Rhwydwaith RhCM Busnes
RhCM Busnes yw ein ffordd o ddiolch a dathlu ein cefnogwyr yn y sector preifat, tra hefyd yn cael effaith gadarnhaol ar ddiwylliant eu gweithle.
Trwy ymuno â RhCM Busnes, byddwch yn derbyn aelodaeth flynyddol gyda buddion unigryw fel:
- Hyfforddiant Cydraddoldeb Rhywedd: Gwybodaeth cofrestru Cynnar a Gostyngiadau.
- Sylw ar ein cyfryngau cymdeithasol a’n gwefan ar gyfer eich busnes, a phecyn hyrwyddo i arddangos eich aelodaeth ar eich gwefannau cymdeithasol/gwefan eich hun.
- Gwahoddiad â blaenoriaeth i unrhyw un a phob un o ddigwyddiadau a lansiadau ymgyrch RhCM Cymru.
- Cyfleoedd i gefnogi pobl heb gynrychiolaeth ddigonol yn wirfoddol yn ein rhaglen Pwer Cyfartal Llais Cyfartal.
- Digwyddiadau rhwydweithio rhithwir ac un ychwanegol am ddim i gymysgu’r gwesteion.
- Cylchlythyr corfforaethol chwarterol pwrpasol gyda chyfleoedd unigryw a blaenoriaeth.
- Ymarferion adeiladu tîm wedi’u teilwra ac ymgysylltu â staff trwy ein hymgyrch #WENatTen.
- Sesiynau addysg a grymuso ar-lein trwy ein Caffi RhCM.
Bydd yr uchod i gyd yn eich helpu i gyflawni eich cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol, gwella lles eich staff ac apelio at ddarpar weithwyr a chleientiaid fel busnes moesegol ac ymwybodol yn gymdeithasol.
Mae’r gost yn llai na £1 y dydd, am gyfanswm blynyddol o £300 i gefnogi ein gweledigaeth o Gymru sy’n rhydd o wahaniaethu ar sail rhywedd.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â shannon@wenwales.org.uk neu i gofrestru llenwch y ffurflen hon.