Noson Salsa RhCM Cymru

Dydd Llun Mawrth 20th, 2023

Ar Ddydd Gwener 10fed Mawrth daeth 100 o bobl ynghyd ar gyfer noson fendigedig o ddawnsio i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod a chodi arian ar gyfer Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru.

Diolch i bawb a fynychodd Noson Salsa, prynodd tocyn raffl, gwnaeth cyfraniad, neu fel arall ein cefnogi mewn unrhyw ffordd. Roedd y digwyddiad yn y Neuadd Farmor odidog yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd yn ddathliad gwych ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod wrth i ni ddawnsio trwy gydol y noson i salsa, bachata, a kizomba gyda Salsa Buena, joio bwyd blasus gan Keralan Karavan, a mwynhau egni gwefreiddiol yr ystafell!
Codwyd £2370 tuag at ein gwaith dros Gymru sy’n rhydd o wahaniaethu ar sail rhywedd – diolch i chi gyd.
Diolch arbennig i’r canlynol am eu rhoddion caredig:
Suzy Davies
Jennifer Ramsay
Zoe Grainger