Ymchwiliwr Polisi Llawrydd yn eisiau – Ymchwilio i Gerdyn Sgorio Ffeministaidd a’i lunio!
Mae RhCM Cymru ac Oxfam Cymru wedi llunio dau Gerdyn Sgorio Ffeministaidd hyd yn hyn er mwyn adolygu cynnydd Llywodraeth Cymru tuag at eu nod o fod yn ‘llywodraeth ffeministaidd’.
Roedd y Cerdyn Sgorio’n asesu cynnydd mewn meysydd gan gynnwys Gofalu, Dod i Ben â Thrais yn Erbyn Menywod a Merched, a Hawliau Menywod Byd-eang.
Bellach rydym yn comisiynu ymgynghorydd llawrydd i ymchwilio i drydydd cerdyn sgorio a’i lunio, gan ystyried cynnydd ar y Rhaglen Lywodraethu a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.
Bydd gennych y rhinweddau canlynol:
- gwybodaeth gref am bolisi cydraddoldeb menywod
- prawf o brofiad wrth lunio adroddiadau polisi
- y gallu i gyfuno gwybodaeth gymhleth a llunio argymhellion polisi
- y gallu i weithio’n gyflym heb fawr o oruchwyliaeth
Byddwch:
- yn ymrwymedig i waith croestoriadol a Chymru heb wahaniaethu ar sail rhywedd
- yn ymwybodol o werthoedd RhCM: Cyfrifol, Dygn, Caredig
Amserlenni:
- Ymchwilio i ddrafft cyntaf a’i lunio rhwng mis Chwefror a mis Mawrth 2022
- Adolygu a rhoi adborth gan RhCM Cymru ac Oxfam Cymru: Ebrill 2022
- Cytuno ar fersiwn derfynol yr adroddiad: Mai 2022
- Cyhoeddwyd mis Mehefin 2022
Amodau a Thelerau
- Oddeutu 10-15 diwrnod o nawr tan ddiwedd mis Ebrill 2022
- Y gallu i ddechrau ar unwaith
- Cyfradd: £250-£300 y dydd gan ddibynnu ar brofiad
I gyflwyno cais dylech ei anfon i recruitment@wenwales.org.uk erbyn 18.00 nos Wener 11 Chwefror:
- CV cryno
- 250 o eiriau ar y rheswm pam eich bod yn ddelfrydol ar gyfer y rôl hon
- Enghraifft o adroddiad briffio rydych wedi’i lunio
Cwestiynau? E-bostiwch recruitment@wenwales.org.uk