Hunan-ofal a llesiant yn symudiad hawliau menywod Cymru, gyda Ceri Hayes
“Mae’n rhaid bod y sawl allan yno yn ein plith sy’n gallu eistedd i lawr ac wylo a chael eu cyfrif o hyd fel rhyfelwyr.” Adrienne Rich
Fel rhywun sydd wedi profi blinder a thrawma o ganlyniad i ugain mlynedd o weithio ar faterion hawliau menywod yng nghyd-destunau domestig a rhyngwladol, rwyf wedi dysgu’r ffordd anodd yn y broses o frwydro dros gydraddoldeb rhyw, rydym yn aml yn anghofio amdanon ni’n hunain ac yn methu â blaenoriaethau’n llesiant ein hunain.
Rwyf hefyd wedi gweld sawl menyw arall yn dioddef lefelau uchel o straen, blinder, iselder a salwch corfforol, gan gynnwys canser, clefydau awto-imiwn a chyflyrau niwrolegol, megis M.E/syndrome blinder cronig. Mae rhai actifyddion dros hawliau menywod rwyf wedi cydweithio gyda nhw wedi marw’n brwydro dros gyfiawnder.
Nid yw’r lefelau uchel hyn o straen a blinder yn gynaliadwy i ni fel unigolion, nac i’n symudiad. Mae hyn wedi fy arwain i ofyn cwestiynau i mi fy hun o ran sut rydw i’n cydbwyso fy ymrwymiad i hawliau menywod gan edrych ar ôl fy hun, ond hefyd i gwestiynu sut gall y symudiad hawliau menywod yng Nghymru flaenoriaethu’r mater pwysig hwn a chefnogi ei aelodau i arfer hunanofal a gofal ar y cyd.
Nid pwnc newydd yw hwn, ond fel menywod, ac fel actifyddion hawliau menywod, rydym yn ei chael hi’n anodd o hyd i flaenoriaethu ac arfer hunan-ofal a llesiant yn ein bywydau ein hunain ac fel rhan o’n symudiad cyfiawnder cymdeithasol. Pam? A beth gallwn wneud amdano? A oes enghreifftiau o arfer da y gallwn eu defnyddio? Beth byddai golwg symudiad menywod yng Nghymru petai hunan-ofal a llesiant wrth ei wraidd? Sut gallwn ddatblygu’r sgwrs hon?
Dyma rai syniadau, myfyrdodau a mwy o gwestiynau, nid mewn unrhyw drefn arbennig! Maent yn seiliedig ar fy arsylwadau a’m profiad yn gyffredinol, yn ogystal â’r trafodaethau rwyf wedi bod yn rhan ohonynt yn flaenorol yn fy ngwaith mewn datblygiad rhyngwladol. Hoffwn y cyfle i glywed barn actifyddion hawliau menywod yng Nghymru a’u profiadau.
- Mae hunan-ofal yn wleidyddol ac mae blaenoriaethu’r agwedd hon ar ein bywydau a’n symudiad yn rhan o’n hanhawster. Mae patriarchaeth wedi rhoi disgwyliadau afrealistig arnom. Gall gofalu amdanom ni ein hunain gael ei weld fel gweithred ffeministaidd radical i herfeiddio’r disgwyliadau hyn. Yng ngeiriau’r awdur Audre Lorde: “Nid yw gofalu amdanaf fi fy hun yn hunan-faldod, hunangynhaliaeth ydyw a dyna weithred rhyfela wleidyddol” Sut gallwn arfer hunan-ofal a llesiant yn ein symudiad fel gweithred wleidyddol radical? Beth byddai golwg hyn? Sut rydym eisoes yn gwneud hyn?
- Mae llawer o stigma a chywilydd o amgylch hunan-ofal o hyd, ac mae angen i ni herio hyn. Mae llawer o bobl yn meddwl am hunan-ofal fel gwendid neu fregusrwydd o hyd. Mae llawer ohonom yn mewnoli’r farn hon fel rhan o gael ein magu a’n cymdeithasu mewn byd patriarchaidd, ac felly rydym yn annilysu’n hunan-ofal ein hunain yn ogystal â hunan-ofal pobl eraill. Sut byddai’n teimlo a beth byddai golwg disodli hyn â charedigrwydd a thrugaredd i ni ein hunain ac eraill?
- Hunan-ofal a braint: mae llawer o’r sgwrs am hunan-ofal y dyddiau hyn wedi’i dominyddu gan olwg Orllewinol o hunan-ofal sy’n canolbwyntio’n bennaf ar fenywod gwyn breintiedig e.e. ‘gwyliau sba’ drud fel ffurf ar hunan-ofal. Pay sy’n manteisio ar y cysyniad hwn o hunan-ofal a phwy mae’n ei adael ar ôl? Sut rydym yn adennill hunan-ofal fel mater ffeminyddol, ac nid cysyniad neo-ryddfrydig yn unig? Sut rydym yn sicrhau bod pawb yn gallu gwneud hyn?
- Nid yw straen a chydbwyso ymrwymiadau’n mynd i ddiflannu, felly sut rydym yn cydbwyso hunan-ofal â’n bywydau personol a phroffesiynol? Sut gallwn gefnogi ein gilydd er mwyn gallu gwneud hyn? Pa gamau ymarferol y gallwn eu cymryd i wella hunan-ofal a gofal ar y cyd?
- Symudiadau cyfiawnder cymdeithasol cynaliadwy: beth yw golwg hunan-ofal ar y cyd ar gyfer y sector hawliau menywod yng Nghymru? Sut rydym yn cysylltu hunan-ofal i’n diben, ein cenhadaeth a’n capasiti fel symudiad? Beth yw’r goblygiadau o ran yr adnoddau? Ble gallwn siarad am y materion hyn? Sut gallwn hwyluso hunan-ofal a llesiant a gofal a llesiant ar y cyd yn well?
- Hunan-ofal a COVID-19: mewn adegau o argyfwng, mae’n bwysicach nag erioed i ni flaenoriaethu hunan-ofal a llesiant. Mae menywod yn y rheng flaen o ran ymateb i’r argyfwng COVID-19 a bydd llawer ohonynt yn wynebu pwysau a bregusrwydd ychwanegol sylweddol. Sut rydym yn ymdopi â’r newidiadau hyn fel unigolion ac ar y cyd? Pa strategaethau hunan-ofal sy’n gweithio orau ar yr adegau hyn? I ble’r allwn droi os ydym yn cael anhawster ymdopi? Oes angen i ni roi mesurau neu offer ychwanegol ar wait hi gryfhau ein gwydnwch yn wyneb argyfyngau yn y dyfodol? Os felly, beth ydyn nhw?
Ceri Hayes runs her own consultancy organisation, Gender Matters (www.gendermatters.co.uk), which provides support to a range of organisations in advancing gender equality and women’s rights in Wales, the UK, and internationally. Previously she worked for a number of different human rights and international development organisations. Her passion is working with grassroots women’s rights organisations to support their organisational development and advocacy, policy and campaigns work. Having experienced burn-out and chronic illness herself and seen this happen to countless other women’s rights activists she is very keen to explore how we can prioritise the issues of self and collective care in Wales so we have a more sustainable movement.