Blog Wythnos Prentisiaethau: Llythyr i fi fy hun yn 16 oed

Dydd Mawrth Chwefror 9th, 2021

gan Lee Price

Annwyl Lee,

Dw i’n gwybod taw’r ystafell ddosbarth yw’r lle diwethaf rwyt ti am fod ar hyn o bryd, ond mae’n rhaid i ti weithio’n galetach yn yr ysgol a phasio dy arholiadau.  Efallai nad wyt ti’n academaidd, ond mae dy greadigrwydd yn gwneud iawn am hynny. Rwyt ti’n berfformiwr naturiol, ac yn ysu i ddawnsio a chanu ar lwyfan y West End. Ond does neb i gynnig arweiniad ar sut i wireddu’r freuddwyd hon.

Yn hytrach, byddi di’n defnyddio dy greadigrwydd i ganolbwyntio ar yrfa wahanol fel person trin gwallt. Byddi di’n mynd i’r coleg ac yn cychwyn ar dy swydd gyntaf yn Aberystwyth. Alli di gredu y byddi di’n priodi dy gariad bore oes, Rob, yn 19 oed? Pan fyddi di’n 21 oed, byddwch yn gadael mynyddoedd Cymru am oleuadau llachar Hong Kong. Dyma rai o flynyddoedd gorau dy fywyd di, felly cofia fyw i’r eithaf a mwynhau pob eiliad.

Byddi di’n dychwelyd i Gymru serch hynny, ac yn profi cariad mwy angerddol nag yr wyt ti erioed wedi’i deimlo o’r blaen, ac yn cael plant. Nid menyw yn unig wyt ti mwyach, ond mam hefyd. Bydd genedigaeth y ddwy fach, Rhiannon a Lowri, yn rhoi persbectif a phwyslais newydd ar fywyd. Bydd yr holl nosweithiau digwsg yn werth chweil; a bydd y merched yn datblygu’n fenywod ifanc llwyddiannus ac urddasol. Bydd di mor falch ohonyn nhw.

Wrth wylio’r plant yn prifio, bydd dy ddyletswyddau fel mam yn lleihau wrth i ti chwilio am dy her newydd dy hun. Rwy’n gwybod bod unrhyw newid yn frawychus, ond mae’n hen bryd i ti wneud hyn er dy fwyn di. Fe wnei fagu hyder i adael y salon trin gwallt wedi 22 mlynedd a dechrau gweithio i Gyngor Sir Powys. Rwyt ti’n dechrau ym maes gweinyddol, ond pan fyddi di’n symud ar draws y sefydliad i reoli gwastraff, cei bob anogaeth i ystyried prentisiaeth.

Ar y dechrau, yn 56 oed, byddi di’n meddwl dy fod yn rhy hen i wneud hyn. Siawns mai dim ond pobl ifanc sy’n bwrw prentisiaeth? Sut gwnei di dalu’r biliau? Ond ar ôl darllen ymhellach, rwyt ti’n sylweddoli gymaint mae prentisiaethau wedi newid ers i ti adael ysgol. Cyn hir, fe wnei di sylweddoli bod modd parhau i weithio yn ystod dy brentisiaeth, cael cymhwyster newydd ac ennill bywoliaeth. Gair i gall, Lee: paid byth â gadael i dy ofnau cychwynnol dy ddal di nôl, cofia fod â hyder ynot ti dy hun a chreda fod unrhyw beth yn bosib.

Mae’n flin gen i ddweud hyn, ond rhaid i mi fod yn blwmp ac yn blaen. Prin fis i mewn i dy brentisiaeth ac mi fyddi di’n wynebu’r her fwyaf a’r galetaf ohonyn nhw i gyd – galar annisgwyl. Byddi’n colli Rob, dy gariad bore oes. Bydd y boen yn annioddefol. Roeddech chi fod i dreulio gweddill eich bywyd gyda’ch gilydd, ond yn lle hynny, unigrwydd sy’n galw.

Bydd colli dy enaid hoff cytûn yn ergyd ofnadwy. Ond bydd Rob yn fyw o hyd trwy gyfrwng y merched a’r pedwar o wyrion hyfryd sy’n rhoi pwrpas i ti mewn bywyd. Roedd ei gred ynot ti i gwblhau dy brentisiaeth yn dy wneud di’n benderfynol o ailafael ynddi. Byddi di’n gweithio’n galetach nag erioed. Bydd dy ddewrder, dy angerdd a’th ddyfalbarhad yn talu ar ei ganfed a chei gydnabyddiaeth am dy waith caled yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru, gan ennill y wobr Prentisiaethau Uwch. Byddi di’n llawn emosiynau cymysg – yn falch, fel y dylet fod, ond hefyd yn dyheu am rannu dy lwyddiannau â Rob.

Wrth edrych yn ôl, wnei di fyth difaru dy ddewisiadau gyrfaol. Hwyrach bod byd o wahaniaeth rhwng trin gwallt a gorfodi gwastraff, ond maen nhw’n llwybrau rwyt ti wedi’u cofleidio a’u croesawu’n hyderus. Ambell dro, byddi di’n difaru na wnes ti weithio’n galetach i ddilyn dy freuddwydion theatrig. Efallai na fydd dy stori yn adleisio dy yrfa ddelfrydol ym myd y celfyddydau, ond bydd dy lwyddiannau yn destun balchder. Bydd sawl rhwystr ar hyd y daith, ond gyda nerth a gwroldeb, fe wnei di ffynnu eto fyth.

Mae’r Rhaglen Prentisiaethau Cymru yn cael ei chyllido gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Am ragor o wybodaeth am ddod yn brentis, ewch i: llyw.cymru/prentisiaethaucymru

Am ragor o wybodaeth am gyflogi prentis, ewch i: https://businesswales.gov.wales/skillsgateway/cy/rhaglenni-sgiliau-hyfforddiant/prentisiaethau

Ewch i dudalen Facebook Prentisiaethau Cymru neu @ApprenticeWales ar Twitter a dilynwch y stori gyda’r hashnod #AWWales.