Rydym yn recriwtio trysorydd newydd

Dydd Gwener Mai 20th, 2022
Poster that reads We Are Recruiting

A ydych yn gobeithio gadael eich marc ar gydraddoldeb i fenywod yng Nghymru?

Mae RhCM Cymru yn bwriadu recriwtio Trysorydd newydd i oruchwylio’r cam cyffrous nesaf yn natblygiad ein helusen aelodaeth, yn hyrwyddo ac yn ymgyrchu dros hawliau menywod a chydraddoldeb yng Nghymru.

Bydd ein prosiect partneriaeth mentora, Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal, ein ymgyrch 5050Amrywiol, ein Maniffesto ar gyfer Hawliau Menywod yng Nghymru, ein gwaith gyda’r cyfryngau, ein haelodaeth neu ein gallu i ddylanwadu ar Lywodraeth Cymru a’i herio, i gyd yn ennyn eich diddordeb ac yn eich ysbrydoli i gymryd rhan yn ein sefydliad bach ond dylanwadol.

Hoffem i’n Trysorydd newydd fod yn gyfrifydd rheoli cymwysedig ar lefel rheolwr, sydd â phrofiad o eistedd ar fwrdd, ac sy’n gallu arwain trefniadau llywodraethu ariannol ein sefydliad.

Y prif gyfrifoldebau – y Trysorydd

Prif gyfrifoldebau’r Trysorydd (yn ogystal â chyfrifoldebau cyffredinol ymddiriedolwr) yw:

 

  • Cynnal trosolwg o fusnes y sefydliad, gan sicrhau bod y bwrdd yn blaenoriaethu hyfywedd ariannol, ynghyd â chofnodion a gweithdrefnau ariannol priodol, ac yn craffu arnynt.
  • Cadeirio’r Pwyllgor Llywodraethu a Thaliadau Cydnabyddiaeth (yn chwarterol).
  • Cysylltu â’r Swyddog Cyllid a’r Cyfarwyddwr ynghylch materion ariannol.
  • Cefnogi’r Cyfarwyddwr i sicrhau bod gan yr elusen gronfa wrth gefn a pholisïau buddsoddi priodol.
  • Cefnogi’r Bwrdd a’r Uwch-reolwyr i sicrhau bod y sefydliad yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth.
  • Cefnogi’r Cyfarwyddwr i sicrhau bod y cyfrifon yn cael eu harchwilio gan gwmni addas, a bod unrhyw argymhellion yn cael eu gweithredu.
  • Cefnogi’r Cyfarwyddwr i sicrhau bod y bwrdd yn cael gwybod am ei ddyletswyddau a’i gyfrifoldebau ariannol.
  • Cyfrannu at strategaeth codi arian y sefydliad.

 

Gwybodaeth am RhCM

Gweledigaeth RhCM

Gweledigaeth RhCM yw Cymru sy’n rhydd o wahaniaethu rhwng y rhywiau.

Y Genhadaeth

Cenhadaeth Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru (RhCM) yw cynnal hawliau menywod ac ymladd dros gydraddoldeb rhwng y rhywiau trwy weithio gyda’n haelodau amrywiol i ymhelaethu ar y materion sydd o bwys iddynt, sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed, a’u grymuso.

I gael rhagor o wybodaeth

Os oes gennych ddiddordeb mewn cael trafodaeth anffurfiol am yr hyn y mae’r rôl yn ei olygu, cysylltwch â Catherine Fookes, Cyfarwyddwr RhCM Cymru catherine@wenwales.org.uk

Y broses ymgeisio

I wneud cais am y rôl hon, anfonwch eich CV, ynghyd â llythyr eglurhaol yn amlinellu eich addasrwydd ar gyfer y rôl (dim mwy na dwy ochr A4) at sylw’r Cadeirydd, i recruitment@wenwales.org.uk

Dyddiad cau: 18:00 ar dydd Gwener 10 Mehefin 2022