DATGANIAD I’R WASG: Gallai rhannu swyddi wella amrywiaeth yng ngwleidyddiaeth Cymru
Er bod cynrychiolaeth menywod wedi cynyddu oddi ar etholiadau lleol 2017, dangosodd etholiadau’r mis hwn fod gennym ffordd bell i fynd o hyd i sicrhau cydbwysedd rhwng y rhywiau yng ngwleidyddiaeth Cymru – dim ond 36% o’r cynghorwyr etholedig sy’n fenywod. Mae angen gweithredu cadarnhaol i sicrhau cynrychiolaeth amrywiol a chyfartal sy’n adlewyrchu cymdeithas Cymru. Mae ymchwil newydd gan Rwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru a Chymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru yn datgelu bod rhannu swyddi yn fesur y gellid ei roi ar waith yn y Senedd i wella amrywiaeth a sicrhau gwell canlyniadau ar gyfer etholwyr.
Rydym yn croesawu’r cyhoeddiad gan Lafur Cymru a Phlaid Cymru ar gwotâu rhywedd yn rhan o’r broses o ddiwygio’r Senedd, gan mai cwotâu yw’r offeryn mwyaf effeithiol ar gyfer cynyddu cynrychiolaeth menywod – ond nid bwled arian mohonynt, ac mae angen iddynt fod yn rhan o becyn cymorth ehangach i fynd i’r afael â’r gwahanol rwystrau y mae menywod a grwpiau eraill heb gynrychiolaeth ddigonol yn eu hwynebu mewn gwleidyddiaeth. Mae rhannu swyddi yn arf allweddol arall ar gyfer gwella amrywiaeth oherwydd gall leihau rhwystrau i fenywod, ymgeiswyr anabl, a grwpiau eraill heb gynrychiolaeth ddigonol sy’n wynebu rhwystrau i gael eu hethol.
O ran yr etholwyr, gallai rhannu swyddi ddarparu “dau am bris un” mewn perthyna â sgiliau a phrofiad, a gallai alluogi aelodau i gynnal gwell cysylltiadau â’u bywyd y tu allan i’r Senedd; gall hyn fod yn berthnasol i waith craffu a gwaith cynrychioliadol.
Mae adroddiadau blaenorol gan y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad a Phwyllgor Diwygio Etholiadol y Senedd wedi archwilio a chefnogi’r arfer o rannu swyddi mewn gwleidyddiaeth. Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru wedi nodi bod rhannu swyddi yn un o’r newidiadau syml y gall cyrff cyhoeddus eu gwneud i hyrwyddo’r nod llesiant, Cymru Fwy Cyfartal. Y rheswm am hyn yw y gallai rhannu swyddi annog ystod fwy amrywiol o bobl i fynd i fyd gwleidyddiaeth, gan felly gynyddu cynrychiolaeth wleidyddol ar gyfer menywod, ymgeiswyr anabl, a grwpiau eraill heb gynrychiolaeth ddigonol sy’n wynebu rhwystrau i gael eu hethol.
Mae gwleidyddion sydd â phrofiad o rannu swyddi neu amrywiaeth a chydraddoldeb wedi ategu’r pwyntiau hyn, gan awgrymu hefyd y gall rhannu swyddi ddarparu cyfleoedd mentora sy’n galluogi ymgeiswyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol i gamu ymlaen i rolau uwch.
Yn ôl yr arbenigwyr academaidd Rosie Campbell a Sarah Childs, dylai ymgeiswyr sy’n rhannu swydd sefyll fel ymgeisydd ar y cyd, gan gytuno ar y blaenoriaethau, y nodau a’r trefniadau gweithio cyn cael eu dewis. Dylent gael eu hethol ar y cyd trwy bleidlais sengl a rennir er mwyn cynnal y rhai sy’n rhannu swyddi yn “un endid cyfreithiol” ac yn un cydymgeisydd ar y papur etholiad.
Mae’r gefnogaeth i’r syniad o rannu swyddi mewn gwleidyddiaeth yn neidio 11% i 48% pan fydd y rhai a holir yn deall y manteision allweddol. Mae hyn yn awgrymu y gall unrhyw ddeddfwriaeth yn y dyfodol ar rannu swyddi yn y Senedd ennyn cefnogaeth eang gan y cyhoedd os caiff rhesymeg a manteision cynnig o’r fath eu cyfleu mewn modd clir a thryloyw.
Mae syniadau newydd ar gyfer prosesau etholiadol yn y dyfodol yn cael eu hystyried ar hyn o bryd yn rhan o Gam 2 o’r broses o ddiwygio’r Senedd. Mae WEN Cymru yn argymell y canlynol:
- Dylai’r Pwyllgor Diben Arbennig ar gyfer Diwygio’r Senedd argymell polisi i Lywodraeth Cymru ar gyfer newid y ddeddfwriaeth i ganiatáu ymgeiswyr i rannu swyddi yn etholiad nesaf y Senedd, a gellid archwilio hyn wrth i’r bil diwygio gael ei baratoi.
- Dylid annog amrywiaeth eang o aelodau etholedig, nid menywod yn unig, i fynd ati i rannu swyddi gweithredol ym myd llywodraeth leol.
Dywedodd Dr Jessica Laimann, y Swyddog Polisi a Materion Cyhoeddus yn WEN Cymru: “Mae’r cynnydd o 8% yng nghynrychiolaeth menywod yn dilyn yr etholiadau lleol yn nodi cam pwysig ymlaen. Ond mae gennym dipyn o ffordd i fynd o hyd, ac mae angen archwilio pob llwybr ar frys i gynyddu amrywiaeth mewn gwleidyddiaeth yng Nghymru. Mae swyddi eisoes yn cael eu rhannu’n llwyddiannus yng nghabinetau rhai cynghorau, a gallai gwneud hyn yn fwy eang ar bob lefel o lywodraeth yng Nghymru gael effaith fawr. Mae’r ymchwil hwn yn dangos yn glir y gall rhannu swyddi fod yn ysgogiad pwysig i helpu i gyflawni cynrychiolaeth wleidyddol sy’n adlewyrchu ein poblogaeth amrywiol, gan felly gyfnerthu ein democratiaeth.”
Dywedodd Bethan Sayed, sy’n ymchwilydd ac yn gyn-aelod o’r Senedd: “Dylai opsiynau i rannu swyddi ar gyfer gwleidyddion fod yn rhan o’r drafodaeth sylfaenol am y modd i greu Senedd sydd wir yn meddu ar weledigaeth, sy’n hyblyg, ac sy’n addas ar gyfer yr 21ain Ganrif. Mae hon yn drafodaeth am sicrhau bod pobl newydd yn mynd i fyd gwleidyddiaeth, gyda syniadau newydd. Mae’n ymwneud â’r modd yr ydym yn gweithio mewn ffordd wahanol trwy rannu cyfrifoldebau a thasgau. Mae’n ymwneud â chwalu rhwystrau i’r rheiny na fyddent yn breuddwydio mynd i fyd gwleidyddiaeth fel arall. Mae’n ymwneud â sicrhau mai’r Senedd yw gwir lais pobl Cymru.”
Rhannu swyddi ar gyfer Aelodau’r Senedd: gellir darllen y briff llawn yma.