DATGANIAD I’R WASG: Mae hanner y mamau yng Nghymru’n cael anhawster yn cael deupen llinyn ynghyd

Dydd Iau Mawrth 25th, 2021

Mae 49% o famau yng Nghymru yn dweud eu bod yn cael anhawster yn cael deupen llinyn ynghyd, o gymharu â 38% o dadau, yn ôl arolwg barn a gyhoeddwyd heddiw gan Rwydwaith Cydraddoldeb Menywod (RhCM) Cymru. Mae’r ymchwil hon yn dangos bod yn rhaid i’r llywodraeth wneud mwy i gefnogi merched a menywod wrth i ffocws droi tuag at adfer ar ôl pandemig y coronafeirws. Yn ogystal, mae’n hanfodol bod gan amrywiaeth o fenywod lais wrth y bwrdd gwneud penderfyniadau.

Cynhaliwyd yr arolwg barn gan Survation yng Nghymru ar gyfer RhCM, a ledled y DU am bum sefydliad menywod ynghyd â RhCM Cymru, Engender, Cymdeithas Fawcett , Grŵp Cyllidebu Menywod Gogledd Iwerddon a’r  Grŵp Cyllidebu Menywod. Heddiw mae RhCM Cymru wedi rhyddhau papur briffio ar ganlyniadau Cymru.

Mae ymchwil dros y flwyddyn ddiwethaf wedi dangos mai menywod sydd wedi dioddef fwyaf o ran effeithiau cymdeithasol ac economaidd Covid-19 gyda menywod Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, menywod ifanc, menywod mewn aelwydydd incwm isel, menywod anabl, mamau sengl a’r rheiny â chyfrifoldebau gofalu’n cael eu heffeithio’n arbennig o wael.

Yr effaith ar iechyd meddwl

Dengys yr ymchwil hefyd yr effaith ar iechyd meddwl menywod yng Nghymru oherwydd y pandemig, oherwydd bod menywod yn dweud eu bod yn profi lefelau uwch o orbryder na dynion. Wrth ateb y cwestiwn, ‘pa mor orbryderus yr oeddech yn ei deimlo ddoe?’, dywedodd 43% o fenywod a 26% o ddynion o leiaf 6 allan o 10 ar y raddfa lle mae 10 yn golygu ‘yn hollol orbryderus’ a 0 yw ‘ddim yn orbryderus o gwbl’. Mae’n rhaid i ni weld buddsoddiad uwch mewn darpariaethau iechyd meddwl i’r rheiny yr effeithiwyd arnynt yn anghyfartal gan y pandemig, o staff rheng flaen i’r boblogaeth gyffredinol.

Cyflogaeth

Roedd menywod yng Nghymru’n fwy tebygol o fod wedi collie u swyddi oherwydd busnes yn cau gydag 18% o fenywod yn profi colli swyddi am y rheswm hwn o gymharu ag11% o ddynion. Dengys y data hefyd fod pobl BAME ddwywaith mor debygol o fod wedi colli oriau gwaith o gymharu â phobl wynion (48% o bobl BAME o gymharu â 23% o bobl wynion). Roed pobl anabl hefyd yn wynebu lefelau uwch o golli swyddi na phobl heb anabledd gyda 31% o bobl anabl yn colli oriau gwaith o gymharu â 23% o bobl nad ydynt yn anabl.

Cyfrifoldebau gofal plant

Wrth ateb y cwestiwn beth oedd eu cyflogwr yn debygol o’i wneud petaent yn gorfod ymgymryd â chyfrifoldebau gofal plant ychwanegol; dywedodd 23% o fenywod a 11% o ddynion mai eu hymateb tebygol fyddai eu cyflogwyr yn rhoi amser iddynt o’r gwaith heb unrhyw dâl. Mae hyn yn ymateb arbennig o bryderus o ystyried bod menywod yn dal i ymgymryd â lefelau uwch o ofal plant na dynion. Ar adeg yr arolwg, gwnaeth 63% o fenywod ateb eu bod yn ymgymryd â’r rhan fwyaf o ofal plant o gymharu ag 17% o ddynion.

 

Mae’r arolwg yn dangos yn glir yr effeithiwyd ar fenywod, yn enwedig menywod BAME ac anabl, gan y pandemig yn anghyfartal ac os nad yw camau’n cael eu cymryd ar frys, bydd llawer mwy yn mynd i dlodi. Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ailadeiladu’r economi’n ofalus, gan gynnwys menywod wrth ei wraidd.

Meddai Catherine Fookes, Cyfarwyddwr Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru:

“Un flwyddyn o gyfnod cyfyngiadau symud cyntaf Covid-19, mae angen parhaus i fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau clir a chynyddol sydd wedi cael eu datgelu gan y pandemig. Drwy gydol y flwyddyn, mae ein hymchwil wedi dangos yr effeithiwyd ar fenywod, ac yn arbennig menywod BAME ac anabl, a menywod ar incwm is yn anghyfartal gan y pandemig a’r polisïau a weithredwyd mewn ymateb iddo. Mae angen i ni weld amrywiaeth o fenywod mewn swyddi gwneud penderfyniadau fel bod ein sefydliadau gwleidyddol yn adlewyrchu’r gymdeithas rydym yn byw ynddi a’r ehangder ehangach o brofiadau i fynd i’r afael ag anghenion yr holl fenywod gyda pholisïau ac ariannu a dargedir.”

Mae argymhellion ar gyfer camau gweithredu yn y papur briffio’n cynnwys y canlynol:

  • Cynlluniau cadw swyddi a chynlluniau hunangyflogaeth sy’n gweithio i bawb – gan gynnwys rhieni sengl a gweithwyr rhan-amser
  • Anghenion buddsoddi i ddarparu swyddi mewn amrywiaeth eang o ddiwydiannau, nid ffafrio diwydiannau sy’n cyflogi llawer o ddynion yn unig fel adeiladwaith
  • Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod yr Adferiad Gwyrdd yn Adferiad Gwyrdd A Gofalgar drwy fuddsoddi mewn gofal
  • Dylai Llywodraeth Cymru roi cynllun gweithredu ar waith i fenywod yn yr economi, fel Canada
  • Mae angen mynd i’r afael â stereoteipio rhywedd mewn ysgolion

Darllenwch y papur briffio llawn papur briffio.

Nodiadau ar Fethodoleg

Daw ein hymchwil o ddata a gasglwyd gan Survation rhwng 18 Tachwedd a 4 Rhagfyr 2020. Cynhaliwyd yr arolwg drwy bane lar-lein. Anfonwyd gwahoddiadau i gwblhau arolygon at aelodau paneli ar-lein. Roedd sampl y boblogaeth yn cynnwys rhieni yng Nghymru â phlant 14 oed neu’n iau. Maint y sampl oedd 613.

Amdanom ni

Cynhaliwyd yr ymchwil hon gan Grŵp Cyllideb Menywod y DU, Cymdeithas Fawcett, Grŵp Cyllideb Menywod Gogledd Iwerddon, Close the Gap ac Engender. Ariannwyd yr ymchwil hon gan Ymddiriedolaeth Standard Life ac Ymddiriedolaeth Ddiwygio Joseph Rowntree.

 

Ymddiriedolaeth Standard Life

Mae Ymddiriedolaeth Standard Life wedi cefnogi hyn fel rhan o’i chenhadaeth i gyfrannu at newid strategol sy’n gwella llesiant ariannol yn y DU. Mae’r ymddiriedolaeth yn ariannu ymchwil, gwaith polisi a gweithgareddau ymgyrchoedd i fynd i’r afael â phroblemau ariannol a gwella safonau byw i bobl ar incwm isel i ganolig yn y DU. Ymddiriedolaeth elusennol annibynnol ydyw wedi’i chofrestru yn yr Alban (SC040877).

 

Ymddiriedolaeth Ddiwygio Joseph Rowntree

Ariannwyd yr astudiaeth hon gan Ymddiriedolaeth Ddiwygio Joseph Rowntree (JRRT). Gan ymateb i’r argyfwng cynyddol o ddemocratiaeth ac erydiad ymddiriedaeth yn y dosbarth a’r sefydliadau gwleidyddol, mae maes gwaith blaenoriaethol JRRT yn cynnwys cynhyrchu grantiau a gweithgareddau allanol er diwygiad democrataidd a gwleidyddol.