Rydym yn recriwtio: Rheolwr Ymgyrch 5050Amrywiol
Mae RhCM Cymru am benodi Rheolwr Ymgyrch 5050Amrywiol i ymuno â’n tîm!
Un o’n blaenoriaethau strategol allweddol yw sicrhau arweinyddiaeth amrywiol a chyfartal yn y Senedd ac yn y Llywodraeth Leol. Rydym yn ceisio gwneud hyn drwy ein hymgyrch 5050Amrywiol yr ydym yn ei chynnal mewn partneriaeth â’n grŵp llywio ERS Cymru, Cyngor Hil Cymru a Thîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru (EYST). Mae gan yr ymgyrch eisoes gefnogaeth 21 o sefydliadau, sy’n cynrychioli oddeutu 17k o bobl ac rydym bellach wedi sicrhau arian ar gyfer swydd am flwyddyn gan Ymddiriedolaeth Ddiwygio Joseph Rowntree i ddatblygu’r gwaith.
Bydd y Rheolwr Ymgyrch 5050Amrywiol yn adeiladu ar y gwaith cychwynnol a gynhaliwyd yn 2021 a bydd yn codi momentwm wrth i ni symud i amser pwysig mewn diwygiad etholiad yng Nghymru. Byddai hyn yn cynnwys dylanwadu ar y Rhaglen ar gyfer Llywodraeth yn dilyn etholiadau Senedd Cymru ym mis Mai 2021, gan ymgysylltu ag ymgeiswyr etholiadau’r llywodraeth leol yn 2022 a dylanwadu ar bleidiau gwleidyddol fel y gallant gymryd camau gweithredu er mwyn dewis ymgeiswyr mwy amrywiol.
Gyda record brofedig o gynnal ymgyrchoedd llwyddiannus sydd wedi gwneud newid ac sydd wedi dylanwadu ar wleidyddion a gwneuthurwyr penderfyniadau, bydd angen ymwybyddiaeth wleidyddol dda a sgiliau rhyngbersonol cryf arnoch ynghyd â’r gallu i feddwl yn strategol.
Byddwch yn hynod frwdfrydig, yn gallu gweithio ar eich menter eich hun a bod yn barod i ymuno â thîm cefnogol o ffeministiaid sy’n perfformio’n uchel ond sy’n llawn hwyl.
Rydym yn croesawu ymgeiswyr Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME) a phobl anabl yn benodol oherwydd bod pobl BAME a phobl anabl wedi’u tangynrychioli ar hyn o bryd ar ein staff.
Ariennir y swydd hon gan Ymddiriedolaeth Ddiwygio Joseph Rowntree
Siaradwr Cymraeg: Dymunol
Cyflog: £30,451 Pro Rata
Rhan amser: 3.5 diwrnod / 26 awr yr wythnos
Tymor Penodol: 1 blwyddyn o fis Gorffennaf 2021
Sut i ymgeisio
I ymgeisio, lawrlwythwch y Pecyn Swydd a Ffurflen Cyfleoedd Cyfartal.