Rydym yn recriwtio: Swyddog Prosiect Mentora
Mae RhCM Cymru am benodi Swyddog Prosiect Mentora i ymuno â’n tîm!
Mae’r rhaglen fentora ‘Pŵer Cyfwerth Llais Cyfwerth’ yn rhaglen bartneriaeth newydd gyffrous sydd â’r potensial i drawsnewid bywyd cyhoeddus yng Nghymru.
Bydd y prosiect yn recriwtio ac yn mentora menywod amrywiol, pobl BAME, pobl anabl, a phobl LGBT i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus, sefyll am swydd yn y maes gwleidyddol, gwasanaethu ar fyrddau cyhoeddus, byrddau elusennol neu fel llywodraethwyr ysgol. Mae ganddi’r grym i drawsnewid cymdeithas Cymru drwy gefnogi pobl amrywiol i ddod i bŵer fel bod ein sefydliadau gwleidyddol a chyhoeddus yn adlewyrchu dinasyddion amrywiol Cymru’n well.
Mae’r rôl hon yn cynnwys cefnogi Rheolwr y Prosiect a gweithio gyda’r tri Swyddog Prosiect arall wrth gyflawni’r cynllun mentora. Byddwch yn bennaf yn rhan o recriwtio a chefnogi’r garfan o’r rheiny sy’n cael eu mentora a mentoriaid o’ch sefydliad, sicrhau eu bod yn cael eu gwahodd i’r prif ddigwyddiadau dysgu a’u mynychu, cynnal y rhwydwaith cefnogi cyfoedion ar gyfer eich carfan o’r rheiny sy’n cael eu mentora ac ymgysylltu â Rheolwr y Prosiect.
Mae’r rhaglen yn adeiladu ar raglenni mentora llwyddiannus blaenorol a gynhelir gan y Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig (EYST) a RhCM Cymru a’r nod yw i sicrhau, yn y dyfodol, y bydd y rhai sy’n gwneud penderfyniadau, gwleidyddion, a’r llywodraeth yn adlewyrchu ein cymdeithas fwyfwy amrywiol yn well.
Gyda record brofedig o gyflawni prosiectau, byddwch yn fywiog, yn drefnus ac yn gallu cyfathrebu’n dda a chysylltu â phobl i’w helpu i gyflawni eu nodau. Byddwch yn hynod hunan-gymhellol, yn gallu gweithio ar eich menter eich hun ac yn barod i ymuno â thîm sy’n perfformio’n uchel ond cefnogol sy’n ymrwymedig i gydraddoldeb.
Rydym yn croesawu yn enwedig ymgeiswyr Du, Asiaidd, lleiafrifoedd ethnig (BAME) ac ymgeiswyr anabl, sydd wedi’u tangynrychioli ar ein staff ar hyn o bryd.
Siaradwr Cymraeg: Dymunol
Cyflog: £27,741 pro rata
Rhan amser: Tridiau / 21 awr yr wythnos
Tymor Penodol: Tair blynedd tan fis Mehefin 2024
Sut i ymgeisio
I ymgeisio, lawrlwythwch y Pecyn Swydd a Ffurflen Cyfleoedd Cyfartal.
Ariennir y swyddi hyn gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.