Rydyn ni’n recriwtio Cynorthwyydd Gweinyddol

Dydd Llun Rhagfyr 5th, 2022

Rhan-amser: 7.5 awr yr wythnos, dros 2 ddiwrnod o leiaf

Llawrydd am 6 mis Ionawr 2023 – Mehefin 2023

 

Rydym yn chwilio am Gynorthwyydd Gweinyddol rhan-amser llawn cymhelliant a dynamig, sydd ag agwedd gadarnhaol, egnïol i weithio’n agos gyda Chyfarwyddwr RhCM Cymru.

Os oes gennych sgiliau trefnu cryf, yn ogystal â phrofiad o reoli dyddiadur, a’ch bod yn mwynhau cyfrannu at amgylchedd gwaith caredig, dynamig a chadarnhaol, edrychwn ymlaen at glywed gennych.

Bydd y rôl hon yn canolbwyntio ar waith gweinyddol ar gyfer RhCM, gan gynnwys paratoi papurau bwrdd, a chymorth amrywiol i redeg y sefydliad, yn ôl yr angen.

Rydym yn dîm o wyth ffeminydd, sy’n ymroddedig i wireddu gweledigaeth RhCM o Gymru sy’n rhydd o wahaniaethu ar sail rhywedd. Wrth i RhCM dyfu, felly hefyd ochr weinyddol y sefydliad, felly hoffem dreialu cael cynorthwyydd gweinyddol i ryddhau peth o amser y Cyfarwyddwr, a’r Swyddog Cyllid.

Bydd gennych y rhinweddau canlynol:

  • Yn ddynamig ac yn llawn cymhelliant
  • Yn gallu gweithio’n gyflym heb fawr ddim goruchwyliaeth
  • Yn ymrwymedig i groestoriadedd a Chymru sy’n rhydd o wahaniaethu ar sail rhywedd
  • Yn cyd-fynd â gwerthoedd RhCM Cymru: Cyfrifol, Di-ildio, Caredig

 

Bydd gennych brofiad o’r canlynol:

  • Rheoli dyddiadur a thasgau swyddfa
  • Cymryd cofnodion a threfnu agendâu cyfarfodydd
  • Yn ddelfrydol, byddwch hefyd yn siaradwr Cymraeg

 

  • Swydd lawrydd am 6 mis yw hon
  • Lleoliad: Hyblyg, rydym yn gweithio o bell yn bennaf, teithio misol posibl i swyddfa Caerdydd
  • £14 yr awr
  • Oriau: Rhan-amser: 7.5 awr yr wythnos, yn ddelfrydol wedi’u gwasgaru ar draws yr wythnos, nid y cyfan ar un diwrnod
  • Y math o gontract: Tymor penodol: Cytundeb llawrydd 6 mis yn dechrau ym mis Ionawr 2023
  • Rydym yn gyflogwr hyblyg a chefnogol

Disgrifiad rôl llawn a gofynion

Gwneud Cais

  • Anfonwch eich CV a datganiad 250 gair yn nodi pam yr ydych yn ffitio’r rôl
  • recruitment@wenwales.org.uk
  • Dyddiad cau: Dydd Mercher 4 Ionawr 1800
  • Cyfweliadau dros Zoom: Dydd Gwener 6 Ionawr 2023
  • Unrhyw gwestiynau? Anfonwch neges e-bost at catherine@wenwales.org.uk