Blwyddyn Newydd Dda oddi wrth Catherine a Tîm RhCM
Annwyl Ffrindiau,
Roeddwn am achub ar y cyfle hwn i ddymuno Blwyddyn Newydd Dda i chi ac yn gobeithio bod eich anwyliaid yn iach ac yn ymdopi yn ystod y cyfnod hynod heriol hwn.
Roeddwn hefyd am rannu ein huchafbwyntiau y gwnaethom eu cyflwyno yn ein CCB ar ddiwedd y flwyddyn (atodedig) a dweud wrthych am ein cynlluniau ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Roedd 2020 yn flwyddyn gythryblus, ond rwy mor falch o sut mae ein hymddiriedolwyr a’n haelodau wedi gweithio’n ddiflino i’n helpu i symud yn agosach at ein gweledigaeth – sef Cymru heb wahaniaethu ar sail rhyw. Diolch am chwarae eich rhan er mwyn cyflawni hyn.
Mae ein ffilm wych yn dangos menywod o bob math ledled Cymru yn cyflawni pethau gwych yn 2020 wrth wynebu heriau newydd a heriau a oedd eisoes yn bodoli yn wyneb pandemig byd-eang. Mae’n dangos straeon ein haelodau a’n cefnogwyr sy’n parhau i gysylltu, ymgyrchu a hyrwyddo gyda ni i sicrhau Cymru heb wahaniaethu ar sail rhyw.
Gwnaethom barhau i ganolbwyntio ar ein tair blaenoriaeth strategol yn ystod 2020 a byddwn yn gwneud hyn eto yn 2021:
- Ehangu a symud grŵp o actifyddion i ymgyrchu gyda ni
- Cyflawni arweinyddiaeth a chynrychiolaeth Amrywiaeth 5050 yn y Senedd ac yn y Llywodraeth Leol
- Cryfhau hawliau menywod drwy sicrhau bod egwyddorion CEDAW yn cael eu hymgorffori yng nghyfraith Cymru
Mae rhai cyflawniadau o ran hawliau menywod sy’n uchafbwyntiau personol i mi’n cynnwys y canlynol:
- Cyhoeddiad cronfa Mynediad i Swydd Etholedig yr ydym wedi bod yn ymgyrchu’n hir amdano, ynghyd ag Anabledd Cymru ac eraill
- Cytundeb y byddai Telefeddyginiaeth ar gyfer erthyliadau yn cael ei chaniatáu, gan sicrhau mynediad parhaus i erthyliadau yn ystod y pandemig
- Diddymwyd Dim Hawl Ddigolledu i Gronfeydd Cyhoeddus, gan alluogi i fenywod ymfudol gael mynediad i loches a gwasanaethau
- Gwnaeth ein cerdyn sgorio ffeminyddol ar y cyd ag Oxfam Cymru ddal Llywodraeth Cymru i gyfrif, a gwnaethom arwain ymateb y sector menywod i’n polisi briffio Covid-19 , wedi’i lunio gyda chymorth ein Rhwydwaith Rhyw
- Aeth ein cynllun mentora o nerth i nerth:
- Gwnaeth 92% o’r sawl a wnaeth gwblhau’r cynllun mentora ddweud y byddant yn barod i sefyll fel ymgeisydd gwleidyddol – cynnydd o 25% ar pan wnaethant ddechrau ar y cynllun
- Gwnaeth 75% o’r sawl a gafodd eu mentora ddweud eu bod bellach yn deall sut i gyflwyno cais i fod ar fwrdd cyhoeddus – cynnydd o 71%
- Gwnaeth 91% o’r sawl a gafodd eu mentora ddweud eu bod bellach yn hyderus i fod yn siaradwr ar banel neu i’r cyfryngau – cynnydd o 58%
- Gwnaeth ein Caffis RhCM misol dynnu sylw at rai o’r materion allweddol sy’n wynebu menywod yn ystod y pandemig ac arwain at gyhoeddiadau polisi a mentrau gan Lywodraeth Cymru ar iechyd menywod ac ar Incwm Sylfaenol Cynhwysol. Mae’r man y mae’r caffis wedi ei roi wedi’i groesawu gan ein haelodau: byddai 95% o’r sawl a ddaeth yn argymell y Caffi RhCM i ffrind neu gydweithiwr. Mae 90% o’r sawl a fynychodd bellach yn teimlo fel eu bod wedi’u grymuso i siarad am bethau.
I grynhoi, rydym i gyd yn hynod falch o’n gwaith ac yn edrych ymlaen at gyflawni rhagor 2021! Mae’r pethau i edrych ymlaen atynt yn cynnwys y canlynol:
- rhyddhau ein gwaith Pedair Cenedl i fenywod a Covid-19 gyda Chymdeithas Fawcett
- Cynhadledd Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig ‘Hil, Gwrth-hiliaeth a Rhyngblethedd’ ar 28 Ionawr – rydym yn cefnogi’r digwyddiad ar y cyd â Stonewall Cymru ac Anabledd Cymru
- gwaith polisi yn archwilio Covid-19 a Women – flwyddyn yn olynol
- parhau i gynyddu pwysau ar bleidiau gwleidyddol ar gyfer #Diverse5050 gyda’r partneriaid ERS Cymru, Cyngor Hil Cymru a’r Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig.
Mae yna lawer mwy y gallwn ei wneud wrth gydweithio, felly anogwch eich sefydliad i ymuno â ni os nad yw eich sefydliad eto’n aelod RhCM Cymru. Gallwch wirio yma os ydych chi, ac os nad ydych chi, pam aros!
Yn edrych ymlaen at weithio gyda chi yn 2021.
Cofion Gorau / Best wishes
Catherine a Thîm RhCM