Ymgynghorydd yn Eisiau – Byddwch yn rhan o Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched!
Mae RhCM Cymru am benodi gweithiwr llawrydd i gyd-gynhyrchu, cynllunio, cyflawni a gwerthuso rhaglen gyffrous o ymgysylltu a digwyddiadau ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Merched gydag ysgolion ledled Cymru. Rydym am sicrhau ein bod yn estyn allan i’r genhedlaeth nesaf o actifyddion ifanc drwy gefnogi gweithgareddau mewn ysgolion yn y cyfnod cyn 8 Mawrth 2021. Ein nod yw sicrhau bod o leiaf un ysgol ym mhob Awdurdod Lleol yn cymryd rhan.
Byddwch yn rhywun sy’n gallu cyfathrebu’n dda ac â brwdfrydedd sy’n rhannu ein gwerthoedd ac sydd â phrofiad o sicrhau bod pethau’n digwydd mewn ysgolion neu gynllunio gweithgarwch tebyg. Byddwch hefyd yn hapus yn paratoi pecyn cymorth oherwydd y byddwch yn cefnogi digwyddiadau ar-lein mewn ysgolion drwy weithdai, trafodaethau, gwasanaethau neu unrhyw weithgareddau y mae’r ysgolion yn penderfynu eu cynnal.
Byddwch yn meddu ar y nodweddion canlynol:
- Yn ddeinamig a hunanysgogol
- Yn gallu gweithio’n gyflym heb fawr o oruchwyliaeth
- Yn ymrwymedig i ryngblethedd a Chymru heb unrhyw wahaniaethu ar sail rhyw
- Yn ymwybodol o werthoedd RhCM: Cyfrifol, Penderfynol, Caredig
Bydd gennych brofiad o’r canlynol:
- Gweithio gydag ysgolion neu bobl ifanc
- Llwyddiant wrth drefnu digwyddiadau
- Ysgogi pobl i gymryd rhan
- Yn ddelfrydol, byddwch yn siaradwr Cymraeg.
Amodau a Thelerau
- Oddeutu 25 o ddiwrnodau rhwng nawr a mis Mawrth 2021
- Y gallu i ddechrau cyn gynted â phosib
- Cyfradd: £250-£300 y dydd, gan ddibynnu ar brofiad
I gyflwyno cais:
- Anfonwch eich CV a datganiad 250 o eiriau yn nodi’r rhesymau rydych yn berffaith am y swydd i admin@wenwales.org.uk
- Dyddiad cau: Dydd Gwener 27 Tachwedd
- Cyfweliadau Zoom ddydd Mawrth 1 Rhagfyr
- Cwestiynau? E-bostiwch admin@wenwales.org.uk