DATGANIAD I’R WASG: RhCM Cymru yn croesawu ymrwymiad hanesyddol i gwotâu rhywedd statudol yn Adroddiad y Pwyllgor Diben Arbennig

Dydd Llun Mai 30th, 2022

Mae RhCM Cymru yn croesawu cyhoeddi adroddiad Pwyllgor Diben Arbennig y Senedd ar Ddiwygio’r Senedd, ac mae’n falch iawn o weld argymhellion yn yr adroddiad y mae RhCM a’r ymgyrch 5050 Amrywiol wedi bod yn ymgyrchu drostynt, megis cwotâu rhywedd sy’n cael eu rhwymo mewn cyfraith, ynghyd â mesurau i wella amrywiaeth. Yn ogystal â’r argymhellion ar gyfer cwotâu rhywedd statudol integredig[1], rydym yn falch o weld argymhellion ynghylch rhwymedigaeth gyfreithiol ar gyfer casglu a chyhoeddi data dienw ar amrywiaeth ymgeiswyr fel y gallwn fesur cynnydd mewn modd ystyrlon yn y maes hwn[2], etholiadau sy’n seiliedig ar rannu swyddi[3], a rhannu swyddi yn achos rolau Pwyllgorau.

 

Dywedodd Evelyn James, Rheolwr Ymgyrch 5050 Amrywiol:

 

“Mae hon yn foment hanesyddol oherwydd gall Cymru ‘nawr fod y wlad gyntaf yn y DU i ddeddfu ar gyfer cwotâu rhywedd a dilyn arweiniad 100 o wledydd eraill o amgylch y byd. Rydym wrth ein bodd â’r adroddiad am ei fod yn adlewyrchu nifer o’r argymhellion a wnaed gan ein clymblaid o gefnogwyr a gofrestrodd ar gyfer yr ymgyrch 5050 Amrywiol.

 

Mae angen cwotâu rhywedd integredig sydd wedi’u rhwymo mewn cyfraith am fod mesurau gwirfoddol i gyflawni cydbwysedd rhwng y rhywiau wedi methu. Mae ymchwil yn dangos mai cwotâu yw’r offeryn mwyaf effeithiol ar gyfer ‘cyflymu taith’ cynrychiolaeth menywod mewn cyrff etholedig, ac mae ein barn gyfreithiol yn dangos eu bod yn berthnasol. Rhaid i’n gwleidyddiaeth adlewyrchu lleisiau amrywiol, ac os caiff yr argymhellion hyn eu derbyn yn eu cyfanrwydd, bydd hynny’n helpu hyn i ddigwydd.”

 

Mae RhCM Cymru hefyd yn croesawu Argymhellion 15 ac 16 ynghylch amrywiaeth, sy’n gofyn am i ragor o waith gael ei wneud i ‘ystyried rhinweddau a goblygiadau cwotâu amrywiaeth deddfwriaethol ar gyfer nodweddion ar wahân i rywedd … ar amser priodol yn y dyfodol’.[4] Ystyriwn mai’r adeg orau i’r gwaith hwn gael ei gyflawni yw nawr. Mae’n waith brys o ystyried y diffyg amrywiaeth yn y Senedd bresennol.

 

Darllenwch ein briff ar gyfer ddadl y Senedd ar yr adroddiad, i gymryd lle ar 8 Mehefin.

[1] Argymhelliad 11: Rydym yn argymell y dylid ethol y Senedd gyda chwotâu rhywedd statudol integredig.

[2] Argymhelliad 12: Rydym yn argymell gosod gofyniad deddfwriaethol ar Awdurdod Datganoledig yng Nghymru i gasglu a chyhoeddi data dienw ar amrywiaeth ymgeiswyr.

[3] Argymhelliad 13: Rydym yn argymell y dylid rhoi ystyriaeth bellach, ar sail drawsbleidiol, i archwilio dichonoldeb a heriau deddfwriaethol sy’n gysylltiedig â galluogi etholiad ar sail rhannu swydd.

[4] Argymhelliad 15. Rydym yn argymell bod pwyllgor perthnasol yn ystyried sut y gellir gwneud rhagor o waith i ystyried rhinweddau a goblygiadau cwotâu amrywiaeth deddfwriaethol ar gyfer nodweddion ar wahân i rywedd. Rydym yn rhagweld y bydd yr ystyriaeth hon yn llywio penderfyniadau ynghylch a fydd cwotâu o’r fath, mewn amser, yn fecanwaith effeithiol ar gyfer annog ethol Senedd fwy amrywiol, ar amser priodol yn y dyfodol.