CCB a Caffi RhCM: Maniffesto Hawliau Menywod Cymru
Ymunwch â ni ar-lein am 4yp ar ddydd Mawrth 5 Rhagfyr ar gyfer trafodaeth Caffi RhCM ar y Maniffesto Hawliau Menywod Cymru newydd ar gyfer Etholiad Cyffredinol y DU gan y Rhwydwaith Rhywedd, wedi ei ddilyn gan ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Arbedwch eich lle fan hyn.
Mae’r Rhwydwaith Rhywedd yn fforwm polisi o 80 o gynrychiolwyr trydydd sector, actifyddion ac academyddion sy’n ymladd dros hawliau menywod yng Nghymru, sy’n cael ei redeg gan RhCM Cymru. Mae’r RR yn galw ar bob plaid wleidyddol ac ymgeisydd i roi cydraddoldeb rhywedd wrth galon yr etholiad a llunio polisïau’r DU. Mae ein maniffesto yn cwmpasu chwe maes lle mae angen inni weld pleidiau gwleidyddol yn gweithredu i amddiffyn a hyrwyddo cydraddoldeb rhywedd yng Nghymru.
- Cyllid teg
- Cyfrifoldebau gofalu
- Cynrychiolaeth ac arweinyddiaeth
- Mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd rhywedd
- Rhoi diwedd ar drais yn erbyn menywod a merched
- Hawliau menywod
Gan ddechrau o 4yp, bydd aelodau’r Rhwydwaith Rhywedd yn cymryd rhan mewn trafodaeth Caffi RhCM yn cyflwyno gofynion polisi ac argymhellion y maniffesto. Dilynir y sesiwn hon gan CCB RhCM Cymru am 1yp, yn agored i aelodau yn unig.