Mae arnom angen Ymgynghorydd: helpwch ni i greu newid sylweddol o ran gofalu yng Nghymru!

Dydd Llun Hydref 10th, 2022
Poster that reads We Are Recruiting

Mae RhCM Cymru yn chwilio am weithiwr llawrydd i gydgynhyrchu ceisiadau am gyllid, briffiau, a chynnwys ar gyfer y wefan yn y cyfnod sy’n arwain at lansio ein hymgyrch gofal ym mis Mawrth 2023.

Mae ein hymgyrch glymblaid, ar y cyd â phartneriaid sy’n cynnwys Oxfam Cymru, yn torri tir newydd, a’i nod yw sicrhau bod gwaith gofal, gan gynnwys gofal plant a gofal cymdeithasol, yn cael ei werthfawrogi a’i gydnabod, ac y buddsoddir ynddo, a’i fod yn cyfrannu at newid diwylliannol sy’n cydnabod ac yn rhoi gwerth ar waith gofal di-dâl ar gyfer pob oedran.

Byddwch yn gyfathrebwr effeithiol a brwdfrydig sy’n rhannu ein gwerthoedd ac sydd â hanes cadarn o gyflwyno ceisiadau llwyddiannus am gyllid. Byddwch yr un mor hapus yn ysgrifennu briffiau ar bolisïau mewnol a chynnwys i’r wefan i feithrin ymwybyddiaeth o nodau ein hymgyrch ymhlith rhanddeiliaid gwleidyddol a’r cyhoedd yn gyffredinol, a chynyddu cefnogaeth ar gyfer y nodau hynny.

Bydd gennych y rhinweddau canlynol:

  • Yn ddynamig ac yn llawn cymhelliant
  • Yn gallu gweithio’n gyflym heb fawr ddim goruchwyliaeth
  • Yn ymrwymedig i groestoriadedd a Chymru sy’n rhydd o wahaniaethu ar sail rhywedd
  • Yn cyd-fynd â gwerthoedd RhCM Cymru: Cyfrifol, Didrugaredd, Caredig

Bydd gennych brofiad o’r canlynol:

  • Cyflwyno ceisiadau llwyddiannus am grantiau, yn ddelfrydol mewn amgylchedd elusen/trydydd sector
  • Ymchwilio ac ysgrifennu briffiau ar bolisïau ac adroddiadau
  • Llunio cynnwys clir, diddorol a hygyrch i’r wefan ar gyfer cynulleidfa ehangach
  • Yn ddelfrydol, byddwch hefyd yn siaradwr Cymraeg

 

Telerau ac Amodau

  • Tua 18 diwrnod o ‘nawr tan ddiwedd mis Ionawr 2023
  • Y gallu i ddechrau cyn gynted â phosibl
  • Cyfradd: £250-£300 y dydd, yn dibynnu ar brofiad

 

I wneud cais:

  • Anfonwch eich CV, ynghyd â datganiad 250 gair yn nodi pam eich bod yn addas i’r rôl, ac yn cynnwys gwybodaeth am geisiadau codi arian llwyddiannus, i recruitment@wenwales.org.uk
  • Dyddiad cau: dydd Mercher 26 Hydref 2022, 18:00
  • Cyfweliadau dros Zoom: dydd Gwener 28 Hydref
  • Unrhyw gwestiynau? Anfonwch neges e-bost at jessica@wenwales.org.uk