Mae angen i Gymru archwilio talu incwm sylfaenol i bawb: Llythyr Agored i Brif Weinidog Cymru

Dydd Llun Gorffennaf 26th, 2021

Yr wythnos hon ymunodd RhCM Cymru â cyd-eiriolwyr Incwm Sylfaenol Cyffredinol i arwyddo llythyr agored at y Prif Weinidog Mark Drakeford yn galw am dreial UBI sy’n cynrychioli poblogaeth Cymru.

Dywedodd Catherine Fookes, cyfarwyddwraig, Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru: “Mae peilot Incwm Sylfaenol Cyffredinol yng Nghymru yn gyfle cyffrous i archwilio sut y gellid defnyddio UBI fel offeryn ledled Cymru i fynd i’r afael â thlodi a lleihau stigma o amgylch hawlwyr budd-daliadau. Gallai UBI o bosibl gael effaith ddwys ar gau’r bwlch ar anghydraddoldeb rhywiol yng Nghymru. Gadewch inni feio llwybr yng Nghymru gyda pheilot uchelgeisiol sy’n casglu tystiolaeth ar effaith UBI ar sampl sy’n cynrychioli demograffig, fel y gallwn weld yr effeithiau ar bawb yng Nghymru.”

Darllenwch y llythyr yn llawn isod.

Annwyl Mark Drakeford,

Rydyn ni’n ysgrifennu atoch yn dilyn y datganiad diweddar y bydd Llywodraeth Cymru’n cynnal peilot ar Incwm Sylfaenol. Hoffem fynegi ein gwerthfawrogiad o’r rhai a ymgyfrannodd yn y penderfyniad i roi prawf ar bolisi a fedrai drawsnewid bywydau’r genhedlaeth bresennol a ‘r dyfodol er gwell.

Deallwn eich bod yn ystyried peilot a fydd yn cynnwys ymgyfraniad pobl ifanc sy’n gadael gofal. Tra’n bod yn cytuno bod y rhai sy’n gadael gofal angen mwy o gymorth, rydyn ni’n pryderu na fydd prosiect peilot sydd wedi ei gyfyngu i grŵp penodol yn darparu’r dystiolaeth sydd ei hangen i ddeall effeithiau Incwm Sylfaenol ar bawb.

Yn hytrach rydyn ni’n eich cynghori i ystyried peilot ‘Ymadawyr Gofal a Mwy’ sy’n cynnwys sampl gynrychioliadol ddemograffig o’r boblogaeth gyfan, yn ogystal â rhai sy’n gadael gofal.

Byddai peilot UBI seiliedig ar ddaearyddiaeth yn caniatáu i chi gasglu’r dystiolaeth angenrheidiol am y modd byddai’r polisi’n effeithio ar Gymru pe bai’n cael ei gyflwyno yfory.

Rydyn ni eisoes yn gwybod o brosiectau peilot a gynhaliwyd yn y Ffindir a Stockton, ymhlith eraill, fod Incwm Sylfaenol yn gwella llesiant corfforol a meddyliol y rhai sy’n ei dderbyn yn sylweddol, gyda thystiolaeth o lai o ymweliadau ag ysbytai, gwell canlyniadau iechyd meddwl a llai o alw ar wasanaethau yn hwyrach mewn bywyd. Yn wir, cadarnhaodd yr adroddiad diweddar a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru: ‘Incwm sylfaenol i wella iechyd a llesiant poblogaeth Cymru’, fod y polisi’n debygol o gael yr un effaith yma, os caiff ei weithredu yn y ffordd iawn.

Gallai peilot mwy uchelgeisiol sy’n cynnwys sampl amrywiol-ddemograffig brofi pa effeithiau y mae’r polisi nid yn unig yn ei gael ar y bobl fwyaf anghenus, fel y rhai sy’n profi tlodi plant, y mae gan Gymru’r gyfradd uchaf yn y DU, ond yr effeithiau ar bawb yng Nghymru.

Gallai’r math hwn o beilot brofi pa effaith y mae’r polisi’n ei gael ar bobl hŷn. Efallai y gwelwn ei fod yn rhoi rhyddid iddynt ymddeol gyda’u hurddas. Efallai y byddwn hefyd yn dysgu mwy am yr effaith y gallai Incwm Sylfaenol ei gael ar faterion cydraddoldeb rhywiol fel menywod yn darparu gwaith gofal di-dâl, anghymesur i’w hanwyliaid.

Dylai’r prosiect peilot ryngweithio gyda’n system les. Fel y dangoswyd gan y pandemig, nid yw ein system bresennol yn addas ar gyfer y diben a gall hawlwyr gael eu cloi mewn tlodi. Dim ond drwy gynnwys ystod o bobl fedrwn ni ddangos bod yna well dull o warantu sicrwydd economaidd i bawb.

Canfu arolwg barn gan Survation, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2021, fod 69% o bobl yng Nghymru yn credu y dylem dreialu Incwm Sylfaenol. Llofnododd 25 Aelod o’r Senedd Adduned ‘UBI Lab Wales’ cyn Etholiadau Senedd Mai 2021. Heb amheuaeth, mae’r rhai a arolygwyd a’r rhai a lofnododd yr adduned eisiau gweld peilot sy’n adlewyrchu Cymru gyfan.

Rydyn ni’n deall y bydd angen cydweithrediad Cyllid a Thollau EM ac Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y DU ar gyfer unrhyw beilot eang. Fodd bynnag, mae gennych fandad clir i ddadlau’r achos dros beilot sylweddol – rhaid i chi ei ddefnyddio.

Rydyn ni’n annog holl Aelodau’r Senedd i siarad â phobl yn eu cymunedau’r haf hwn am y modd y gallai incwm sylfaenol eu cynorthwyo’n well yn yr hirdymor, fel y gallant ddychwelyd o seibiant yr haf yn barod i gymryd rhan ystyrlon yn y sgwrs ar Incwm Sylfaenol.

Gallai Cymru gymryd rhan arloesol yn y polisi cyffredinol nesaf sy’n gofalu am bawb o’r crud i’r bedd; fel y gwnaeth gyda’r GIG dros 70 mlynedd yn ôl. Os yw hynny i ddigwydd, rhaid i ni weithredu’r peilot hwn yn iawn.

Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru ac eraill yn y misoedd sydd i ddod i wireddu’r uchelgais hwn.

Yn gywir,

Jonathan Rhys Williams (Cyd-sylfaenydd UBI Lab Wales)

Sophie Howe (Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru)

Yr Athro Guy Standing (Cyd-sylfaenydd Basic Income Earth Network)

Cerys Furlong (Prif Weithredydd Chwarae Teg)

Catherine Fookes (Cyfarwyddwraig Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru)