Caffi RhCM: Hawliau menywod byd-eang

Dydd Iau Ionawr 14th, 2021

Y mis diwethaf, gwnaeth Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru gynnal digwyddiad panel Caffi RhCM ar-lein gyda chyfres o siaradwyr gwadd i drafod hawliau menywod byd-eang ym mhedwar ban byd.

Gan Elle Redman.

Ar gyfer digwyddiad Caffi RhCM ar-lein mis Rhagfyr, roedd hi’n bleser i ni wahodd y siaradwyr gwadd, Aminat Ayodele, Barbara Davies Quy, Martha Musonza Holman a Joys Violette Njini i ymuno â ni am drafodaeth ar hawliau menywod byd-eang.

Wedi’i gynnal gan gyfarwyddwr RhCM Cymru, Catherine Fookes, gwahoddwyd y panelwyr i rannu eu syniadau ar waith Llywodraeth i gefnogi hawliau menywod a gwahardd anghydraddoldeb rhyw yng ngoleuni materion byd-eang brys.

Yn siarad yng nghyd-destun Deddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol (2015), sy’n canolbwyntio ar Gymru fel cenedl gyfrifol sy’n gweithio i wneud newidiadau hirhoedlog a chadarnhaol, gwnaethom archwilio cwestiynau ynghylch y newid yn yr hinsawdd, hawliau menywod ymfudol, cynrychiolaeth gyfartal, grym masnach deg a’r toriadau diweddar yng nghyllideb y llywodraeth i arian cymorth tramor.

Y berthynas rhwng y newid yn yr hinsawdd ac anghydraddoldeb rhyw

Yn dechrau gyda Barbara Davies Quy, pennaeth rhaglenni yn elusen newid yn yr hinsawdd yng Nghaerdydd, Size of Wales, gwnaethom ystyried effaith y newid yn yr hinsawdd ar fenywod ym mhedwar ban byd.

Yn disgrifio cenhadaeth yr elusen, gwnaeth Barbara esbonio y cafodd Size of Wales ei sefydlu dros ddeng mlynedd yn ôl gyda’r nod o ddiogelu dwy filiwn o hectarau o goedwig law trofannol. Caiff y genhadaeth hon ei chynnal drwy gefnogi cymunedau brodorol lleol a chymunedau coedwigoedd eraill i ddiogelu coedwigoedd glaw yn Ne America, Affrica a De-ddwyrain Asia. Yn ogystal, gyda chymorth Llywodraeth Cymru, mae’r elusen yn anelu at blannu 25 miliwn o goed yn Wganda erbyn 2025.

“Nid yn unig yr ydym yn gweithio dramor, ond rydym yn gweithio yma yng Nghymru i ysbrydoli pobl ifanc, busnesau a chymunedau i weithredu ar y newid yn yr hinsawdd a mynd i’r afael â’r argyfwng datgoedwigo,” meddai Barbara.

Pan ddaw i effeithiau parhaus a diymwad y newid yn yr hinsawdd, tynnodd Barbara sylw at berthynas gynhenid i dlodi a nodi bod yr argyfwng hwn yn effeithio’n sylweddol ar fywydau pobl dlotaf y byd. Gan ystyried bod menywod a merched yn cyfri am fwyafrif y bobl dlawd yn y byd, caiff effaith y newid yn yr hinsawdd ei theimlo’n fwy gan fenywod.

Er enghraifft, gwnaeth Barbara esbonio fod menywod llawer yn fwy tebygol o gael eu hel o’u cartrefi gan y newid yn yr hinsawdd, yn wynebu mwy o berygl o drais ar sail rhyw pan eu bod yn cael eu symud ac yn dibynnu’n fwy ar y tir sy’n newid o ganlyniad i’r argyfwng ar gyfer eu bwyd a’u hincwm.

“Yn anffodus, caiff menywod eu heithrio rhag gwneud penderfyniadau am y newid yn yr hinsawdd, ond mae ganddynt lawer o wybodaeth ac arbenigedd a allai gael i ddefnyddio,” meddai.

Menywod yn ceisio noddfa ac amrywiaeth mewn bywyd cyhoeddus

Nesaf, gwnaethom glywed gan swyddog datblygu prosiectau Grŵp Eiriolaeth Ceisio Noddfa Menywod (WSSAG), Joys Violette Njini.

Yn Nhrebiwt, ac wedi’i sefydlu yn 2009, mae’r grŵp lobio, eiriolaeth a chymorth yn gweithio’n lleol i rymuso ffoaduriaid a cheiswyr lloches benywaidd drwy greu amgylchedd diogel i fenywod mudol yng Nghymru er mwyn iddynt ailadeiladu eu bywydau.

“Mae [WSSAG] fel teulu,” meddai Joys, “Rydym wedi gweld menywod yn mynd o nerth i nerth o’r eiliad maent yn dod drwy’r drws nes iddynt fynd ymlaen i ddatblygu eu haddysg a pharhau â’u gyrfaoedd,” dywedodd.

Wedi gweld yn uniongyrchol pa mor ddefnyddiol y mae gwasanaethau’r sefydliad wedi bod i fenywod yn y gymuned, mae Joys yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru’n gwneud mwy i gefnogi menywod ymfudol drwy ddarparu mwy o arian ar gyfer gwasanaethau pwysig.

I fenywod sydd wedi cyrraedd yn y DU fel ceiswyr noddfa, mae’r heriau i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus yn faith, meddai Constance Nzeneu, sylfaenydd WSSAG, a ddaeth hefyd i’r digwyddiad Caffi RhCM. Mae’r gwaith i’w grymuso’n cychwyn ar lefel llawr gwlad sy’n gofyn am adnoddau ac arian, meddai.

“Os bydd y math hwn o arian ar gael i fwy o sefydliadau a gwasanaethau fel ein rhai ni ar draws y wlad, yn y pen draw, gallwn gael y gynrychiolaeth yr ydym am ei chael mewn bywyd cyhoeddus ac mewn swyddi cyhoeddus,” esboniodd Joys.

Siarad allan a galw am addysg

Yn dilyn Joys, gwnaethom glywed gan Aminat Ayodele, eiriolwr dros hawliau menywod a merched a chrëwr The Female Speak Up.

Symudodd Aminat i Gymru o Nigeria flwyddyn yn ôl lle gwnaeth weithio am yr elusen nid er elw, Oxfam a helpu gyda strategaeth y sefydliad, Village Savings and Loan Scheme (VSLA) a gafodd ei mabwysiadu gan Oxfam fel strategaeth rymuso i wahardd tlodi mewn ardaloedd gwledig yn Nigeria.

Yn trafod ei grŵp Facebook, The Female Speak Up, esboniodd Aminat fod y rhwydwaith wedi cael ei greu fel man diogel a llwyfan i fenywod rannu eu straeon personol yn gyfrinachol a heb ragfarn. Drwy’r grŵp, mae Aminat yn annog menywod, ni waeth beth yw eu llwyth, eu crefydd, eu lliw na’u cefndir i siarad allan am y materion sy’n effeithio ar eu bywydau yn lle aros yn dawel.

Wedi’i hysbrydoli gan ei phrofiad gyda grŵp o ferched ifanc gwnaeth gwrdd â nhw yn Nigeria a oedd ofn siarad am yr heriau personol yr oeddent yn eu hwynebu o ran y mislif a hylendid menywod, mae’n gobeithio uno tîm brwdfrydig o fenywod o’r gymuned Facebook i annog merched mewn ysgolion cynradd ac uwchradd i siarad am fwlio, cam-drin, aflonyddu a materion pwysig eraill.

Dywedodd Aminat, “Petawn i yn sefyllfa’r prif weinidog, byddwn yn blaenoriaethu cefnogi gwledydd eraill i sicrhau bod pob merch yn derbyn addysg. Pan fo pobl yn derbyn addysg, maent yn gallu deall pwysigrwydd gofal iechyd, gan sylweddoli y gallant gymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau a pherchen ar eu heiddo a’u tir eu hunain.”

Toriadau i gymorth ariannol tramor a grym Masnach Deg

Yn olaf, gwnaeth Martha Musonza Holman athrawes, sylfaenydd elusen ac un o 100 Menywod Cymreig RhCM Cymru, rannu ei syniadau am rym Masnach Deg a’r weledigaeth y tu ôl i’w ddau sefydliad, Love Zimbabwe a Love Zimbabwe Fair Trade.

Yn creu prosiectau cymunedol yn Zimbabwe a Chymru, nod Love Zimbabwe yw ymgysylltu cymunedau mewn byw cynaliadwy ac annog newidiadau ymarferol i gefnogi Masnach Deg. Mae’r elusen hefyd yn gweithio gydag ysgolion i helpu plant i ddysgu mwy am gynaladwyedd a diwylliant Affrica.

Wedi’i magu mewn pentref, mae Martha yn gwybod ac yn deall tlodi. “Rwy’n gwybod yr anawsterau sydd gan fenywod yn Affrica, yn enwedig yn y system batriarchaidd,” meddai.

Gyda chymorth Llywodraeth a phartneriaeth gyda Masnach Deg Cymru, mae Love Zimbabwe yn y Fenni a chafodd ei chreu i bobl – yn enwedig menywod a mamau plant anabl, meddai Martha.

Gan ddefnyddio’r thema addysg, esboniad Martha fod Love Zimbabwe wedi sefydlu canolfan gymunedol i addysgu mamau am iechyd a gofalu am eu plant ag anableddau.

Wrth sôn am doriadau’r gyllideb i gymorth tramor, meddai Martha, “Mae’r gostyngiad yn mynd i effeithio ar lawer o sefydliadau…mae’n mynd i fod yn anodd i bobl Affrica dderbyn ac rwy’n meddwl bod yr amser wedi dod am ymgysylltiad dyfnach a mwy uniongyrchol i ni fel pobl Affricanaidd.”

Meddai Martha, “Mae angen i ddod at ein gilydd a dechrau meddwl, ‘Beth yw’r ffordd orau ymlaen?’ a ‘Beth gall ein helpu i ddod allan o dlodi?’ Mae angen i ni siarad â’n llywodraethau.”