Cadeirydd RhCM Cymru, Sarah Powell, yn camu i lawr
Hoffem gyhoeddi y bydd Sarah Powell, Cadeirydd RhCM Cymru, yn camu i lawr fel y Cadeirydd yn ein CCB ym mis Hydref, wrth iddi ddechrau ei rôl newydd fel Prif Weithredwr Gymnasteg Prydain. Mae arweinyddiaeth ac ymrwymiad gwerthfawr Sarah wedi bod yn hanfodol i ddatblygiad a thwf RhCM ers iddi ymuno fel Cadeirydd yn 2019. Yn arbennig, hoffai’r Bwrdd Ymddiriedolwyr a thîm y staff estyn ein diolch am ei harbenigedd ynghylch datblygu a ffocysu ein strategaeth. Rydym yn gwybod y bydd yn dod â’i gweledigaeth ddigymell i’w rôl newydd. Diolch, Sarah.
Wrth i Sarah gychwyn ar ei phennod nesaf, byddwn ni’n gwneud yr un peth yma yn RhCM Cymru. Tra rydym yn drist iawn i’w cholli fel Cadeirydd, mae’n gadael ar ei hôl sefydliad sy’n ffynnu, ac yr ydym ni fel tîm staff a’r Bwrdd yn gyffrous i barhau i adeiladu arno wrth i ni greu Cymru sy’n rhydd rhag gwahaniaethu ar sail rhywedd.
Meddai Catherine Fookes, Cyfarwyddwr RhCM, “Mae egni a brwdfrydedd Sarah dros RhCM Cymru wedi bod yn gymhellol ac mae ei ffocws arweinyddiaeth a strategol wedi’n helpu i dyfu a ffynnu, fel unigolion ac fel sefydliad. Rydym yn dymuno pob lwc iddi yn ei rôl newydd. Byddwn yn ei cholli’n fawr.”
Meddai Sarah Powell, “Mae wedi bod yn fraint ac yn bleser mawr i helpu RhCM ddatblygu ei effaith a’i strategaeth. Rwy’n falch iawn o’r hyn y mae’r sefydliad ffeminyddol bach ond cryf hwn yn ei gyflawni, ac rwy’n gwybod y bydd yn parhau i fynd o nerth i nerth.”