Cerdyn Sgorio Ffeministaidd 2020: gallai cydraddoldeb rhyw ddioddef oherwydd Covid-19

Dydd Llun Ebrill 20th, 2020

Mae RhCM Cymru, elusen cydraddoldeb menywod wedi cyhoeddi ei ail gerdyn sgorio ffeministaidd gydag Oxfam Cymru oherwydd bod y ddwy elusen yn rhybuddio y gallai pandemig y coronafeirws atal datblygiad wrth wneud Cymru’n lle tecach i fenywod.

Mae Cerdyn Sgorio Ffeministaidd 2020 yn ymwneud â chwe maes polisi ac mae’n dangos datblygiad Llywodraeth Cymru ers 2019 tuag at gyflawni cydraddoldeb i fenywod a marched. Dros y 12 mis diwethaf, mae datblygiadau wedi cael eu gwneud, er enghraifft wrth ddod i ben â thrais yn erbyn menywod ac wrth symud tuag at y maes cyllid teg sydd wedi symud o goch i oren. Fodd bynnag, rydym yn bryderus iawn am y bygythiad Covid-19 a gododd oherwydd cwblhau ymchwil ar yr adroddiad hwn.

 

Mae’r pandemig yn bygwth cydraddoldeb menywod – mae 80% o bobl sydd wedi’u cyfogi mewn gweithgareddau iechyd dynol a gwaith cymdeithasol yng Nghymru’n fenywod. Menywod sydd ar y rheng flaen o ran ymateb i’r feirws fel gweithwyr iechyd, athrawon a gofalwyr yn y cartref. Menywod sydd mewn perygl o gael eu cadw yn y cartref gyda phartneriaid treisiol. Menywod, yn arbennig menywod anabl, du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME) ar incwm isel sy’n debygol o ddioddef fwyaf oherwydd y pandemig.

Meddai Catherine Fookes, Cyfarwyddwr RhCM Cymru,

‘’Mae ein Cerdyn Sgorio 2020 yn dangos hyd yn oed cyn y pandemig Covid-19, fod menywod eisoes yn wynebu anghydraddoldeb difrifol yng Nghymru o ran hawliau, cyflog, swyddi, cynrychiolaeth, arweinyddiaeth ac iechyd. Mae’r argyfwng yn bygwth erydu’r datblygiad a waned dros y flwyddyn ddiwethaf oherwydd mai menywod sydd ar y rheng flaen o ran ymateb i’r argyfwng. Felly, rydym yn annog Llywodraeth Cymru i ddatblygu ein hargymhellion ymarferol yn y cerdyn sgorio ar frys, yn arbennig y rhai hynny a fydd yn gwella’r caledi ariannol oherwydd yr argyfwng.’

Dywedodd Rachel Cable, Pennaeth Oxfam Cymru,

‘Heddiw yng Nghymru, mae 23% o bobl yn byw mewn tlodi, ac yng Nghymru ac ym mhedwar ban byd, effeithir ar fenywod gan dlodi fwyaf. Bydd y coronafeirws yn gwaethygu hyn. Mae angen camau gweithredu brys gan Lywodraeth Cymru, busnesau a’r gymdeithas ddinesig i sicrhau bod anghydraddoldeb rhyw wrth wraidd ein hymateb nawr. Er bod ein sylw heddiw ar yr argyfwng, ac mae hynny’n gywir, mae’n rhaid i ni hefyd achub ar y cyfle i ystyried pa rannau o ‘normal’ rydym am ddychwelyd iddynt. Rydym yn barod i weithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu hawliau menywod yng Nghymru ac ym mhedwar ban byd.’

 

Mae’r Cerdyn Sgorio’n dadansoddi chwe phrif faes ac mae’n awgrymu cyfres o argymhellion ym mhob maes polisi a allai olygu Cymru heb wahaniaethu. Rhestrir enghreifftiau o’r argymhellion allweddol isod ac yn yr adroddiad llawn.

  • Cyfrifoldebau gofalu: Cynnig gofal plant fforddiadwy a hygyrch i bawb o chwe mis oed, gan gynnwys i rieni nad ydynt yn gweithio;
  • Dod i ben â thrais yn erbyn menywod a merched: sicrhau cyllid cynaliadwy tymor hir;
  • Cynrychiolaeth ac arweinyddiaeth gydradd: rhoi cwotâu rhyw ac amrywiaeth cyfreithiol ar waith;
  • Hawliau menywod byd-eang: Cyflwyno fframwaith monitor a gwerthuso sy’n cynnwys dangosyddion perfformiad clir sy’n canolbwyntio ar ryw, mesurau llwyddiant a strwythur adolygu;
  • Cyllid teg: Gosod targed i leihau’r bwlch cyflog rhyw o hanner – i 7% – erbyn 2028;
  • Mynd i’r afael ag anghydraddoldeb iechyd rhyw: Gwneud y ‘Cwrs Llesiant Mislifol Gydol Oes’ yn elfen orfodol o gwricwlwm newydd yr ysgol.

 

Ymunwch â ni am lansiad ar-lein ddydd Mawrth 21 Ebrill, rhwng 1230  1330 a thrafodaeth am yr adroddiad pwysig Newydd, wedi’i lunio mewn partneriaeth rhwng Oxfam Cymru a RhCM Cymru gyda Sian Gwenllian AC a Suzy Davies AC, Cadeiryddion y Grŵp Trawsbleidiol ar Fenywod.

Mae modd cael tocynnau am y lansiad ar-lein drwy Eventbrite, a bydd y cyfarwyddiadau ymuno’n cael eu e-bostio ar ôl cofrestru: https://www.eventbrite.co.uk/e/102245517094