DATGANIAD I’R WASG: RhCM Cymru’n croesawu argymhellion amrywiaeth yn adroddiad ‘Camau Nesaf Diwygio’r Senedd’
Mae adroddiad newydd ar ddiwygio’r Senedd yn argymell y dylai cynyddu maint y Senedd fynd law yn llaw â chynyddu ei hamrywiaeth. Mae RhCM Cymru’n croesawu’r argymhellion ynghylch amrywiaeth a waned gan y Pwyllgor ar ddiwygio’r Senedd ac yn galw ar yr holl bleidiau gwleidyddol i fabwysiadu’r argymhellion. Rydym yn benodol yn croesawu’r canlynol:
- Y dymuniad a fynegir ar gyfer Senedd sy’n gytbwys o ran rhyw
- Y mynediad i gronfa swyddi etholedig yn darparu cymorth ariannol i bobl anabl sydd am sefyll mewn etholiad
- Cymorth ariannol i ymgeiswyr â chyfrifoldebau gofalu
- Casgliad a chyhoeddiad data amrywiaeth ymgeiswyr gan bleidiau gwleidyddol
- Cyhoeddiad cynlluniau gweithredu amrywiaeth gan bleidiau gwleidyddol
- Rhagor o waith trawsbleidiol ar rannu swyddi
Dylai’r Senedd ofyn am y pwerau i ddeddfu cwotâu deddfwriaethol gan Lywodraeth y DU cyn gynted â phosibl a heb oedi i ganiatáu i’r Chweched Senedd weithredu cwotâu rhyw ac amrywiaeth. Byddai cwotâu rhyw ac amrywiaeth yn galluogi’r newid sylweddol angenrheidiol i sicrhau bod ein Senedd yn adlewyrchu’r boblogaeth mae’n ei gwasanaethu.
Meddai Catherine Fookes, Cyfarwyddwr RhCM Cymru:
‘Rydym yn croesawu argymhellion yr adroddiad ar amrywiaeth, ac rydym yn herio’r holl bleidiau gwleidyddol i wneud datganiad cyhoeddus yn ymrwymo o’r symudiadau cadarnhaol hyn i ddangos eu bod yn cefnogi amrywiaeth go iawn yn y byd gwleidyddiaeth. Nid oes esgus dros unrhyw blaid wleidyddol yn gwrthod yr argymhellion hyn.’
Meddai Rocio Cifuentes, Prif Swyddog Gweithredol EYST:
“Rydym yn croesawu’r adroddiad hwn gan y Pwyllgor Diwygio Etholiadol ac yn annog Senedd Cymru a phleidiau gwleidyddol i dderbyn ei hargymhellion. Mewn ugain mlynedd, ers datganoli Cymru, ychydig iawn o aelodau Cynulliad sydd wedi bod o gefndiroedd Du, Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig, heb gynrychiolaeth gan ferched Du, Asiaidd na Mwslimaidd hyd yma. Yn sicr, mae angen i hyn newid a rhaid i’n harweinyddiaeth wleidyddol gynrychioli pobl amrywiol Cymru yn fwy cywir. Mae Prosiect Mentora EYST wedi gweithio gyda dros 75 o arweinwyr uchelgeisiol sy’n cynrychioli cyfoeth o dalent y mae angen ei ddefnyddio.”
Meddai Patience Bentu o Cyngor Hil Cymru:
“Mae Cyngor Hil Cymru yn sefyll gyda RhCM Cymru ac yn cefnogi argymhellion yr adroddiad ‘Diwygio’r Senedd: Camau Nesaf’ ar amrywiaeth ac yn galw ar bob plaid wleidyddol i gyhoeddi eu polisïau amrywiaeth ar gyfer tryloywder ac atebolrwydd. Yn bwysicaf oll, rydym yn eu hannog i ymrwymo i gweithredu pob argymhelliad i sicrhau bod Cymru yn hyrwyddo chwarae teg i bawb, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, neu gred grefyddol.”
Mae gennym bryderon hefyd nad oes Cronfa Mynediad i Swyddi Etholedig ar gyfer etholiadau Senedd 2021 a bod y cymorth yn gyfyngedig i gefnogi pobl anabl i sefyll mewn etholiadau. Dylai gael ei ymestyn i grwpiau eraill sy’n wynebu rhwystrau ariannol, megis menywod BAME a menywod o gartrefi incwm isel.
Diverse5050
I ddatblygu’n nodau ac i wneud yn siwr ein bod yn sicrhau diwygio gwleidyddol, mae Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru (RhCM Cymru) yn lansio ymgyrch o’r enw #Diverse5050 ynghyd â Chymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru, Cyngor Hil Cymru a Thîm Cymorth Ieuenctid Ethnig Cymru (EYST). Mae gan yr ymgyrch gefnogaeth 17 sefydliad (tua 17,000 o aelodau) ac mae’n galw ar yr holl bleidiau gwleidyddol i wneud y canlynol:
- Cyhoeddi cynlluniau amrywiaeth pleidiau
- Ymrwymo i gasglu a chyhoeddi data ar amrywiaeth eu hymgeiswyr a chynrychiolwyr etholedig yn etholiadau Senedd 2021 ac etholiadau Llywodraeth Leol 2022
- Gwneud ymrwymiadau maniffesto ar gyfer cydbwysedd rhyw 50:50 ynghyd â chynyddu amrywiaeth cynrychiolaeth pobl LHDT+, pobl groenliw a phobl anabl yn y Senedd drwy weithredu cadarnhaol i sicrhau bod y Senedd yn adlewyrchu’r boblogaeth mae’n ei gwasanaethu.
Partneriaid ymgyrch Diverse5050:
- RhCM Cymru (Rhwydwaith Cydraddoldeb Cymru)
- Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru
- Cyngor Hil Cymru
- Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig Cymru (EYST)
Cefnogwyr ymgyrch Diverse5050:
- Chwarae Teg
- Cwmnïau Cymdeithasol Cymru
- Cymorth i Ferched Cymru
- Cynghrair Cenedlaethol Sefydliadau Menywod
- Cynghrair Hil Cymru
- Diverse Cymru
- Grwp Cartrefi Cymunedol Cynon Taf
- Gweithredu dros Blant
- Llamau
- Oxfam Cymru
- Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru
- Sefydliad Materion Cymreig
- Triniaeth Deg i Fenywod Cymru
Mwy o wybodaeth:
Llythyr ymgyrch Diverse5050 i arweinwyr pleidiau Cymru.
Gwnaeth RhCM Cymru gyflwyno tystiolaeth i’r Pwyllgor.
Sesiwn briffio RhCM Cymru ar effeithiolrwydd ac effaith ar gwotâu.