Rydym yn recriwtio ymddiriedolwyr!
Rydym am recriwtio dau ymddiriedolwr i ymuno â’n Bwrdd deinamig a chefnogol. Yn dilyn adolygiad blynyddol o’r ymddiriedolwyr bwrdd cyfredol, rydym wedi nodi bylchau penodol mewn sgiliau yn y meysydd Cyfreithiol, masnachol a Chodi Arian. Rydym wedi’n lleoli’n bennaf yn ne Cymru a byddwn yn hoffi cael ymddiriedolwyr o leoliadau eraill yng Nghymru. Byddwn yn benodol yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME) ac anabl oherwydd ein bod yn ymrwymedig i ddull gwir gynhwysol.
Yr hyn rydym yn chwilio amdano
Bydd ein hymgyrch gynghrair Diverse 5050, ein prosiect mentora blaenllaw, caffis RhCM, ein haelodaeth amrywiol a’n gallu i ddylanwadu ar Lywodraeth Cymru a’i herio o ddiddordeb i chi ac yn eich ysbrydoli i gymryd rhan yn ein sefydliad bach ond dylanwadol a’i ddatblygu.
Byddwch yn aelod o RhCM Cymru, yn meddu ar rwydwaith cryf, ymrwymiad cryf i’n ‘gwerthoedd â’n gweledigaeth’ am Gymru heb wahaniaethu ar sail rhyw, a byddwch yn gallu cynnig eich egni, eich amser a’ch meddwl strategol.
Cynhelir cyfarfodydd bwrdd unwaith bob chwarter a byddwn yn cynnal diwrnod strategaeth blynyddol. Ar hyn o bryd, cynhelir cyfarfodydd bwrdd ar-lein a bydd cyfleusterau deialu i mewn ar gael os byddwn yn dychwelyd i gyfarfodydd corfforol.
Sut i gyflwyno cais:
- Darllenwch y disgrifiad rôl a’r pecyn gwybodaeth hwn – Pecyn Recriwtio Ymddiriedolwyr 2020
- Anfonwch eich CV, datganiad byr (300 o eiriau ar y mwyaf) o’r hyn y gallwch ei gyflwyno i’r bwrdd a’r ffurflen ddemograffig ddienw i admin@wenwales.org.uk gan nodi ‘Swydd Wag Ymddiriedolwr’ ar frig eich e-bost
- Cadarnhewch hefyd yn eich e-bost agoriadol nad ydych wedi cael eich gwahardd gan y gyfraith rhag gweithredu fel ymddiriedolwr
- Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw dydd Llun 12 Hydref 9am
- CCB ar-lein lle bydd aelodau RhCM yn pleidleisio ar yr ymddiriedolwyr: 11am ddydd Gwener 6 Tachwedd 2020