Ychwanegiadau Newydd o 100 o Fenywod i Ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Y Merched 2020

Dydd Mercher Mawrth 4th, 2020

Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod (RhCM) Cymru’n datgelu’r 100 o fenywod Cymreig newydd ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2020

Mae’n bleser gan Rwydwaith Cydraddoldeb Menywod (RhCM) Cymru ddatgelu’r ychwanegiadau newydd i’w restr o 100 o Fenywod i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2020 ar 8 Mawrth. Mae pymtheg menyw eithriadol newydd wedi derbyn lle, er mwyn cydnabod yr effaith a’r etifeddiaeth ysbrydolgar maent wedi’u creu yn eu meysydd. Mae’r ychwanegiadau diweddaraf yn cynnwys deuddeg o fenywod cyfoes sy’n weithredol yn eu meysydd, ynghyd â thair menyw sydd wedi helpu i lunio dyfodol Cymru, wedi iddynt gael eu dileu o hanes prif ffrwd Cymru.

Maent yn amrywio o fenywod megis Cheryl Beer a ddatblygodd gorsaf radio i gleifion Alzheimer’s, i Uzo Iwobi, cyfreithiwr ac Ymgynghorydd Cydraddoldeb. Mae gan yr holl fenywod straeon anhygoel i’w hadrodd ac maent wedi dangos penderfyniad enfawr ac wedi goresgyn rhwystrau sylweddol i gyrraedd lle maent wedi cyrraedd.

Meddai Catherine Fookes, Cyfarwyddwr RhCM Cymru,

“Mae ein 100 o fenywod Cymreig wedi gwneud cyfraniad gwych i’r meysydd gwleidyddiaeth, iaith, chwaraeon, diwylliant, gwyddoniaeth a diwydiant yng Nghymru. Mae rhai ffigurau enwog ar y rhestr, ond mae rhai enwau na fydd pobl yn eu hadnabod, oherwydd ein bod am ddathlu arwyr heb eu dathlu hefyd. Rydym yn gobeithio y bydd y rhestr o 100 o Fenywod Cymreig yn ysbrydoli pobl i ddysgu mwy am y menywod hyn a sut maent wedi llunio ein hanes ac wedi gweithredu fel modelau rôl ar gyfer menywod ifanc heddiw.”

Bydd RhCM Cymru’n gal war ei aelodau i ddathlu’r ychwanegiadau newydd fel rhan o Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched 2020, ac mae hefyd wedi lansio pecyn cymorth i annog llu o weithgareddau ledled Cymru.

“Rydym am annog cynifer o bobl ag y gallwn i ymuno yn y gweithgareddau ar 8 Mawrth 2020 i gydnabod y cyfraniadau anhygoel y mae menywod wedi’u gwneud i’n bywydau yng Nghymru. Gall pawb gymryd rhan drwy wneud pethau syml megis gwneud adduned ar y cyfryngau cymdeithasol i ddathlu eu harwyr Cymreig ei hunain #WelshShero i ddysgu mwy am #100oFenywodCymreig neu ddod i un o’n digwyddiadau.”

Mae rhai o’r enwebeion newydd wedi rhannu eu meddyliau ar gael eu henwebu a chael eu hychwanegu at y rhestr:

“Rwyf wir yn ddieiriau ac yn ddiymhongar i dderbyn y newyddion gwych hwn. Wrth edrych yn ôl arnaf i fy hun yn 23 oed pan gyrhaeddiad Cymru, ni allwn fod wedi dychmygu’r eiliad hon. Wedi gweithio mor galed i gael fy nerbyn, rwyf wedi cael fy mentora gan gynifer o bobl anhygoel ac rwy’n credu mor gryf – drwy ras Duw, gwaith caled a phenderfyniad fy mod wedi llwyddo – rwy’n diolch i bwy bynnag a wnaeth fy enwebu ac ni alaw wir ddisgrifio mor wrth fy modd ydw i dderbyn y newyddion hwn gan dîm gwych RhCM Cymru. Diolch i chi gyd am fy ysbrydoli – diolch yn fawr gan fenyw ddiolchgar Gymreig, Nigeraidd.” Uzo Iwobi OBE, Cyfreithiwr ac Ymgynghorydd Arbenigol ar Gydraddoldeb.

“Mae gweld fy enw wedi’i restru gyda’r menywod Cymreig anhygoel hyn yn anrhydedd; anrhydedd go iawn. Rwy’n hynod falch o’m gwlad a’n treftadaeth a’n hanes cyfoethog, ac mae’r rhestr hon o fenywod anhygoel a’u cyflawniadau ysbrydolgar yn dyst i’r pethau gwych y mae modd eu cyflawni nid yn unig gan fenywod, ond gan fenywod sy’n byw yn y lle bach hwn rydym yn ei alw’n gartref.” Non Stanford, Athletwr

“Rwyf wrth fy modd i ennill lle mewn neuadd enwogrwydd mor fawreddog, ac yn teimlo anrhydedd i fod yno. Mae llawer o’r hyn rwyf wedi’i wneud oherwydd anogaeth a chefnogaeth fy nhimau, rhai modelau rôl allweddol, a’r cyfleoedd rwyf wedi’u cael, ac felly rwy’n ddiolchgar iddyn nhw, efallai’r enillwyr go iawn!” Yr Athro Kamila Hawthorn MBE

 

Dyma’r 15 100 o Fenywod Cymreig newydd:

CYFOES

 

Cheryl Beer: Canwr / Adroddwr Straeon / Awdur
Categori: Celfyddydau
Lleoliad: Llanelli

 

Bethan Darwin: Cyfreithiwr a Sylfaenydd “Superwoman”
Busnes
Lleoliad: Rhondda / Caerdydd

 

Suzy Davies AC
Categori: Gwleidyddiaeth a Diwygio Cymdeithasol
Lleoliad: Abertawe

 

Rabab Ghazoul: Curadur / Actifydd Cymunedol
Celfyddydau / Gwleidyddiaeth a Diwygio Cymdeithasol
Lleoliad: Caerdydd

 

Uzo Iwobi OBE: Cyfreithiwr ac Ymgynghorydd Arbenigol ar Gydraddoldeb
Categori: Gwleidyddiaeth a Diwygio Cymdeithasol/Addysg
Lleoliad: Abertawe

 

Yr Athro Kamila Hawthorne MBE: MD FRCP FRCGP FAcadMEd
Categori: Gwyddoniaeth
Lleoliad: Abertawe

 

Jane Hutt AC: Dirprwy weinidog a Phrif Chwip,
Categori: Gwleidyddiaeth a Diwygio Cymdeithasol
Bro Morgannwg

 

Linda James: Addysgwr ac Ymgyrchydd Bullies Out MBE
Categori: Addysg
Lleoliad Caerdydd

 

Llinos Medi: Cynghorydd Sir ac Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn
Categori: Gwleidyddiaeth a Diwygio Cymdeithasol
Lleoliad: Ynys Môn

 

Norena Shopland: Hanesydd
Categori: Celfyddydau
Lleoliad: Caerdydd

 

Non Stanford: Athletwr
Categori: Chwaraeon
Lleoliad: Abertawe

 

Dr Victoria Winckler: Cyfarwyddwr, Ymddiriedolaeth Bevan
Gwleidyddiaeth a Diwygio Cymdeithasol
Lleoliad: Merthyr Tudful

 

HANESYDDOL

Jemima Nicholas: ‘Yr Arwres Gymreig’  1750 -1832
Categori: Gwleidyddiaeth a Diwygio Cymdeithasol
Lleoliad: Abergwaun, Sir Benfro

 

Edith Picton-Turbervill AS: (1872-1960)
Categori: Gwleidyddiaeth a Diwygio Cymdeithasol
Lleoliad: Pen-y-bont ar Ogwr a Swydd Henffordd

 

Menna Gallie: Awdur (1919 -1990)
Categori: Celfyddydau
Lleoliad: Abertawe/Casnewydd, Sir Benfro