Blog gan Prentisiaethau Cymru: Llythyr i fi fy hun yn 16 oed

Dydd Gwener Chwefror 5th, 2021

gan Lisa Marie Brown

Annwyl Lisa,

Dyw hi ddim yn hawdd gwneud penderfyniadau gyrfa mor ifanc, buan y doi di i ddeall hynny. Rwyt ti’n teimlo dy fod mewn brwydr rhwng dy ben a dy galon; rwyt ti’n breuddwydio am y byd adeiladu, ond ‘dyw hon ddim yn swydd i ferch”.

Rwyt ti’n mwynhau’r ysgol, er nad yw’r byd academaidd yn gryfder. Does neb i gynnig cyngor neu gymorth go iawn i ti am dy opsiynau gyrfa neu dy gamau nesaf. Mae pwysau arholiadau a’r heriau sy’n dy wynebu fel gofalwr ifanc yn gwneud i ti deimlo nad oes gen ti ddewis ond dilyn llwybr ‘benywaidd’ traddodiadol ac astudio gofal plant yn y coleg. Rwyt ti’n anwybyddu dy reddf ac yn dewis peidio â dilyn dy galon, yn bennaf gan nad oes neb yn dangos i ti sut mae gwneud hynny.

Dyw gyrfa ym maes gofal plant ddim i ti – ac rwyt ti’n gwybod hynny. Rwyt ti eisiau dilyn dy freuddwyd a gweithio ym myd adeiladu yn y bôn. Mae treulio dyddiau Sadwrn yn dy arddegau yn helpu Dad ar y safle adeiladu wedi creu awydd ynot i ddilyn ei esiampl, ond rwyt ti’n clywed nad yw hon yn swydd i ferch, a ddim yn swydd ‘benywaidd, urddasol neu hyd yn oed bosib’. Mae hyn yn dy wneud yn rhwystredig – pam na alli di ddechrau prentisiaeth adeiladu fel rhai o’r bechgyn sy’n ffrindiau i ti? Maen nhw’n cael cymwysterau yn gwneud gwaith maen nhw wrth eu bodd yn ei wneud, ac yn cael eu talu. Rwyt ti am gael clywed y gallet ti wneud yr un peth, fel merch.

Mi fyddi di’n herio’r cyngor hwnnw pan fyddi di’n 22 oed, ac yn dechrau ail-werthuso dy benderfyniadau a sylwi y galli di gynnig cymaint mwy i’r byd. Drwy gamau bach, gwneud ambell brosiect adnewyddu, byddi di’n ffynnu ac yn creu gyrfa yn y ffordd rwyt ti am wneud hynny. Byddi di’n gweithio’n galetach nag erioed, ond yn mwynhau pob munud. Dwyt ti ddim yn gwybod hynny eto ond mae’r gwaith caled rwyt ti’n ei wneud, y prosiectau yn yr iard gefn – mi fyddan nhw’n fuan yn newid i gontractau gwerth miliynau. Coelia fi, paid â rhoi’r ffidil yn y to, bydd yr oriau hir hynny yn talu ar eu canfed.

Pwy fyddai’n meddwl ymhen ugain mlynedd y bydd dy freuddwyd i yrru ceir cyflym yn cael ei gwireddu? Chdi fydd perchennog Maserati pinc cyntaf y DU, yn gyrru McLaren pinc unigryw ac yn byw yng nghartref dy freuddwydion ger y môr! Bydd clywed si ysgafn y tonnau o dy ardd gefn yn troi o fod yn freuddwyd i fod yn realiti go iawn. Ond gyda’r llwyddiant hwn, cofia fod yn driw i ti dy hun.

Bydd llawer o bobl yn mynd a dod yn dy fywyd. Bydd rhai yn fendith, ac eraill yn ceisio dy danseilio. Bydd pobl yn cwestiynu dy hygrededd, dy werth, dy statws. Bydd rhai yn ei chael hi’n anodd derbyn dy safle yn y byd adeiladu fel menyw ifanc uchelgeisiol. Ond bydd y rhwystrau hyn yn dy wneud yn fenyw gadarn yn y pen draw. Bydd yn dy wneud yn benderfynol o herio stereoteipiau a phrofi dy werth. Wedi’r cwbl, mae bod yn ddidwyll ac yn driw i ti dy hun yn rhodd amhrisiadwy – cofia hynny.

Bydd ofn methu yn dy ddychryn, ond byddi di’n wynebu’r her. Byddi di’n cwestiynu dy allu bob dydd ond yn dysgu i weithio gyda phobl o’r un brethyn: amgylchyna dy hun ag unigolion cadarnhaol sy’n credu y galli di.

Bydd dy brofiadau yn dy gymell i wneud gwahaniaeth positif i fywydau eraill, gan ddangos i bobl ifanc y gallan nhw ddilyn eu hangerdd. Byddi di’n edrych yn ôl ar yr heriau rwyt ti wedi’u hwynebu fel menyw ifanc, fel gweithiwr proffesiynol, ac yn ymateb drwy helpu eraill. Bydd rhannu dy lwyddiannau i helpu i ysgogi pobl ifanc yn dy gymell, byddi di’n cynnig hyfforddi merched eraill sydd am ymuno â’r diwydiant adeiladu, fel nad ydyn nhw’n cael eu dal yn ôl gan yr un hen stereoteipiau diflas â ti. Rwyt ti’n dal yn edifar na ches di dy annog i ddilyn dy freuddwydion a bwrw prentisiaeth, felly rwyt ti’n benderfynol y bydd eraill yn cael yr arweiniad iawn. Ond paid byth â difaru unrhyw benderfyniad: mae bywyd yn gyfres o wersi sy’n rhaid eu byw er mwyn eu deall.

Ond nawr, efallai na fyddi di’n gweld dy werth yn y byd, ond dal dy ben yn uchel, byddi di’n dysgu sut mae ysgrifennu dy stori dy hun cyn bo hir. Byddi di’n profi’r  melys a’r chwerw: bydd dy gynlluniau yn newid; bydd pobl yn dy siomi, a byddi di’n wynebu sawl rhwystr. Ond cofia, ti yw dy bŵer arbennig dy hun – creda ynot ti dy hun a byddi di’n gwireddu dy freuddwydion, coelia di fi.

Mae’r Rhaglen Prentisiaethau Cymru yn cael ei chyllido gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Am ragor o wybodaeth am ddod yn brentis, ewch i: llyw.cymru/prentisiaethaucymru

Am ragor o wybodaeth am gyflogi prentis, ewch i: https://businesswales.gov.wales/skillsgateway/cy/rhaglenni-sgiliau-hyfforddiant/prentisiaethau

Ewch i dudalen Facebook Prentisiaethau Cymru neu @ApprenticeWales ar Twitter a dilynwch y stori gyda’r hashnod #AWWales.