Gwahoddiad i gyflwyno tendr: codi arian ar gyfer dengmlwyddiant RhCM WEN at Ten
Dyma wahoddiad i godwyr arian profiadol – helpwch Rwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru i ddathlu ein 10fed Pen-blwydd gyda’r prosiect WEN at Ten! Dadlwythwch y ddogfen dendro lawn yma neu darllenwch hi isod.
- Gwybodaeth am RhCM Cymru:
Ein gweledigaeth yw Cymru heb wahaniaethu ar sail rhyw. Cymru lle mae gan fenywod a dynion awdurdod a chyfle cyfartal i lunio’r gymdeithas a’u bywydau eu hunain. Rydym yn sefydliad aelodaeth a gafodd ei ffurfio yn 2011 ac sy’n cyrraedd dros 34k o bobl.
- Beth yw’r prosiect a pham mae ei angen?
Ddydd Mawrth, 16 Tachwedd 2021, bydd deng mlynedd wedi mynd heibio ers i RhCM Cymru ddod yn ‘gorfforedig’ fel sefydliad. Rydym am ddathlu’r pen-blwydd a phopeth rydym wedi’i gyflawni mewn partneriaeth â’n haelodau gwych, gan edrych ymlaen at y deng mlynedd nesaf. O 16 Tachwedd, byddwn yn dechrau dathliad 10 niwrnod ac ymgyrch ariannu ar draws ein holl sianeli gyda #WENatTen.
- Amcanion y prosiect:
- Dathlu ein dengmlwyddiant
- Defnyddio’r pen-blwydd fel cyfle i godi arian
- Defnyddio’r pen-blwydd i ehangu ein sail aelodaeth
- Canlyniadau’r prosiect
- Codi o leiaf £10k
- Cyrraedd 10k o bobl
- Y gwaith mae angen ei wneud
Mae angen codwr arian profiadol arnom i wneud y canlynol:
- Creu’r Achos ar gyfer Cymorth ar gyfer y gwaith hwn
- Mireinio a therfynu’r cynlluniau a’r syniadau y mae RhCM eisoes wedi’u creu, gan gynnwys o leiaf:
- 1 partneriaeth fasnachol gyda busnes
- 1 partneriaeth gyda sefydliad
- Ffurfio a gweithredu deg ffordd i gefnogi #WENatTen, gan gynnwys cyfleoedd codi arian
- Creu amserlen ar gyfer cyflawni’r cynlluniau
- Arwain cyflawniad a gweithrediad y cynlluniau, gyda chefnogaeth RhCM
- Gwerthuso llwyddiant
Cyllideb o oddeutu: £5k ar gyfer eich amser i gyflawni’r cynlluniau
- Gyda phwy y byddwch yn gweithio?
Byddwch yn gweithio gyda’n tîm cyfeillgar yn RhCM:
- Bydd Cyfarwyddwr RhCM yn gyfrifol am y gwaith yn gyffredinol. Bydd yn eich cefnogi wrth ddatblygu’r Achos am Gymorth, y syniadau a chysylltu â’n rhwydweithiau estynedig yn RhCM
- Byddwch hefyd yn ymgysylltu’n agos â’n Swyddog Cyfathrebu ac Ymgysylltu a fydd yn eich cefnogi chi ac yn gweithredu elfennau cyfathrebu’r gwaith
- Bydd ein swyddog gweinyddol hefyd yn darparu cymorth gweinyddol ar gyfer y digwyddiadau/y gwaith a gynlluniwyd.
- Amserlen y gweithgareddau:
Mai: Cyhoeddi gwahoddiad i gyflwyno tendr
7 Mehefin: Dyddiad cau cyflwyno tendr
W/d 14 Mehefin: Contract yn cael ei ddyrannu
Mehefin – Hydref: Trefnu gweithgaredd
16 Tachwedd: Yr ymgyrch 10 niwrnod yn mynd yn fyw
Rhagfyr: Gwerthuso’r gweithgaredd
- Sut i ymateb i’r tendr a sut bydd ymgynghorwyr yn cael eu dewis:
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno: 10:00 ddydd Llun 7 Mehefin 2021
Dylech anfon cynnig o ddim mwy na 4 tudalen i Admin@wenwales.org.uk gan nodi’r canlynol:
- Sut byddech yn mynd ati i wneud y gwaith a chyflawni’r amcanion a’r canlyniadau, gan gynnwys y cymorth y byddai ei angen arnoch gan dîm RhCM (20 o bwyntiau)
- Cynllun gwaith misol yn dangos y gweithgarwch a fydd yn cael ei wneud (10 pwynt)
- Eich profiad codi arian blaenorol perthnasol (10 pwynt)
- Y gyllideb (10 pwynt)
Caiff tendrau eu sgorio fel uchod, gydag uchafswm o 50 o bwyntiau ar gael.
Caiff y tendrau sy’n cyrraedd y rhestr fer, h.y., y rhai sy’n sgorio uwch na 45 pwynt, wybod erbyn 9 Mehefin. Trefnir y cyflwyniadau, os yn angenrheidiol, ar gyfer dydd Gwener 11 Mehefin.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch admin@wenwales.org.uk.