Rydym yn recriwtio Swyddog Polisi a Materion Cyhoeddus

Dydd Mercher Chwefror 17th, 2021
Poster that reads We Are Recruiting

Mae RhCM Cymru am benodi Swyddog Polisi a Materion Cyhoeddus deinamig ac ymrwymedig i ymuno â’n tîm cefnogol (Rhan-amser)

Mae’r rôl hon yn cynnwys ymchwilio’r rhwystrau i anghydraddoldeb rhyw yng Nghymru, datblygu ein hargymhellion polisi yn eu cylch ac yna ddefnyddio’r dystiolaeth i eirioli a dylanwadu, gan sicrhau bod gan ein gwaith effaith go iawn, fel bod gwneuthurwyr polisi, y sawl sy’n gwneud penderfyniadau a’r swyddogion etholedig yn darllen ein hargymhellion ac yn gweithredu arnynt.

Gyda thystiolaeth brofedig o ddylanwadu ar wleidyddion a gwneuthurwyr penderfyniadau yn llwyddiannus, bydd angen ymwybyddiaeth wleidyddol dda, sgiliau rhyngbersonol cryf a’r gallu i feddwl yn strategol arnoch. Bydd arnoch angen llygad am fanylion a’r gallu i adrodd ar ddata a gwybodaeth mewn ffordd effeithiol.

Os yw hynny’n llunio papur briffio, adroddiad, cwrdd â gwleidyddion neu gyflwyno mewn seminar, byddwch yn barod i ddangos ein syniadau mewn modd cywrain a sicrhau bod gan ein gwaith polisi a dylanwadu effaith wirioneddol.

Byddwch yn hynod hunan-gymhellol, yn gallu gweithio ar eich menter eich hun ac yn barod i ymuno â thîm o ffeministiaid sy’n perfformio’n uchel ond sy’n llawn hwyl a chefnogaeth ac i gyd yn ymrwymedig i gyflawni’n strategaeth newydd.

Rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan ymgeiswyr Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME) ac ymgeiswyr anabl oherwydd bod pobl BAME ac anabl wedi’u tangynrychioli ar ein staff ar hyn o bryd.

Siaradwr Cymraeg: Dymunol

Cyflog: £27, 261 (pro rata)

Contract parhaol

Sut i ymgeisio

I ymgeisio, lawrlwythwch y Pecyn Swydd a Ffurflen Ddemograffig.

Dyddiad cau: Dydd Llyn 12 Ebrill, 18:00
Cyfweliadau dros Zoom: Dydd Gwener 16 Ebrill
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am y rôl, anfonwch ebost i admin@wenwales.org.uk