RhCM Cymru yw cartref newydd Grŵp Cyllideb Menywod Cymru

Dydd Mercher Tachwedd 1st, 2023

Yn dilyn cau trist Chwarae Teg, mae Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru yn falch y bydd gwaith hanfodol Grŵp Cyllideb Menywod Cymru yn parhau yn ei gartref newydd yn RhCM.

Mae’n bleser gennym groesawu Hannah Griffiths i dîm RhCM fel Cydlynydd a Chynorthwyydd Polisi GCMC. Bydd Hannah yn gweithio’n agos gyda’n Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus ac aelodau eraill o’r tîm RhCM, i sicrhau bod GCMC yn parhau i ddylanwadu a llywio polisi cyhoeddus i hyrwyddo economi sy’n cyfartal ar sail rhywedd drwy cyllidebu ar sail rhywedd.

Dywedodd Cyfarwyddwr RhCM, Victoria Vasey:

“Rydym yn falch o groesawu GCMC i’w gartref newydd yn Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru, lle mae gwaith y prosiect i hyrwyddo economi cyfartal ar sail rhywedd yn cyd-fynd yn naturiol wrth i ni weithio dros Gymru sy’n rhydd o wahaniaethu ar sail rhywedd. Mae’r argyfwng costau byw yn parhau i roi pwysau gref ar fenywod yng Nghymru, ac mae craffu y GCMC yn hollbwysig i ddwyn y rhai sy’n gwneud penderfyniadau cyllidebol i gyfrif.”

Dywedodd Bwrdd Ymddiriedolwyr GCMC:

Diolch i Ymddiriedolwyr a staff RhCM Cymru a Chwarae Teg, mae’n bleser gennym gadarnhau y bydd gwaith GCMC yn parhau o’i gartref newydd yn RhCM Cymru. Mae’n hanfodol yn ystod yr argyfwng costau byw hwn bod lleisiau menywod yn parhau i gael eu clywed, a bod gwariant cyhoeddus yn cael ei graffu i sicrhau ei fod yn hyrwyddo cydraddoldeb ac nad yw’n tanio anghydraddoldeb systemig ymhellach. Mae GCMC wedi ymrwymo i ddarparu’r llais hwnnw.”

Dywedodd Hannah Griffiths, Cydlynydd a Chynorthwy-ydd Polisi WWBG:

“Mae’n rhyddhad enfawr y gall gwaith GCMC barhau ar ôl i Chwarae Teg ddod i ben yn drist. Yn y cyd-destun presennol o gostau byw cynyddol a phwysau cyllidebol, mae hybu cydraddoldeb rhywedd ym mhrosesau cyllidebol Cymru a’r DU yn bwysicach nag erioed. Rwyf wrth fy modd bod prosiect GCMC wedi dod o hyd i gartref newydd o fewn RhCM Cymru ac edrychaf ymlaen yn fawr at barhau â’i waith pwysig yno.”

Os hoffech gael y wybodaeth ddiweddaraf am waith GCMC sydd ar y gweill, dilynwch ni ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol (X a LinkedIn) neu cofrestrwch ar gyfer ein rhestr bostio yma.