Blog: Marie Curie yn galw am fwy o ymchwil a gofal trwy “lens rhyw a rhywedd” am bobl sydd yn marw

Dydd Sadwrn Mai 28th, 2022

Ar Ddydd Rhyngwladol Gweithredu am Iechyd Menywod, mae elusen flaenorol diwedd oes yn cefnogi ymgyrch newydd s’yn galw am fwy o ecwiti mewn gofal iechyd menywod.

Mae Marie Curie yn rhan o’r fenter Gofal Iechyd Fenywod Cymru o dros 60 sefydliad, sydd wedi drafftio Datganiad Ansawdd arfaethedig am iechyd fenywod, merched a’r rhai a neilltuwyd yn fenywaidd adeg eu geni.

Datganiad Ansawdd yw fwriad polisi lefel uchel newydd Llywodraeth Cymru am feysydd iechyd penodol yng Nghymru.  Bydd Datganiad Ansawdd Gofal Diwedd Oes yn cael ei chyhoeddi yn fuan, ond yn ogystal, mae Marie Curie wedi cyflwyno atodiad gofal diwedd oes i’r Datganiad Ansawdd arfaethedig Gofal Iechyd Fenywod Cymru.

Fel rhan o’r atodiad, mae’r elusen – sydd yn ddarparu cefnogaeth a gofal ar bob agwedd o farw, marwloaeth a phrofedigaeth – yn galw am fwy o ymchwil ar ofal lliniarol a diwedd oes drwy lens rhyw a rhywedd. Hefyd, mae galw am ymrwymiad i sicrhau bod rhyw a rhywedd yn cael eu ystyried pan ddarparir gofal lliniarol a diwedd oes yng Nghymru.

Dywed Bethan Edwards, Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus, Cymru: “Dangoswyd ymchwil bod rhai menywod yn gallu wynebu heriau anghymesur wrth ystyried gofal diwedd oes – boed fod yn derbyn gofal eu hunain neu ddarparu gofal i eraill.  Mae’r heriau hyn yn croestorri ag amrywiaeth o rwystrau i gydraddoldeb arall, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i, os ydych yn fenyw Ddu, Asiaidd neu leiafrif ethnig, yn fenyw anabl, yn y gymuned LGBTQIA+, neu’n byw mewn tlodi.

“Er nad oes ymchwil ar gael sy’n edrych ar Gymru’n benodol, mae tystiolaeth ryngwladol yn dangos bod gwahaniaethau rhyw a rhywedd yn gallu bod yn bresennol wrth ystyried baich symptomau a rheolaeth poen[i],[ii],[iii],[iv] a dewisiadau a phrofiadau menywod o driniaeth diwedd oes [v],[vi],[vii],[viii]. Gall menywod hefyd fod yn llai tebygol o ddewis derbyn gofal a/neu farw yn eu cartrefi, ac mae ymchwil yn dangos fod hwn oherwydd maen nhw’n ofni fod yn faich ar eu teuluoedd [ix].”

Dangoswyd tystiolaeth bod menywod fel arfer yn byw yn hirach na ddynion a gyda mwy o flynyddoedd efo anabledd[x]. Ynghyd ag amcangyfrifon bod galwad am ofal lliniarol yn mynd i gynyddu gan 42% dros Gymru a Lloegr erbyn 2040[xi], a bod marwolaethau dementia – un o achosion arweiniol marwolaethau menywod[xii] – yn cael eu rhagweld i fod mwy na theirgwaith y gyfradd marwolaeth bresennol[xiii], mae’r elusen yn ddweud fod yr angen am ymchwil nawr yn fwy brys nag erioed.

“Mae’r rhagamcanion yma yn pwyntio tuag at nifer cynyddol o fenywod mewn angen o ofal lliniarol a diwedd oes yn y dyfodol agos, ond yn anffodus bydd llawer dal yn wynebu heriau anghymesur wrth drio cael mynediad i’r gofal maent angen,” dywedodd Bethan.

“Mae’n rhaid gwneud mwy o waith nawr i ddeall ble a pham y gall yr annhegwch yma fod yn bresennol yng Nghymru – ac yn fwy pwysig, i sicrhau y gall menywod cael y gofal maent angen, yn y lle gorau iddynt – am ofal diwedd oes well i bawb.

“Mae angen Datganiad Ansawdd yn ei le yn fuan ac mae angen i ofal diwedd oes fod yn rhan bendant o hyn er mwyn i ni fynd i’r afael â’r materion hyn .”

Gofalodd Dee Montague, Swyddog Ymgysylltu Fair Treatment for Women of Wales, am ei Mam oedd ar ddiwedd ei hoes. Dywed hi fod dewis ei Mam i farw mewn hosbis yn arwain at farwolaeth fwy heddychlon na’i brawd hi.

Bu farw Maureen – neu Moe – mewn 2014, tra bod ei mab Kevin, wedi marw mewn A&E oed 26 ar ôl diagnosis o Ewing’s Sarcoma, yn 2001.

Wrth siarad am benderfyniad ei Mam i fynd i’r hosbis i farw, dywed Dee: “Dwi’n meddwl ei bod hi’n gweld yr hosbis fel lle braf i fynd, ond hefyd achos bod hi wedi gweithio ym maes gofalu ac wedi gweld profiadau arall, roedd mam yn gwybod digon am farw ac yn gwybod roedd cymhlethdodau a fydd yn gwneud pethau’n anoddach i ni.

“Trwy ei gwaith, gwelodd hi’r effaith y gall marw yng nghartrefi cael ar deuluoedd, a dwi’n meddwl nad oedd mam eisiau creu ffwdan i ni gyd.

“Yn y diwedd, cafodd hi farwolaeth heddychlon, ond achos oedd hi yn yr hosbis. Roedd hi yn y man lle oedd hi eisiau fod.”

Mae Marie Curie yn gweithio gyda University College London i ddarganfod os oes unrhyw wahaniaethau rhywedd rhwng y cleifion mae Marie Curie yn eu cefnogi yng Nghymru. Bydd yr ymchwil yn edrych yn benodol ar hoffterau lle gofal a marwolaeth menywod, yn ogystal â’r lle gofal a marwolaeth a gyflawnwyd.

 

For further information please contact Rachel Moses-Lloyd, Marie Curie Senior Media and PR Officer – Wales, Rachel.moses-lloyd@mariecurie.org.uk 07730 617843/ Marie Curie Press Office: media@mariecurie.org.uk / 0845 073 8699.

Key recommendations of the plan include improved access to specialist services, improved data collection, support for sustainable co-production of services, and enhanced training for health and care professionals.

You can find out more about the report and the coalition’s work at https://www.ftww.org.uk/womenshealthwales/

About Marie Curie
Marie Curie is the UK’s leading end of life charity.  The charity provides essential nursing and hospice care for people with any terminal illness, a free support line and a wealth of information and support on all aspects of dying, death and bereavement. It is the largest charity funder of palliative and end of life care research in the UK. Marie Curie is committed to sharing its expertise to improve quality of care and ensuring that everyone has a good end of life experience. Marie Curie is calling for recognition and sustainable funding of end of life care and bereavement support.

 

Please note we are ‘Marie Curie’ (not ‘Marie Curie Cancer Care’)
mariecurie.org.uk
facebook.com/MarieCurieWales
twitter.com/mariecuriecymru
instagram.com/mariecurieuk

 

*Organisations involved

  • Fair Treatment for the Women of Wales (FTWW)
  • British Heart Foundation Cymru
  • Long Covid Wales
  • Jo’s Cervical Cancer Trust
  • RareQoL
  • Royal College of Obstetricians & Gynaecologists
  • Endometriosis UK
  • Ethnic Minority Women in Welsh Healthcare (EMWWH)
  • Royal College of Physicians
  • The Ehlers-Danlos Support UK (EDS)
  • The Royal College of Surgeons of Edinburgh
  • Race Equality First
  • The Faculty of Sexual and Reproductive Healthcare of the Royal College of Obstetricians and Gynaecologists (FSRH)
  • WAMES
  • Autistic UK
  • National Federation of Women’s Institutes
  • Lupus UK
  • Campaign Against Painful Hysteroscopy
  • Fertility Network UK
  • Asthma + Lung UK
  • Royal College of Psychiatrists
  • FibroSupport Wales
  • Fibromyalgia Action UK
  • WEN Wales
  • The Autistic Women’s Empowerment Project
  • Menopause Support
  • British Association of Dermatologists
  • Compasssionate Cymru
  • National Autistic Society Cymru
  • Independent Healthare Providers Network Wales
  • Samaritans Cymru
  • Verity
  • Hypermobility Syndroms Assocation (HMSA)
  • Royal College of Nursing Wales
  • Marie Curie
  • Disability Wales
  • IAPMD
  • Mind Cymru
  • Tommy’s
  • Brook
  • Learning Disability Wales
  • Beat
  • Race Council Cymru
  • The Royal College of Speech and Language Therapists (RCSLT)
  • British Pregnancy Advisory Service (BPAS)

More than 13 individual patient advocates also participated.

[i] Ullrich, A. et al., 2019. Exploring the gender dimensions of problems and needs of patients receiving specialist palliative care in a German palliative care unit- the perspectives of patients and healthcare professionals. BMC Palliative Care.

[ii] Fillingim, R. et al., 2008. Sex, Gender and Pain; a review of recent clinical and experimental findings. Science Direct

[iii] Husain, A. et al., 2007. Women experience higher levels of fatigue at the end of life: a longitudinal home palliative care study. PubMed.

[iv] Gott, M., Morgan, T., Williams, L., 2020. Gender and Palliative Care: A Call to Arms. SAGE Publications.

[v] Ullrich, A. et al., 2019. Exploring the gender dimensions of problems and needs of patients receiving specialist palliative care in a German palliative care unit- the perspectives of patients and healthcare professionals. BMC Palliative Care

[vi] Fahad Saeed, M.D. et al., 2018. Preference for Palliative Care in Cancer Patients: Are Men and Women Alike? Journal of Pain and Symptom Management, 56(1).

[vii] Miesfeldt S, Murray K, Lucas L, et al., 2012. Association of age, gender, and race with intensity of end-of-life care for Medicare beneficiaries with cancer. Journal of Palliative Medicine. 15.

[viii] Bookwala J, Coppola K, Fagerlin A, et al., 2001. Gender differences in older adults’ preferences for life-sustaining medical treatments and end-of-life values. Death Studies. 25.

[ix] Gott, M., Morgan, T., Williams, L., 2020. Gender and Palliative Care: A Call to Arms. SAGE Publications

[x] ONS defines ‘years with disability’ as the number of years that a person lives with restricted activity as a result of a long-lasting physical or mental health condition.

[xi] Etkind, S., Bone, A. et al, ‘How many people will need palliative care in 2040? Past trends, future projections and implications for services’, BMC Medicine, 15 (102), 2017

[xii] ONS, 2019. Deaths registered in England and Wales: 2019

[xiii] Etkind, S., Bone, A. et al, ‘How many people will need palliative care in 2040? Past trends, future projections and implications for services’, BMC Medicine, 15 (102), 2017