Swydd: Cadeirydd RhCM Cymru

Dydd Llun Awst 2nd, 2021
Poster that reads We Are Recruiting

Helpu i gefnogi cydraddoldeb i fenywod yng Nghymru 

Mae RhCM Cymru am benodi Cadeirydd newydd i oruchwylio cam nesaf, cyffrous ein datblygiad, fel elusen aelodaeth sy’n ymgyrchu am Gymru hen wahaniaethu ar sail rhyw. Mae’n amser gwych i ymuno â RhCM wrth i ni gyrraedd ein dengmlwyddiant ac yn dathlu’r hyn rydym wedi’i gyflawni hyd yn hyn gan edrych ymlaen at ddeng mlynedd nesaf ein hymgyrchu.   

Mae Sarah Powell, ein cadeirydd sy’n ymadael, yn gadael ar ei hôl sefydliad sy’n ffynnu sydd â gweledigaeth, cenhadaeth a strategaeth glir yn ogystal â bwrdd cryf ac ymrwymedig. Yn y bôn, mae wedi ein helpu i’n trawsnewid yn sefydliad ffeministaidd enghreifftiol sydd â systemau a strategaethau cryf ar waith. Rydym yn chwilio am ein Cadeirydd nesaf i adeiladu ar yr etifeddiaeth honno, gan ein helpu i sicrhau rhan fwy o’r llais yn y cyfryngau a chyda’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau. 

Rydym yn chwilio am rywun sy’n gallu hyrwyddo a siarad am hawliau menywod, a’r heriau sylweddol sy’n wynebu menywod ar ôl y pandemig Covid-19. Bydd yn llysgennad arweiniol ac yn siaradwr dros y sefydliad. 

Byddwch yn deall ein gwerthoedd o fod yn gyfrifol, yn wydn, ac yn garedig, yn ogystal â chael rhwydweithiau cryf ledled Cymru yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector, dealltwriaeth gadarn o’r dirwedd wleidyddol, a gwybodaeth ragorol am gydraddoldeb a hawliau dynol. Byddwch hefyd yn ymrwymedig i gydraddoldeb i’r holl fenywod yng Nghymru. 

Bydd ein gweledigaeth a’n strategaeth glir, ein rôl wrth gysylltu, ymgyrchu, a hyrwyddo menywod yn ogystal â’n rhaglen fentora Pŵer Cyfwerth, Llais Cyfwerth, yn ennyn eich diddordeb ac yn eich ysbrydoli i gymryd rhan wrth arwain ein sefydliad bach ond cryf. 

Rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan ymgeiswyr Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME) ac anabl i’n bwrdd yn ogystal â’r rheiny o’r holl nodweddion gwarchodedig oherwydd ein bod yn ceisio bod yn sefydliad croestoriadol. 

Mwy o wybodaeth 

Os oes gennych ddiddordeb mewn cael trafodaeth anffurfiol am y rôl neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch recruitment@wenwales.org.uk gan nodi ‘Rôl Cadeirydd RhCM’ ar frig yr e-bost. Bydd Cyfarwyddwr RhCM Cymru Catherine Fookes, neu un o’r ymddiriedolwyr, yn cysylltu â chi. 

Y broses ymgeisio 

I gyflwyno cais am y rôl hon, anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol (dim mwy na 2 ochr A4) yn amlinellu sut rydych yn cyflawni’r fanyleb person isod i: recruitment@wenwales.org.uk erbyn dydd Iau 30 Medi 1800. 

Yn dilyn cyfweliadau ein nod yw ac rydym am benodi Cadeirydd newydd yn barod i’w cadarnhau yn ein CCB ar 16 Tachwedd 2021. 

Lawrlwythwch y Pecyn Ymgeisio, yn cynnwys prif cyfrifoldebau’r rôl a’r Manyleb Person.

Rydym hefyd yn recriwtio tri ymddiriedolwr newydd – darganfyddwch mwy fan hyn.