Dathlu degawd o ymgyrchu dros hawliau menywod

Dydd Iau Tachwedd 11th, 2021

Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru yn trafod eu llwyddiant ac yn edrych i’r dyfodol

Ymgyrchu dros hawliau menywod yng Nghymru, tynnu sylw at anghydraddoldeb rhwng y rhywiau, cysylltu lleisiau menywod a hyrwyddo menywod ysbrydoledig ledled Cymru, mae gan Rwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru lawer i’w ddathlu. Mae digwyddiad rhithwir, WEN At Ten, wedi’i drefnu ar gyfer dydd Mawrth 16 Tachwedd ac mae gwahoddiad i bawb i ymuno.

Yn ei fodolaeth gymharol fyr, mae RhCM Cymru wedi cyflawni llawer o fuddugoliaethau o adeiladu clymblaid o 38,000 o gefnogwyr sydd wedi lobïo Llywodraeth Cymru yn llwyddiannus i addo ymgorffori CEDAW (Confensiwn ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu yn erbyn Menywod) yng nghyfraith Cymru i gynhyrchu’r maniffesto cyntaf erioed ar hawliau menywod gyda gweledigaeth o Gymru lle mae pob menyw a merch yn cael ei thrin yn gyfartal, yn byw’n ddiogel rhag trais ac ofn ac yn cael hawliau cyfartal yn y gweithle.

Yn arwain y dathliadau bydd eicon pêl-droed Cymru a’r chwaraewraig sydd wedi ennill y mwyaf o gapiau i’r wlad, Jess Fishlock MBE. Yn ogystal â’i llwyddiannau niferus ar y cae pêl-droed, gan gynnwys ennill Cynghrair Pencampwyr Merched UEFA, dyfarnwyd MBE iddi am ei gwasanaethau i bêl-droed a’r gymuned LGBT. Er bod camau mawr wedi’u cymryd mewn cydraddoldeb rhywiol, mae hi’n credu bod mwy i’w wneud, “Fel rhywun sydd dan y chwyddwydr yn rheolaidd rwy’n teimlo ei bod hi’n bwysig iawn siarad gan fod gennym ni lais ac mae gennym ni blatfform. Mae’n bwysig ein bod ni’n ei ddefnyddio yn y frwydr barhaus dros hawliau menywod. Mae llwyddiannau WEN Cymru dros y 10 mlynedd diwethaf wedi bod yn wych ond mae mwy o waith i’w wneud o hyd, gan gynnwys ar faterion fel cam-drin ar-lein – gyda’n gilydd gallwn helpu i greu newid. Mae’n anrhydedd i mi lansio’r ymgyrch codi arian WEN at Ten newydd ac annog pawb i gymryd rhan.”

Bydd Jess yn sgwrsio ag eicon pêl-droed Cymreig arall a ffrind i RhCM, yr Athro Laura McAllister, a gyhoeddwyd yn ddiweddar fel cyd-gadeirydd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. Hefyd yn ymuno â rhestr o siaradwyr ysbrydoledig bydd Jane Hutt AS, Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, Krystal S Lowe, dawnswraig, coreograffydd, ac awdures, yr Athro Uzo Iwobi OBE, sylfaenydd Cyngor Hil Cymru a Chynghorydd Polisi Arbenigol Llywodraeth Cymru ar Gydraddoldebau, Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol Cymru TUC ac Auriol Miller, Cyfarwyddwr y Sefydliad Materion Cymreig.

 

Ychwanegodd Catherine Fookes Cyfarwyddwr RhCM Cymru, “Mae ein gweledigaeth yn glir ar gyfer Cymru, gwlad lle mae gan bob menyw a dyn awdurdod a chyfle cyfartal i lunio cymdeithas a’u bywydau eu hunain.

 

“Dros y 10 mlynedd diwethaf rydym wedi bod ar flaen y gad o ran gweithio am Gymru sy’n rhydd o wahaniaethu ar sail rhywedd, o greu cerdyn sgorio ffeministaidd sy’n olrhain camau gweithredu Llywodraeth Cymru i hyrwyddo hawliau menywod a chydraddoldeb rhywiol, i helpu sicrhau telefeddygaeth ar gyfer erthyliad, i rymuso menywod mewn Caffis WEN a sefydlu cynllun mentora traws-gydraddoldeb arloesol, i gael mwy o fenywod i mewn i fywyd cyhoeddus a gwleidyddol.

 

“Wrth edrych ymlaen mae ein nodau ar gyfer y dyfodol yn cynnwys cwotâu amrywiaeth a rhywedd sy’n rhwymo mewn cyfraith er mwyn sicrhau cynrychiolaeth ac arweinyddiaeth amrywiol a chyfartal, Cymru sy’n rhydd o aflonyddu rhywiol a trais yn erbyn menywod, CEDAW wedi’i ymgorffori yng nghyfraith Cymru, sicrhau bod cyfrifoldebau gofalu yn cael eu gwerthfawrogi a’u rhannu, mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd rhwng y rhywiau, cyllid teg ar gyfer menywod trwy ddileu’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, ymgyrchu dros ddarparu gofal o ansawdd uchel, hygyrch a fforddiadwy ac amddiffyn menywod rhag tlodi.

 

“Byddwn ni hefyd yn lansio ein hymgyrch codi arian newydd WEN At Ten lle gallwch chi osod eich her eich hun, boed yn gwneud sesiwn ymarfer 10,000 o gamau, ras 10km neu her eithafol neidio 10,000m allan o awyren, neu dewch i rwydweithio yn un o’n digwyddiadau rhithwir Caffi WEN a chyfrannu cost eich coffi a chacen.

 

“Rydym ni wrth ein bodd bod cynifer o ferched ysbrydoledig yn ymuno â ni ar gyfer ein digwyddiad dathlu. Rydym ni’n annog pawb i nodi’r dyddiad a dal i fyny â wynebau cyfarwydd i ddathlu ein holl lwyddiannau gwych gyda’n gilydd a chyffroi am ein cynlluniau ar gyfer y 10 mlynedd nesaf a thu hwnt.”

 

Cynhelir digwyddiad dathlu rhithwir WEN At Ten ddydd Mawrth 16 Tachwedd o 1:20pm-3.30pm. I gofrestru ar gyfer y digwyddiad rhad ac am ddim ewch i:

https://www.eventbrite.co.uk/e/wen-at-ten-tickets-173635086217.