Rydym yn edrych am Ymddiriedolwyr newydd
Yn ein CCB ar 7 Tachwedd 2023, fe fydd tair o’n hymddiriedolwyr gwych a chefnogol yn ein gadael. Rydym yn ddiolchgar i Tania Silva, Rahila Hamid, a Rhian Davies am eu cyfraniadau enfawr i RhCM Cymru ers iddynt fod gyda ni, wrth ddatblygu ein strategaeth a’n cefnogi i feithrin capasiti RhCM.
Felly, rydym yn chwilio am tair ymddiriedolwr newydd i ymuno â’n bwrdd deinamig a chefnogol. Yn dilyn ein hadolygiad blynyddol o ymddiriedolwyr cyfredol rydym wedi nodi bylchau mewn sgiliau penodol sy’n cynnwys Adnoddau Dynol, Technoleg Gwybodaeth, a chyllid. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn ymddiriedolwyr o Ogledd, Canolbarth neu Orllewin Cymru i ehangu daearyddiaeth ein Bwrdd. Byddem hefyd yn benodol yn croesawu ymgeiswyr Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME) ac anabl oherwydd ein bod yn ymrwymedig i ddull gwir gynhwysol.
Yr hyn rydym yn chwilio amdano
Bydd ein hymgyrch gynghrair 5050Amrywiol, ein prosiect mentora Pwer Cyfartal Llais Cyfartal, ein digwyddiadau Caffi RhCM, ein haelodaeth amrywiol a’n gallu i ddylanwadu ar Lywodraeth Cymru a’i herio o ddiddordeb i chi ac yn eich ysbrydoli i gymryd rhan yn ein sefydliad bach ond dylanwadol a’i ddatblygu.
Yn ddelfyrdol, byddwch yn aelod o RhCM Cymru – gallwch ymuno fan hyn os na ydych yn aelod yn barod. Fe fyddwch yn meddu ar rwydwaith cryf, ymrwymiad cryf i’n gwerthoedd â’n gweledigaeth am Gymru heb wahaniaethu ar sail rhyw, a byddwch yn gallu cynnig eich egni, eich amser, a’ch meddwl strategol.
Cynhelir cyfarfodydd bwrdd unwaith bob chwarter a byddwn yn cynnal diwrnod strategaeth blynyddol. Ar hyn o bryd, cynhelir cyfarfodydd bwrdd ar-lein a bydd cyfleusterau deialu i mewn ar gael os byddwn yn dychwelyd i gyfarfodydd corfforol.
Gwybodaeth am RhCM Cymru
Ein gweledigaeth yw Cymru’n rhydd rhag gwahaniaethu ar sail rhyw – Cymru lle mae gan bawb awdurdod a chyfleoedd cyfwerth i lunio’r gymdeithas a’u bywydau eu hunain.
Rydym yn gweithio gyda’n cynghrair fywiog o aelodau sefydliadol ac aelodau unigol i drawsnewid y gymdeithas. Byddwn yn Cysylltu, yn Ymgyrchu ac yn Hyrwyddo menywod fel bod ein gweledigaeth yn cael ei gwireddu.
Dyma’n tair blaenoriaeth strategol:
- Ymgyrchu dros arweinyddiaeth Amrywiaeth 50:50 yn y Senedd ac yn y Llywodraeth Leol
- Cryfhau hawliau menywod drwy sicrhau bod egwyddorion CEDAW wedi’u cynnwys yng nghyfraith Cymru
- Gwneud gofal yn deg