Mae angen Mentora RhCM yn fwy nag erioed i sicrhau arweinwyr benywaidd cryf ar ôl y pandemig Covid-19
Er gwaethaf y cyfyngiadau oherwydd COVID-19, mae ein Cynllun mentora wedi dechrau, ar-lein am y tro.
Mae’n bleser gennym hefyd rannu canlyniadau Cynllun Mentora 2019.
Mae Angharad Watson yn ysgrifennu am ei phrofiad cyntaf o Fentora RhCM:
Fel pob digwyddiad y gwanwyn hwn, gwnaeth lansiad Cynllun Mentora 2020 ddigwydd yn ystod cyfyngiadau symud y coronafeirws, ac felly roedd yn rhaid disodli’r digwyddiad diwrnod cyfan ym Mae Caerdydd â chyfarfod Zoom estynedig. Y lansiad yw cyfarfod ar-lein mwyaf uchelgeisiol yn ystod fy nghyfyngiadau symud – gyda thros 30 o gyfranogwyr ac amserlen pedair awr a hanner. Roedd cyrraedd ystafell rithiol llawn dieithriaid mor anodd â cherdded i mewn i sefyllfa debyg go iawn, gyda rhai newidiadau diddorol. Heb y cyfle i ymlacio a chael paned o de a sgwrsio, rydym i gyd yn gwenu’n nerfus ar ôl i wyneb ar ôl wyneb ymddangos ar y sgrin. Ac er bod modd gweld pennau pobl yn unig ar y sgrin heb allu gweld y pyjamas a’r sliperi, yn sydyn, mae grŵp o ddieithriaid nid yn unig yn eich gweld chi, ond maent yn rhan o’ch cartref hefyd. I mi, roedd hynny’n golygu ystafell sbâr mewn tŷ rwyf ond wedi byw ynddo ers tri mis, a’r holl anrhefn sy’n dod gyda hynny!
Roedd y gwesteiwyr, Sarah a Catherine, wedi gwneud eu gorau glas i dawelu ein meddyliau yn ystod y cyfarfod ac mewn e-byst ymlaen llaw. Cawsom wybod bod croeso i anifeiliaid anwes a phlant petaent yn dymuno gwneud cameo (ac mi wnaethant), a’u bod yn deal na fyddai pawb yn gallu ymuno am y sesiwn lawn. Y siaradwr cyntaf oedd Jane Hutt AC, Dirprwy Weinidog a Phrif Chwip, yr oedd ei haraith, er yn fyr, yn hynod ysbrydolgar. Roedd y ffaith ei bod hi yno, yn siarad yn uniongyrchol â ni wir wedi gosod y dôn ar gyfer Cynllun Mentora RhCM Cymru – fod y rhaglen yn o ddifrif.
Ar ôl cael rhagor o fanylion am natur y rhaglen, gan gynnwys diwygiadau oherwydd y pandemig, gwnaethom ddechrau’r sesiynau torri’r iâ a gymerodd y rhan fwyaf o’r bore. Gofynnwyd i bawb ddod â gwrthrych gyda nhw, a sgwrsio am ddwy funud (yn unig!) am y gwrthrych, ei berthnasedd a pham ein bod wedi cyflwyno cais i fod yn rhan o’r cynllun. I mi, dyma oedd uchafbwynt y dydd o bell ffordd. Yn olaf, roedd gan bob wyneb ar y sgrin y cyfle i siarad ac esbonio rhywbeth amdanyn nhw eu hunain. Fel grŵp, roeddem yn amrywio’n sylweddol mewn oedran, ethnigrwydd, lleoliad a llwybr gyrfa, ond death un peth yn glir yn gyflym. Roeddem i gyd yn fenywod oedd eisiau mwy: mwy o’n gyrfaoedd, mwy o’n bywydau, mwy gan ein harweinwyr a hefyd mwy i’n gilydd, i bobl heb leisiau, i bobl sy’n cael eu hanghofio ac sy’n cael eu gadael ar ôl. Roedd y straeon gan bob un oedd yn cael eu mentora yn hynod ddiddorol, yn ysbrydolgar ac mi wnaeth un gwneud i mi lefain. Nid fi’n unig oedd yn teimlo mor ddiolchgar fy mod wedi cael fy newis i fod yn rhan o’r grŵp anhygoel hwn.
Ar ôl cinio cyflym (nad oeddwn yn gallu cadw ato wrth drefnu cinio fy nheulu), gwnaeth y ffocws newid o’r garfan bresennol o aelodau i aelodau blaenorol o’r cynllun, a oedd yn rhoi teimlad o sicrwydd. Roedd clywed eu bod nhw’n teimlo’r un peth â ni; yn nerfus, wedi’u