Rydyn ni’n recriwtio Cyfarwyddwr newydd
Ni yw Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru, a’n gweledigaeth yw creu Cymru sy’n rhydd o wahaniaethu ar sail rhywedd. Ein cenhadaeth yw Cymru lle y mae gan bawb awdurdod a chyfle cyfartal i lunio cymdeithas a’u bywydau eu hunain.
Mae RhCM Cymru yn recriwtio Cyfarwyddwr newydd i oruchwylio’r cam cyffrous nesaf yn natblygiad ein helusen aelodaeth, sy’n hyrwyddo ac yn ymgyrchu dros hawliau menywod a chydraddoldeb yng Nghymru. Rydym yn sefydliad bach ac mae gennym uchelgeisiau mawr, felly bydd hyn yn heriol, ond, gyda thîm RhCM Cymru, ei bartneriaid, a’i aelodau wrth eich ochr, bydd y cyfnod hwn yn ddiddorol, yn fewnweledol, yn ysbrydoledig ac yn rhoi llawer o foddhad.
Bydd ein tîm gwych, ein rhaglen fentora arobryn, Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal, ein hymgyrch 5050Amrywiol lwyddiannus, ein Cerdyn Sgorio Ffeministaidd, ein gwaith yn y cyfryngau, a’n haelodaeth amrywiol, i gyd yn ysgogi eich diddordeb ac yn eich ysbrydoli i gymryd rhan yn ein sefydliad bach ond dylanwadol.
Felly, os ydych yn ymrwymedig i Gymru sy’n rhydd o wahaniaethu ar sail rhywedd, ac yn fedrus wrth wneud y canlynol: llywio meysydd cymhleth cydraddoldeb, cynhwysiant, a hawliau dynol; arwain, tywys a harneisio sefydliad gwych a thîm amrywiol; a meithrin perthnasoedd a phartneriaethau cadarn, yna byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
I gael sgwrs anffurfiol am y rôl ac am RhCM Cymru, mae croeso i chi gysylltu â Kate Carr: Kate@arc.cymru
Lawrlwythwch y pecyn swydd fan hyn
Bydd y canlynol yn wir amdanoch:
- Yn ddynamig ac yn llawn cymhelliant
- Yn meddu ar hanes o ennill ymgyrchoedd
- Yn rhwydweithiwr a chyfathrebwr rhagorol
- Yn fedrus wrth feithrin a chynnal partneriaethau cryf â sefydliadau eraill
- Yn ymrwymedig i groestoriadedd a Chymru sy’n rhydd o wahaniaethu ar sail rhywedd
- Yn cyd-fynd â gwerthoedd RhCM Cymru: Cyfrifol, Di-ildio, Caredig
Ein Pecyn
£54,000 y flwyddyn
37.5 awr yr wythnos, gweithio hyblyg
33 diwrnod o wyliau blynyddol, gan gynnwys Gwyliau Banc
Pensiwn Cyfrannol
Dyddiad cau: 7fed Gorffennaf, 18:00