DATGANIAD I’R WASG: Mae RhCM Cymru’n croesawu Adroddiad Pwyllgor ar Ofal Plant ond mae’n galw ar Lywodraeth Cymru i fod llawer yn fwy mentrus er mwyn cynyddu mynediad i ofal plant

Dydd Gwener Ionawr 28th, 2022

Mae RhCM Cymru’n croesawu adroddiad Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd  ’’Meddwl am y Dyfodol: y rhwystr gofal plant syn wynebu rhieni syn gweithio’ ac mae wrth ei fodd gweld bod rhai o’r argymhellion pwysicaf a wnaed gan RhCM Cymru wedi cael eu gweithredu. Mae’r rhain yn cynnwys y pwyllgor yn argymell y canlynol:

  • Cyflawni gofal cofleidiol cyffredinol, gan gynnwys clybiau ar ôl ysgol i helpu gyda bywydau gwaith amrywiol rhieni. Bydd hyn yn helpu rhieni ar incwm is yn arbennig sy’n fwy tebygol o gael eu cyflogi mewn oriau anghyffredin, megis gwaith ansicr, gwaith sift neu gontractau dim oriau.
  • Cryfhau’r ddarpariaeth gofal plant i blant ag anghenion dysgu ychwanegol, gan gynnwys cynyddu swm yr arian sydd ar gael i wella darpariaeth i blant ag anableddau a/neu anghenion ychwanegol neu gymhleth.
  • Gostwng y trothwy incwm a mynd i’r afael â meini prawf cymhwysedd fel bod y cynnig gofal plant yn mynd at y bobl y mae ei angen arnynt fwyaf, yn hytrach na’r rheiny sy’n ennill hyd at £100k. Dylai hyn helpu i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb oherwydd bod plant â rhieni ag incwm is yn debygol o gael mynediad i ofal plant da yn barod.

 

Fodd bynnag, roedd RhCM Cymru’n siomedig nad oedd dau o’n hargymhellion allweddol wedi cael eu gweithredu:

  • sicrhau bod y Cynnig Gofal Plant ar gael o oedran iau, yn ddelfrydol o 6 mis oed
  • ehangu’r Cynnig Gofal Plant i rieni nad ydynt yn gweithio er mwyn eu cefnogi wrth geisio dod o hyd i gyflogaeth

Meddai Catherine Fookes, Cyfarwyddwr RhCM Cymru:

“Er ein bod yn falch bod y Pwyllgor wedi taro golau ar y diffyg gofal plant sylweddol i blant anabl a’i fod wedi argymell cyflawni gofal cofleidiol cyffredinol a gostwng trothwyon cymhwysedd incwm i leihau anghydraddoldeb, byddem wedi hoffi gweld argymhellion ynghylch ehangu’r Cynnig Gofal Plant i rieni nad ydynt yn gweithio er mwyn bod cymorth yno iddynt i ddod o hyd i gyflogaeth. Mae hyn yn hanfodol os ydym am leihau anghydraddoldeb rhywedd a lleihau’r baich gofal plant di-dâl sy’n gorffwys ar ysgwyddau menywod yn bennaf.”

Ymateb ymgynghori ysgrifenedig gan RhCM Cymru [Saesneg]: https://wenwales.wpengine.com/wp-content/uploads/2022/01/WEN-Wales-Childcare-and-parental-employment.pdf