COVID-19 a Hawliau Menywod

Mae COVID-19 yn cael effaith hynod negyddol ar gydraddoldeb menywod. Nid yw’r llawer o’r anghydraddoldeb rydym wedi bod yn ei drafod yn ystod y pandemig yn newydd – o rannu anghyfartal gwaith tŷ a gofalu i oroeswyr trais yn erbyn menywod yn byw gyda’u partneriaid sy’n eu cam-drin. Mae COVID-19 wedi dod â llawer o broblemau y mae’r sector menywod wedi bod yn ymgyrchu drostynt ers blynyddoedd at sylw’r cyhoedd.

Mae’n rhaid i ni gryfhau ein penderfyniad i ddogfennu unrhyw atchweliad  yn hawliau menywod a sicrhau yn y gymdeithas ar ôl y pandemig nad ydym yn dychwelyd i’r status quo yr ydym yn gwybod sy’n gwahaniaethu yn erbyn menywod. Rydym am gael Cymru sy’n defnyddio egwyddorion ‘adeiladu’n ôl yn well’ sy’n alinio’n well â’n gweledigaeth am Gymru heb wahaniaethu ar sail rhyw.

Mae ein hymateb i COVID-19 yn ymwneud â thri maes:

  • Arwain ar ymateb y sector menywod i’r argyfwng o ran gofynion polisi
  • Darparu adroddiadau o brofiad byw i Lywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill
  • Darparu fforwm ar gyfer trafodaeth drwy ein Caffis RhCM #WENCafes

Mae RhCM Cymru a’n partneriaid yn galw am ymateb COVID-19 Llywodraeth Cymru i wneud y canlynol:

  • Sicrhau bod darpariaethau gofal plant o safon
  • Diogelu menywod rhag tlodi
  • Sicrhau bod menywod yn teimlo’n ddiogel yn eu cartrefi
  • Sicrhau bod menywod yn ddiogel yn y gwaith
  • Mynd i’r afael â thlodi yng Nghymru