Dwy seren chwaraeon yn dod ynghyd i drafod hawliau menywod a chydraddoldeb

Dydd Iau Tachwedd 25th, 2021

Yn ddiweddar, daeth dwy seren chwaraeon ynghyd i ddathlu degawd o ymgyrchu dros hawliau menywod a chydraddoldeb. Mewn digwyddiad rhithwir WEN at TEN gwelwyd Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru (RhCM Cymru) yn dwyn ynghyd ferched ysbrydoledig o bob cefndir i anrhydeddu’r gwaith a wnaed hyd yma, i drafod sut i greu newid pellach ac i lansio ei hymgyrch codi arian uchelgeisiol.

Wedi’i sefydlu 10 mlynedd yn ôl, mae RhCM Cymru yn ceisio rhoi cydraddoldeb rhywiol a hawliau menywod wrth wraidd gwneud penderfyniadau yng Nghymru, fel bod lleisiau menywod yn cael eu clywed ar y materion sy’n effeithio fwyaf arnyn nhw.

Ymunodd Jess Fishlock MBE, y chwaraewr pêl-droed sydd wedi ennill y mwyaf o gapiau i Gymru ac a enwyd yn ddiweddar fel chwaraewr mwyaf gwerthfawr Cynghrair Pêl-droed Cenedlaethol yr Unol Daleithiau, â’r seren academaidd a chwaraeon, yr Athro Laura McAllister mewn sgwrs agored am fenywod mewn chwaraeon a sut i greu newid.

Meddai Jess, “Mae chwaraeon yn fwy na dim ond chwaraeon, mae’r cyfryngau cymdeithasol wedi creu platfform i athletwyr geisio creu newid. Roedd gen i ddewis a oeddwn i eisiau defnyddio hynny ar gyfer pethau mwy na fi a fy chwaraeon. Gwnaeth bod o gwmpas menywod a phobl wych, ddylanwadol eraill fy helpu i ddeall, os gallaf i greu rhywfaint o newid, dylwn i o leiaf drio.”

Wrth drafod mater cyflog cyfartal mewn chwaraeon, parhaodd Jess, “Nid yw’n ymwneud â chyflog yn unig, mae’n ymwneud â llawer mwy a’r neges y mae’n ei rhoi.

“Y cwestiwn yw sut allwn ni gael menywod mewn lleoedd lle gallwn ni greu’r newid.”

“Wrth greu newid i ferched, a chwaraeon menywod a chydraddoldeb, nid menywod yn unig sy’n helpu menywod, bydd dynion hefyd yn helpu menywod oherwydd dyna beth sy’n rhaid digwydd mewn gwirionedd. Ac mae angen i ni sicrhau bod pwy bynnag sydd gennyn ni ar y bwrdd, p’un a ydyn nhw’n ddynion neu’n fenywod, bod angen iddyn nhw barchu menywod, er budd gêm y menywod a thros gydraddoldeb ym mhobman.”

Roedd yr Athro Laura McAllister, a gyhoeddwyd yn ddiweddar fel cyd-gadeirydd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, yn cytuno, “Ar un ystyr mae’n rhaid i’r ddau beth ddigwydd ar yr un pryd, mae’n rhaid i ni berswadio’r dynion sydd mewn grym i weithio gyda ni nawr. Ond mae’n rhaid bod amser pan fydd rhai ohonyn nhw’n camu o’r neilltu i gael clywed llais menyw.”

Dywedodd Jess, wrth siarad am ei phenderfyniad ynglŷn â chynrychioli’r gymuned LHDTC+,

“Byddaf wastad yn ymladd ac yn sefyll dros y gymuned LHDTC, mewn gwirionedd dros unrhyw un rwy’n teimlo sydd angen help, ond byddaf yn sicr yn hyrwyddo ein cymuned. Rwy’n teimlo’n hynod lwcus fy mod i’n gallu byw fy mywyd nawr fel lesbiad rhydd ac agored, hapus a bodlon. Ond y gwir yw nad oes llawer o bobl sy’n gallu gwneud hynny, ac mae hynny’n wirioneddol anodd.

“Rydw i wedi sylweddoli wrth deithio’r byd fod amrywiol ddiwylliannau mor wahanol a gallwch ddysgu o hynny. Wrth symud ymlaen, rwy’n bendant eisiau mynd i rywle a fydd yn helpu i wneud gwahaniaeth a chreu mwy o newid i hawliau menywod a chydraddoldeb.”

Ychwanegodd Catherine Fookes, Cyfarwyddwr RhCM Cymru, “Roedd yn wych clywed trafodaeth agored a gonest am rai o’r heriau y mae menywod yn eu hwynebu, er enghraifft y bwlch cyflog rhwng y rhywiau a dynion mewn ystafelloedd bwrdd.

“Gallaf ychwanegu at hynny anghydraddoldeb iechyd menywod, trais yn erbyn menywod, cam-drin cyson ar-lein ac ymdrech fawr i ni yma yng Nghymru ar amrywiaeth ac arweinyddiaeth gyfartal.

“Hoffen ni ddiolch i’r holl fenywod ysbrydoledig a gymerodd ran yn ein digwyddiad dathlu, roedd yn llwyddiant mawr ac yn hyfryd clywed cynifer o straeon, syniadau a gweledigaethau ar gyfer y dyfodol.

“Rydyn ni’n falch iawn o’r gwaith rydyn ni wedi’i gyflawni ond mae llawer mwy i’w wneud. Ar yr achlysur pwysig hwn, ein pen-blwydd yn 10 oed hoffen ni lansio ein hymgyrch codi arian – WEN at TEN.

“Ddydd Sadwrn 30ain Ebrill 2022 byddwn yn cymryd rhan mewn nenblymiad tîm ac mae gennyn ni 10 lle ar gyfer ein nenblymiad WEN at TEN. Mae Megan a fi eisoes wedi cofrestru o RhCM Cymru ac yn chwilio am wirfoddolwyr. Hoffech chi ymuno â ni a neidio 10,000 troedfedd a’n helpu ni i godi £10,000 fel tîm? Cysylltwch â ni ar admin@wenwales.org.uk.

“Neu gallwch chi ddewis eich ymarfer corff eich hun ar gyfer WEN at TEN – cerdded 10,000 o gamau, nofio 10K, rhedeg 10K, beth bynnag a wnewch, cymerwch ran a’n cefnogi ni os gallwch chi. I ddarganfod mwy neu i gyfrannu, ewch i’n tudalen justgiving https://www.justgiving.com/crowdfunding/wenatten.”

 

I gyfrannu at ymgyrch codi arian WEN at TEN, ewch i https://www.justgiving.com/crowdfunding/wenatten.

I wylio digwyddiad dathlu WEN at TEN, ewch i

https://www.youtube.com/watch?v=uHSB37yvHps.