“Gwirioneddol trawsnewidiol” – taith Mary Ann trwy cynllun Mentora RhCM

Dydd Mercher Ionawr 20th, 2021

gan Mary Ann Brocklesby

“Mae’n hen bryd, Mary Ann, dy fod yn stopio siarad am anghyfiawnder a gwneud gwahaniaeth go iawn. Rwyt ti’n gwybod dy fod yn gallu.”

Gwnaeth y sylw hwn yn ystafell newid y menywod ar ôl sesiwn nofio bore sbarduno cyfres o ddigwyddiadau a wnaeth newid fy mywyd. Y peth yw, nid oeddwn yn gwybod fy mod yn gallu ei wneud ac nid oedd syniad gennyf ble i ddechrau. Roedd y syniad yn ymddangos yn chwerthinllyd. Roedd fy amserlen waith yn hynod brysur. Roedd y rhan fwyaf o’m hamser yn cael ei dreulio y tu allan i’r DU. Nid oeddwn mor weithredol â hynny’n wleidyddol ac ychydig o rwydweithiau oedd gennyf yng Nghymru. Roeddwn yn gwybod mwy am y senedd ym Mhacistan nag am y Senedd yng Nghymru.  Ar ôl blynyddoedd yn gweithio yn y maes datblygiad rhyngwladol, roeddwn wedi blino ac yn ansicr am fy nghyfeiriad nesaf ac nid oedd gennyf unrhyw hyder o gwbl i ymgymryd mewn rôl gyhoeddus.

Ychydig wythnosau’n ddiweddarach, wedi’m hannog gan un o’m cyd-nofwyr, a wnaeth fy mwydo coffi a bisgedi wrth fy annog i gyflwyno cais i gynllun mentora Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru, gwnes i lenwi’r ffurflen gais. Cefais fy nerbyn ym mis Mawrth y llynedd ac roedd yn wefreiddiol ac yn drawsnewidiol. Mewn blwyddyn llawn ansicrwydd, gorbryder a dig yn aml, y cynllun RhCM oedd y peth cyson llawn gobaith, cymorth a phosibilrwydd.

Roedd bod mewn cyfnod clo a chwrs drwy Zoom wedi helpu mewn ffordd ryfedd. Gwnaeth y cynllun fy nghysylltu â grŵp llawn menywod rhyfeddol, amrywiol a phwerus ledled Cymru. Nid oeddwn yn teithio, ac roedd bywyd wedi arafu. Roedd gen i amser i wrando, dysgu o’u profiadau ac amsugno gwybodaeth, syniadau a sgiliau newydd. Mae dylanwad mentoriaid a mentorai RhCM wedi bod yn hynod gadarnhaol.

Gwnaeth Covid-19 ryddhau dicter ofnadwy ynof a oedd wedi bod yn berwi ers blynyddoedd. Dangosodd ei effaith rhywbeth a oedd eisoes yn amlwg, sef anghydraddoldebau strwythurol, rhaniadau dwfn ac anghyfiawnderau yng Nghymru a’r DU. Mae fy ngwaith fel hwylusydd cymunedol a dadansoddwr polisi ar gyfer hawliau dynol, rhyw a chydraddoldeb incwm, wedi fy ngalluogi i feithrin sgiliau wrth ddatblygu grwpiau amrywiol a chynhwysol er mwyn mynd i’r afael ag anghydraddoldeb. Sut i wneud y profiad yn berthnasol i fywyd cyhoeddus yng Nghymru oedd yr her.  Yn fwy nag unrhyw beth, gwnaeth RhCM greu man diogel a llawn parch i weithio drwy effeithiau rhyngadrannol a rhyw Covid-19 a’r newid yn yr hinsawdd, hiliaeth mewn bywyd cyhoeddus, braint pobl wynion a gofynion y symudiad mae bywydau pobl dduon yn bwysig. Rwyf wedi derbyn yr offer a’r rhwydweithiau i harneisio fy nicter, ail-gyflunio a chymryd camau gweithredu. Gwnaeth fy nghyd-fentorai a’m mentor fy herio heb farnu a’m pryfocio i adlewyrchu ar gwestiynau pwysig, heriol am fy ngwerthoedd, fy mlaenoriaethau a’m hargyhoeddiadau gwleidyddol.

Naw mis ar ôl y cyfarfod cyntaf, cefais fy newid fel un o’r ymgeiswyr plaid Lafur ar restr ranbarthol y de-ddwyrain ar gyfer etholiadau’r Senedd, eleni a dwi wedi cael fy nghyd-ethol ar y Cyngor Tref lle cefais fy mhenodi fel llywodraethwr ysgol awdurdod lleol.  Ni fyddai hyn wedi digwydd heb gynllun mentora RhCM. Rwyf wedi cael fy ngrymuso gyda dealltwriaeth gref o sut mae gwleidyddiaeth leol a chenedlaethol yn gweithio, yr hunanhyder a’r holl gymorth mae ei angen arnaf i ddiffinio fy nodau gwleidyddol ac ymgeisio am rolau. Y peth pwysicaf oedd gwybod bod gennyf fenywod rhagorol RhCM yn fy nghefnogi er mwyn sicrhau bod fy llais yn cyfrif.

Yn y pen draw, gwnaeth cynllun mentora RhCM esbonio gwleidyddiaeth i mi. Mae bod yn effeithiol yn golygu bod yn ddilys, yn gysylltiedig ac yn barod i weithio ar draws rhaniadau gwleidyddol mewn rhwydweithiau a chlymbleidiau er mwyn gwneud pethau. Nid mor wahanol i’m swydd feunyddiol, ond filltiroedd ar wahân. Rwyf wedi bod yn fwy actif yn wleidyddol dros y 10 mis diwethaf na thros y deng mlynedd diwethaf. Nid wyf yn mynd i stopio. Rwy’n canfod fy llais gwleidyddol. Mae wedi bod yn wirioneddol trawsnewidiol, cael fy nghodi a’m dal i fyny gan rym ar y cyd menywod penderfynol. Mae cynnydd yn dilyn yn gyflym pan yr ydym yn cydweithio. Heb hynny, ni allaf fod wedi dod i’r byd newydd hwn gyda dealltwriaeth ac argyhoeddiad sy’n hyrwyddo amrywiaeth ac mae annog mwy o fenywod i’r maes arweinyddiaeth yn etifeddiaeth RhCM ac yn gyfrifoldeb arna i. Bydd fy llais yn cyfrif wrth fynd i’r afael ag anghydraddoldeb fel y canolbwynt i bopeth rwy’n ei wneud.