith o Dde Cymru. Hoffem gael ymddiriedolwyr o fannau eraill yng Nghymru. Byddem hefyd yn benodol yn croesawu ymgeiswyr Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME) ac anabl oherwydd ein bod yn ymrwymedig i ddull gwir gynhwysol.

Yr hyn rydym yn chwilio amdano

Bydd ein hymgyrch gynghrair Diverse 5050, ein prosiect mentora blaenllaw, caffis RhCM, ein haelodaeth amrywiol a’n gallu i ddylanwadu ar Lywodraeth Cymru a’i herio o ddiddordeb i chi ac yn eich ysbrydoli i gymryd rhan yn ein sefydliad  bach ond dylanwadol a’i ddatblygu.

Yn ddelfyrdol, byddwch yn aelod o RhCM Cymru – gallwch ymuno fan hyn os na ydych yn aelod yn barod. Fe fyddwch yn meddu ar rwydwaith cryf, ymrwymiad cryf i’n gwerthoedd â’n gweledigaeth am Gymru heb wahaniaethu ar sail rhyw, a byddwch yn gallu cynnig eich egni, eich amser, a’ch meddwl strategol.

Cynhelir cyfarfodydd bwrdd unwaith bob chwarter a byddwn yn cynnal diwrnod strategaeth blynyddol. Ar hyn o bryd, cynhelir cyfarfodydd bwrdd ar-lein a bydd cyfleusterau deialu i mewn ar gael os byddwn yn dychwelyd i gyfarfodydd corfforol.

Gwybodaeth am RhCM Cymru

Ein gweledigaeth yw Cymru’n rhydd rhag gwahaniaethu ar sail rhyw – Cymru lle mae gan fenywod a dynion awdurdod a chyfleoedd cyfwerth i lunio’r gymdeithas a’u bywydau eu hunain.

Rydym yn gweithio gyda’n cynghrair fywiog o aelodau sefydliadol ac aelodau unigol i drawsnewid y gymdeithas. Byddwn yn Cysylltu, yn Ymgyrchu ac yn Hyrwyddo menywod fel bod ein gweledigaeth yn cael ei gwireddu.

Dyma’n tair blaenoriaeth strategol:

  • Datblygu a symud y gynghrair drwy estyn allan i gynulleidfaoedd newydd ledled Cymru.
  • Ymgyrchu dros arweinyddiaeth Amrywiaeth 50:50 yn y Senedd ac yn y Llywodraeth Leol
  • Cryfhau hawliau menywod drwy sicrhau bod egwyddorion CEDAW wedi’u cynnwys yng nghyfraith Cymru

Gallwch weld mwy o wybodaeth am ein strategaeth, yr hyn rydym yn brwydro amcano a’n holl waith yma.

Os hoffech drafod y rôl ymddiriedolwr, e-bostiwch recruitment@wenwales.org.uk i drefnu amser i sgwrsio â’r Cyfarwyddwr Catherine Fookes, neu un o’n ymddiriedolwyr cyfredol os hoffech. Nodwch ‘Swydd Wag Ymddiriedolwr’ yn llinell pwnc eich e-bost.

 

Sut i gyflwyno cais:

  • Darllenwch y disgrifiad rôl a’r Pecyn Gwybodaeth hwn
  • Anfonwch eich CV, datganiad byr (300 o eiriau ar y mwyaf) o’r hyn y gallwch ei gyflwyno i’r bwrdd, a’r ffurflen ddemograffig i recruitment@wenwales.org.uk gan nodi ‘Swydd Wag Ymddiriedolwr’ ar frig eich e-bost
  • Dylai’r datganiad byr fod yn rhywbeth rydych chi’n hapus inni ei gyhoeddi fel rhan o bleidleisio am ymddiriedolwyr yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol
  • Cadarnhewch hefyd yn eich e-bost agoriadol nad ydych wedi cael eich gwahardd gan y gyfraith rhag gweithredu fel ymddiriedolwr
  • Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw dydd Iau 30 Medi am 18:00
  • CCB ar-lein lle bydd aelodau RhCM yn pleidleisio ar yr ymddiriedolwyr: 16 Tachwedd 2021 o 12:30 ymlaen

Rydym hefyd yn recriwtio Cadeirydd y Bwrdd Ymddiriedolwyr – darganfyddwch mwy fan hyn.