Cronfa Arian Cyfatebol Merched a Merched Big Give: Gweithredwch nawr am un rhodd, dwywaith yr effaith

Dydd Sul Hydref 8th, 2023

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol yr Eneth eleni, cefnogwch hawliau menywod a merched yng Nghymru trwy gyfrannu at Rwydwaith Cydraddoldeb Menywod (RhCM) Cymru trwy Gronfa Arian Cyfatebol Menywod a Merched y Big Give fan hyn – ar gyfer yr wythnos hon yn unig, bydd y Big Give yn dyblu eich rhodd!

Mae RhCM Cymru yn cymryd rhan yn y Gronfa Arian Cyfatebol Menywod a Merched i godi £5,000 mewn dim ond un wythnos rhwng 11 a 18 Hydref. Bydd yr arian hollbwysig hwn yn cefnogi gwaith sy’n cael ei wneud dros Gymru sy’n rhydd o wahaniaethu ar sail rhywedd, a hynny yn erbyn cefndir y pwysau ariannol sy’n wynebu’r sector menywod yng Nghymru.

Mae RhCM Cymru yn elusen arobryn a’i huchelgais yw i bawb gael awdurdod a chyfle cyfartal i lywio cymdeithas a’u bywydau eu hunain. Fel sefydliad aelodaeth sy’n dod â lleisiau rhwydwaith amrywiol o fenywod o bob rhan o Gymru ynghyd, mae RhCM Cymru yn grymuso’r rhai sydd â phrofiad bywyd o anghydraddoldeb ac yn sicrhau newid.

Mae arnom angen eich help – mae sector menywod Cymru yn wynebu pwysau a heriau ariannol unigryw o ran cael mynediad at gyllid a’i arallgyfeirio. Mae ymchwil a gyhoeddwyd yn gynharach eleni gan Sefydliad Rosa yn dangos bod cyfanswm o werth £4.1 biliwn o grantiau wedi’u dyfarnu i elusennau yn y DU yn 2021, ond dim ond 1.8% o’r rhain a gafodd y sector menywod a merched. Aeth traean o’r holl grantiau ar gyfer gweithgarwch sy’n canolbwyntio ar fenywod a merched i sefydliadau heb unrhyw ffocws penodol ar fenywod a merched. Mae hyn yn dangos diffyg blaenoriaeth sy’n peri pryder gan y sefydliadau sy’n mynd i’r afael â’r materion cymhleth a systemig a wynebir gan fenywod a merched yn y DU. Wrth chwilio am gyllid, mae sefydliadau yng Nghymru hefyd yn aml yn wynebu diffyg dealltwriaeth am ddatganoli, gan eu gadael yn wynebu rhwystrau ychwanegol.

Bydd rhoddion i RhCM Cymru yn denu arian cyfatebol hael gan y Big Give yn ystod yr ymgyrch, gan sicrhau eich bod yn cael yr effaith fwyaf posibl ar fywydau menywod a merched yng Nghymru.

Dywedodd Shannon Gossage, Rheolwr Partneriaethau a Chodi Arian yn RhCM Cymru:

“Bydd pob rhodd yn cael dwywaith yr effaith ar ein gweledigaeth o Gymru sy’n rhydd o wahaniaethu ar sail rhywedd, diolch i Gronfa Arian Cyfatebol Menywod a Merched y Big Give. Rydym yn dibynnu ar ein haelodau a’n cefnogwyr anhygoel i’n helpu i gyrraedd ein targed o £5,000 i sicrhau y gallwn barhau i ymgyrchu dros gydraddoldeb rhwng y rhywiau a darparu mentora a digwyddiadau am ddim i fenywod yng Nghymru.”

Dywedodd y Cyng. Patience Bentu, cyn fentorai Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal yn RhCM Cymru:

“Ni allaf roi mewn geiriau faint o fudd y mae cymryd rhan yn y rhaglen Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal wedi bod i mi […] Rwyf wedi dysgu nad wyf ar fy mhen fy hun yn fy mrwydrau fel menyw, person ethnig leiafrifol yng Nghymru, a mam sengl.”

Sut y gallwch gyfrannu?

  • Ewch i BigGive.org a gwneud rhodd rhwng canol dydd ddydd Mercher 11 Hydref a chanol dydd ddydd Mercher 18 Hydref 2023
  • Gosodwch nodyn atgoffa ac ychwanegu tudalen ein hymgyrch Gweithredu ‘Nawr dros Gydraddoldeb Menywod yng Nghymru! fel nad ydych yn colli eich cyfle i ddyblu eich rhodd!

Nodiadau

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Shannon Gossage, Rheolwr Partneriaethau a Chodi Arian, RhCM Cymru | Shannon@wenwales.org.uk

Ynghylch RhCM Cymru: https://wenwales.wpengine.com/cy/

Ymchwil Sefydliad Rosa: https://rosauk.org/publications/mapping-research/

 

Yn dilyn proses ymgeisio gystadleuol, mae RhCM Cymru wedi cael ei dewis i gymryd rhan yng Nghronfa Arian Cyfatebol Menywod a Merched y Big Give.

Ymgyrch

Gweithredu ‘Nawr dros Gydraddoldeb Menywod yng Nghymru!

Ein gweledigaeth yw Cymru sy’n rhydd o wahaniaethu ar sail rhywedd. Cymru lle mae gan bawb awdurdod a chyfle cyfartal i lywio cymdeithas a’u bywydau eu hunain. Fel sefydliad aelodaeth sy’n dod â lleisiau rhwydwaith amrywiol o fenywod o bob rhan o Gymru ynghyd, mae RhCM Cymru yn grymuso’r rhai sydd â phrofiad bywyd o anghydraddoldeb ac yn sicrhau newid.

Y Sefyllfa

Mae gennym dair blaenoriaeth strategol, fel y’u datblygwyd mewn partneriaeth â’n haelodau, ein bwrdd a’n staff:

  • Arweinyddiaeth amrywiol a chyfartal: dim ond un fenyw ethnig leiafrifol sydd wedi’i hethol o hyd i’r Senedd mewn 20 mlynedd o ddatganoli.
  • Cryfhau ac amddiffyn hawliau dynol menywod yng Nghymru: ymgorffori CEDAW yng nghyfraith Cymru.
  • Gwneud Gofal yn Deg: Yng Nghymru y gwelwyd y cynnydd mwyaf mewn costau gofal plant (8%) ledled y pedair gwlad, sy’n effeithio’n anghymesur ar fenywod.

Yr Ateb

Gyda’n cyrhaeddiad o 43,000 o unigolion a sefydliadau gallwn ddefnyddio:

  • Ein hymgyrch 5050Amrywiol a’r rhaglen fentora Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal i rymuso menywod i gynnig eu hunain ar gyfer bywyd cyhoeddus fel y gallant gynllunio polisïau a chyfreithiau groestoriadol.
  • Ein gwaith dylanwadu a pholisi i ddefnyddio deddfwriaethau datganoledig i amddiffyn menywod yng Nghymru rhag effaith cynlluniau San Steffan i leihau hawliau dynol.
  • Ein hymgyrch Gwneud Gofal yn Deg i fynd i’r afael â’r rheswm unigol mwyaf dros dlodi menywod ac anghydraddoldeb ariannol.

Rhowch i’r ymgyrch fan hyn

 

Ynghylch y Big Give

https://linktr.ee/TheBigGive

Mae’r Big Give yn elusen gofrestredig (1136547) sy’n cynnal ymgyrchoedd arian cyfatebol ar gyfer elusennau ac achosion arbennig ar adegau allweddol yn ystod y flwyddyn. Trwy gysylltu elusennau ag arianwyr cyfatebol (megis dyngarwyr, sefydliadau neu gorfforaethau) a’r cyhoedd, mae’r Big Give yn eu helpu i ddyblu eu rhoddion. Ac, wrth wneud hynny, yn gwneud gwahaniaeth rhyfeddol i heriau mwyaf y byd. Mae wedi codi mwy na £236 miliwn i elusennau, hyd yn hyn.

Mae’n syniad syml – pan fydd y cyhoedd yn rhoi i elusen trwy ymgyrch Big Give, bydd yn gofyn i gyllidwyr (dyngarwyr, sefydliadau, adrannau’r llywodraeth neu gorfforaethau) roi arian cyfatebol ar gyfer y rhodd honno. Felly bydd £50 gan aelod o’r cyhoedd yn dod yn £100 at achos da.

Mae’r Big Give wedi cefnogi mwy na 10,000 o elusennau ac wedi gweithio gyda rhai o’r enwau mwyaf ym maes dyngarwch a dyfarnu grantiau elusennol yn y DU, sy’n darparu arian cyfatebol, gan gynnwys DCMS, People’s Postcode Lottery, Candis Club Magazine, Sefydliad EQ, Sefydliad Garfield Weston, Sefydliad Reed, Sefydliad Waterloo, The Hospital Saturday Fund, The Childhood Trust ac eraill gan gynnwys unigolion gwerth net uchel megis Julia a Hans Rausing.