Nod Bil newydd yw ‘sicrhau chwarae teg gwleidyddol’ i fenywod, medd ymgyrchwyr

Dydd Llun Mawrth 11th, 2024

Mae ymgyrchwyr wedi croesawu Bil newydd, sy’n anelu at gynyddu nifer y menywod sy’n cael eu hethol i’r Senedd. Bydd Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr
Etholiadol) yn gweld mandadau lleoli yn cael eu rhoi ar restrau ymgeiswyr ar gyfer etholiadau’r Senedd yn y dyfodol, sy’n golygu bod yn rhaid i hanner yr ymgeiswyr ar restrau pleidiau fod yn fenywod a bod yn rhaid i menywod fod ar frig o leiaf hanner y rhestrau. Mae ymgyrch 5050Amrywiol, sy’n cynnwys RhCM Cymru, Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru, Cyngor Hil Cymru, a’r Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig a Ieuenctid (EYST) Cymru, wedi datgan bod y Bil yn allweddol i sicrhau bod mwy o fenywod yn cael eu hethol..

Cyrhaeddodd y Senedd y penawdau yn ôl yn 2003, fel y ddeddfwrfa gyntaf yn y byd i sicrhau cydraddoldeb rhywedd, gyda hanner y seddi’n cael eu hennill gan fenywod. Mae cyfansoddiad presennol y Senedd yn is o ran cynrychiolaeth menywod, gyda menywod yn dal 43% o seddi.

Cyflwynwyd y Bil gan y Weinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip, Jane Hutt. Daw hyn ychydig fisoedd ar ôl cyflwyno mesur i ddiwygio capasiti’r Senedd a’r system etholiadol.

 

Wrth siarad ar ran ymgyrch 5050Amrywiol, dywedodd Evelyn James, Rheolwr yr Ymgyrch:

“Dylai cydraddoldeb rhywedd fod yn un o ofynion sylfaenol democratiaeth Cymru. Nid yw ond yn iawn fod ein sefydliadau gwleidyddol yn adlewyrchu’n cymunedau’n iawn. Mae’r ddeddfwriaeth hon yn hanfodol er mwyn helpu i sicrhau tegwch ac i ostwng rhai o’r rhwystrau sydd wedi golygu bod dynion yn dominyddu ein systemau gwleidyddol.

“Mae gwir angen i safbwyntiau a phrofiadau menywod gael eu hadlewyrchu yn y deddfau sy’n ein rheoli ni i gyd, ac i fenywod o bob nodwedd warchodedig a phob cymuned ymylol gael eu cynrychioli’n deg. Mae ymgyrch 5050Amrywiol yn galw am fesurau amrywiaeth ehangach law yn llaw â’r ddeddfwriaeth hon, gan ei bod yn hanfodol bod ystod amrywiol o leisiau menywod yn cael eu clywed yn iawn ym Mae Caerdydd.

“Rhaid inni weld y Senedd yn pasio’r ddeddfwriaeth hon, a fyddai’n nodi cam pwysig ymlaen yng Nghymru sy’n arwain y ffordd o ran cydraddoldeb rhywedd. Ers taro’r penawdau yn ôl yn 2003 am fod y ddeddfwrfa gyntaf i sicrhau cynrychiolaeth gyfartal, mae’r Senedd wedi cymryd cam yn ôl.

“Mae hwn yn gyfle i Gymru arwain y ffordd yn y DU unwaith eto o ran ein democratiaeth.”