RhCM Cymru ac Oxfam Cymru yn lansio Cerdyn Sgorio Ffeministaidd 2022
Adroddiad newydd yn galw am Gomisiynydd Menywod i Gymru o ganlyniad i rwystrau sylweddol i gydraddoldeb rhywedd
Mae elusennau yng Nghymru wedi galw am Gomisiynydd Menywod wrth i’r adroddiad dynnu sylw at rwystrau sylweddol i gydraddoldeb rhywedd.
Mae Cerdyn Sgorio Ffeministaidd 2022, a luniwyd gan Rwydwaith Cydraddoldeb Menywod (RhCM) Cymru ac Oxfam Cymru, yn dangos cyfres o gipluniau o berfformiad Llywodraeth Cymru mewn chwech maes allweddol i gydraddoldeb menywod yng Nghymru.
Gwnaeth fersiwn eleni o’r cerdyn sgorio ddarlunio bod angen gwneud llawer os yw Cymru am fod yn genedl ffeminyddol, a bodloni’r uchelgais o Gymru fel y lle mwyaf diogel yn Ewrop i fod yn fenyw.
Yn wahanol i’r fersiwn flaenorol o’r Cerdyn Sgorio a luniwyd cyn cyfyngiadau Covid-19 y DU ym mis Chwefror 2020, mae’n glir nad oes llawer o gynnydd wedi’i wneud a bod yr hyn sydd wedi cael ei wneud yn fregus, gan fethu â gwrthsefyll pwysau’r pandemig a’r argyfwng costau byw parhaus.
Mae’r cerdyn sgorio – sy’n defnyddio system goleuadau traffig – yn tynnu sylw at y camau gweithredu mae eu hangen i wella. Mae meysydd megis cyfrifoldebau gofalu a chyllid deg angen sylw ar frys oherwydd eu bod wedi gwaethygu o oren i goch ers yr adroddiad diwethaf.
Mae’r coronafeirws wedi gwaethygu’r heriau y mae menywod a merched yn eu hwynebu ac mae wedi gwaethygu anghydraddoldebau, yn enwedig i fenywod sy’n profi gwahaniaethu croestoriadol. Mae RhCM Cymru ac Oxfam Cymru yn credu mai cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw cymryd camau gweithredu cyflym a phenderfynol i sicrhau na fyddant yn cael eu dal yn ôl am flynyddoedd i ddod.
Meddai Sarah Rees, Pennaeth Oxfam Cymru:
“Cyhoeddwyd ein Cerdyn Sgorio blaenorol wrth i ni fynd i aflonyddwch digyffelyb byd-eang y pandemig.
Dyma adeg lle y gwnaeth pawb weld y llwyth gwaith annheg ar fenywod; cyfrifoldeb a dyfodd wrth i fenywod ymwneud â llwyth gwaith cynyddol fel y prif ofalwyr yn ein cymdeithas.
Nawr, mewn argyfwng costau byw byd-eang, mae llwyth gwaith menywod unwaith eto’n tyfu’n beryglus.”
Meddai Catherine Fookes, Cyfarwyddwr Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru:
“Nawr yw’r amser i Lywodraeth Cymru greu rôl Comisiynydd Menywod, a fyddai’n hyrwyddo ac yn warcheidwad menywod yng Nghymru, fel y mae’r Comisiynydd Plant a’r Comisiynydd Pobl Hŷn i’w hetholwyr.
Byddai’r rôl yn darparu arweinyddiaeth drawslywodraethol ac yn helpu i waredu’r wreig-gasineb a’r anghydraddoldeb systemig y mae menywod yn eu hwynebu yng Nghymru.
Os nad ydym yn gweithredu nawr, byddai cynnydd ar anghydraddoldeb rhywedd yn cael ei golli i genhedlaeth arall o fenywod.”
Nodiadau i’r Golygyddion
Gallwch ddarllen Cerdyn Sgorio Ffeministaidd 2022 yma > https://wenwales.wpengine.com/wp-content/uploads/2022/07/Cerdyn-Sgorio-Feministaidd-2022.pdf
Llunnir y Cerdyn Sgorio Ffeministaidd gan Oxfam Cymru a Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod (RhCM). Ymchwiliwyd gan Laura Shobiye, ymchwilydd PhD, a’i olygu gan Dr Jessica Laimann, RhCM Cymru.
Am bob maes polisi, gwnaethom ystyried datganiadau Llywodraeth, y Rhaglen Lywodraethu, deddfwriaethau, polisïau ac arfer perthnasol, archwilio tystiolaeth gan arbenigwyr ym mhob maes, dadansoddi ystadegau lle’r oeddent ar gael a siarad ag arbenigwyr ym mhob maes. Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb a wnaeth rannu eu hamser, eu gwybodaeth a’u data. Gwnaethom raddio pob maes gan ddefnyddio system goleuadau traffig (coch, oren a gwyrdd), gan nodi lefel y cynnydd tuag at gydraddoldeb i fenywod a merched yng Nghymru.
Caiff Cerdyn Sgorio Ffeministaidd 2022 ei lansio’n ffurfiol ar 12 Gorffennaf 2022 yn y Senedd. Cynhelir y digwyddiad lansio yn Ystafell Briffio’r Cyfryngau’r Senedd rhwng 12:15 a 13:15, ac fe’i noddir gan Sioned Williams AS.
Cynhelir lansiad cymunedol ar 13 Gorffennaf 2022 yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd, fel y gall canlyniadau Cerdyn Sgorio Ffeministaidd 2022 eu rhannu a’u trafod. Rydym yn gwahodd aelodau o’r gymuned, phartneriaid trydydd sector, ac ASau i ymuno â ni am gyfle i gysylltu. Arbedwch eich lle fan hyn.