Dirymiad Roe vs Wade: Llythyr Agored

Dydd Mercher Mehefin 29th, 2022

At: Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt AS

CC: Y Gweinidog dros Iechyd a’r Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan AS

Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas

 

Annwyl Weinidog,

Dirymiad Roe vs Wade

Rydym yn ysgrifennu atoch i fynegi ein siomedigaeth a’n tristwch mawr iawn ynghylch y penderfyniad i ddirymu’r hawl cyfansoddiadol i erthyliad yn Unol Daleithiau. Mae’n anfon neges beryglus i bedwar ban byd ar adeg lle mae menywod[1] mewn sawl gwlad, gan gynnwys Gogledd Iwerddon, yn ei chael hi’n anodd cyflawni hawliau erthyliad o hyd.

Hoffem ofyn i chi wneud datganiad cryf i gefnog hawl menywod i erthyliad cyn gynted â phosib a’ch bod yn condemnio’r toriad hawliau dynol ofnadwy hwn yn gyhoeddus.

Hefyd, hoffem ofyn am wella’r ddarpariaeth yng Nghymru. Rydym yn gwybod bod yn rhaid i lawer o fenywod yng Nghymru deithio’n bell o hyd am wasanaethau erthyliad a’i fod yn anodd cael mynediad i wasanaethau erthyliad hwyrach o hyd mewn llawer o ardaloedd yng Nghymru. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw wasanaethau yng Nghymru sy’n darparu erthyliadau y tu hwnt i 19 wythnos ac nid oes unrhyw ysbytai cyffredinol yng Nghymru’n barod i dderbyn achosion â chyflyrau meddygol ac anghenion cymhleth, sy’n golygu bod angen i fenywod deithio i Loegr. Mae angen i hyn newid. Rhowch wybod pa gamau gweithredu y byddwch yn eu cymryd i wella’r sefyllfa ar frys?

Mae angen parthau clustogi o amgylch clinigau sy’n darparu gofal erthyliad, megis Clinig Caerdydd lle mae protestwyr wedi bod yn brawychu ac yn bwlio menywod. Ni all hwn barhau a dylai pwysau fod ar lywodraeth y DU i alluogi sefydlu parthau clustogi fel y gall menywod gael mynediad i’w gofal iechyd mae ei angen arnynt.

Yn y cyfamser, mae angen i Gyngor Caerdydd wneud popeth y gall i ddiogelu unigolion sy’n cael mynediad i wasanaethau iechyd a thrigolion lleol rhag darfu, brawychu ac aflonyddu, gan gynnwys dyrannu Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus yn yr ardal o amgylch y clinig.

Yn olaf, rydym yn gofyn i chi gyflwyno sylwadau ar frys i Lywodraeth Cymru y dylai Adran Iechyd Stormont yng Ngogledd Iwerddon weithredu’r hawl i erthyliad ac yn sefydlu gwasanaeth erthylu wedi’i ariannu’n llawn. Cyhoeddodd Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon, Brandon Lewis, hyn mewn datganiad i’r Senedd ar 19 Mai, 2022. Ar yr adeg honno, dywedodd Mr. Lewis ei fod am weld camau gweithredu mewn ‘diwrnodau ac wythnosau’, ond eto nid oes unrhyw gynnydd wedi cael ei wneud. Mae’n rhaid bod menywod Gogledd Iwerddon yn gallu cael mynediad i’w hawliau atgenhedlu.

Yn gywir

 

Catherine Fookes, Cyfarwyddwr, RhCM Cymru

Alicja Zalesinska, Prif Weithredwr, Tai Pawb

Leila Usmani, Swyddog Lobio a Dylanwadu, Cynghrair Hil Cymru

Debbie Shaffer, Sylfaenydd, FTWW: Triniaeth Deg i Fenywod Cymru

Sara Kirkpatrick, Prif Weithredwr, Cymorth i Ferched Cymru

Mary Ann Brocklesby, Cadeirydd, RhCM Cymru

Cerys Furlong, Prif Weithredwr, Chwarae Teg

Sarah Rees, Pennaeth Oxfam Cymru

Stacey Grant-Canham, Sylfaenydd Black & Beech LTD

Krista Powell Edwards, Sylfaenydd The Credibility Expert Limited

Christina Tanti, Rheolwr Ymchwil a Gwerthuso, Race Equality First

Laura O’Keeffe

Kelly Harris, Arweinydd Brook Cymru

Chris Dunn, Prif Weithredwr, Diverse Cymru

Frances Beecher, Prif Weithredwr, Llamau

Megan Thomas, Swyddog Polisi ac Ymchwil, Anabledd Cymru

Debbie Beadle, Prif Weithredwr Cymorth i Ferched Caerdydd

Nkechi Allen Dawson, Swyddog Polisi, Cyngor Hil Cymru

Sabiha Azad, Swyddog Cysylltiad Cymunedol, Cymorth i Ferched Cymru

Fadhilah Gubari -Cynghorydd Eiriolaeth Oxfam Cymru

Gwendolyn Sterk, Cynrychiolydd arbenigwyr y DU ar Arsyllfa EWL ar Drais yn erbyn Merched a Menywod

Lucia Sivori, Swyddog Llesiant.

Willow Holloway, Autistic Women’s Empowerment Project, Autistic UK

Leanne Waring, Business Development Manager, Cardiff and Vale College

Lisa Isherwood, Britain & Ireland School of Feminist Theology

Nicola Shone, Race Equality First

Laura Murphy & Team – Vicious Cycle: PMDD Awareness Campaign

Laura Kent, Race Equality First

Aliya Mohammed, Chief Executive Officer, Race Equality First

Dr Edward Morris, President, Royal College of Obstetricians and Gynaecologists

Suzy Davies, Women’s Equality Network, Board Member

Dr Olga Jurasz, The Open University

The Whole Team, Trans Aid Cymru

Professor Laura McAllister, Wales Governance Centre

Bobbie Sheldrake.  Programme Action Co-ordinator Soroptimist International Wales South Region.

Sandra Ajax programme

Susie Blacklaw-Jones, Programme Action Officer, Soroptimist International Haverfordwest & District

Margaret Slater-Harries, President, Soroptimist International Haverfordwest & District

Jackie Jones, Councillor

Deena Irving, Soroptimist International Haverfordwest & District

Heidi Lewis, Soroptimist International Wales South Region Joint President

 

[1] Mae ein galwadau yn y llythyr hwn yn cynnwys pawb sydd â uterws ac a allai feichiogi, nid menywod cisgender yn unig.

Diolch i’r Weinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol Jane Hutt AS am ymateb i’n llythyr. Darllenwch ei hymateb fan hyn.