WEN yn ennill dwy wobr yng Ngwobrau Amrywiaeth a Chynhwysiant WalesOnline

Dydd Iau Gorffennaf 14th, 2022
Image by Mark Lewis

Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru yn ennill dwy wobr yng Ngwobrau Amrywiaeth a Chynhwysiant WalesOnline cyntaf a gynhaliwyd yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 13eg Gorffennaf 2022

Roeddem yn falch o ennill mewn dau gategori – ar gyfer cynllun mentora Pwer Cyfartal Llais Cyfartal (EPEV) yn y categori Rhwydwaith Cyfoedion y Flwyddyn, ac ar gyfer yr ymgyrch 5050Amrywiol yn y categori Menter Cydraddoldeb Rhywedd y Flwyddyn. Diolch yn fawr iawn i’n sefydliadau partner ar y rhaglen EPEV – EYST, Anabledd Cymru, a Stonewall Cymru – ac i’n partneriaid ymgyrchu 5050Amrywiol EYST, Cyngor Hil Cymru, a Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru, yn ogystal â holl gefnogwyr yr ymgyrch. Mwynhaodd Tîm RhCM y noson ochr yn ochr â chymaint o sefydliadau ac unigolion anhygoel a enwebwyd am eu gwaith gwerthfawr.

Tîm RhCM yn ystod y gwobrau