Caffi RhCM Diwrnod Rhyngwladol y Menywod: Buddsoddi mewn menywod
Ymunwch â RhCM Cymru yn y Deml Heddwch, Caerdydd ar ddydd Gwener 8fed Mawrth ar gyfer digwyddiad Caffi RhCM Diwrnod Rhyngwladol y Menywod! Clywch straeon personol am effaith buddsoddi mewn menywod gan siaradwyr gwych sy’n cynrychioli amrywiaeth o ddiwydiannau a sectorau gan gynnwys STEM, busnes, a’r celfyddydau.
Galwad y Cenhedloedd Unedig am IWD eleni yw ‘buddsoddi mewn menywod: cyflymu cynnydd’ a’n nod fydd dangos, trwy lens groestoriadol, yr hyn sy’n bosibl pan fyddwn yn buddsoddi mewn menywod a’r rhwystrau y mae’n rhaid inni eu chwalu.
Mae’n bleser gennym groesawu Hanan Issa, Bardd Cenedlaethol Cymru i Gaffi RhCM, gyda siaradwyr pellach i’w cyhoeddi’n fuan iawn!
Cofrestru a te/coffi: o 1yp
Siaradwyr a panel: 1:30yp – 2:30yp