Rydym yn recriwtio!
Mae RhCM Cymru am benodi Swyddog Cynnwys a Chyfathrebu deinamig ac ymrwymedig i ymuno â’n tîm cefnogol (Rhan-amser)
Mae’r rôl newydd sbon hon yn cynnwys cyfleu’r gwaith arloesol gwych y mae RhCM yn ei wneud a’i drawsnewid yn gynnwys diddorol, cyffrous ac atyniadol sy’n ein helpu i gyflawni’r newid mae ei angen i wneud Cymru’n genedl ffeministaidd. Boed yn llunio pennawd gwych, yn creu ffilm fer, yn dylunio graffigwaith cyfryngau cymdeithasol neu neges drydar sy’n creu effaith, byddwch yn barod i ddatblygu’n gwaith cyfathrebu a sicrhau bod ein polisi a’n gwaith dylanwadu wir yn taro deuddeg.
Bydd gennych rwydwaith cryf ac yn mwynhau cysylltu â’n haelodau a’n cefnogwyr amrywiol a datblygu’r gynghrair drwy estyn allan i gynulleidfaoedd newydd ledled Cymru.
Byddwch yn hynod hunan-gymhellol, yn gallu gweithio ar eich menter eich hun ac yn barod i ymuno â thîm sy’n perfformio’n uchel ond sy’n llawn hwyl a chefnogaeth o ffeministiaid sydd i gyd yn ymrwymedig i gyflawni’n strategaeth newydd.
Rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan ymgeiswyr Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME) ac ymgeiswyr anabl oherwydd bod pobl BAME ac anabl wedi’u tangynrychioli ar ein staff ar hyn o bryd.
I gyflwyno cais, lawrlwythwch becyn swydd a ffurflen ddemograffig.
Cyfweliadau dros zoom: Dydd Mercher 10 Mehefin 2020