Rydym yn recriwtio Ymgynghorydd Ymchwil a Data

Dydd Iau Mai 16th, 2024
Poster that reads We Are Recruiting

Mae RhCM Cymru yn chwilio am ymgynghorydd llawrydd i gefnogi ein gwaith ymchwil, polisi a phartneriaeth yn y cyfnod cyn lansio ein Cerdyn Sgorio Ffeministaidd yn hydref 2024. 

Cefndir RhCM Cymru 

Ein gweledigaeth yw Cymru sy’n rhydd rhag gwahaniaethu ar sail rhywedd, lle mae gan bawb awdurdod a chyfle cyfartal i lunio eu bywydau eu hunain. Rydym yn gweithio gyda’n clymblaid fywiog o aelodau sefydliadol ac aelodau unigol i drawsnewid cymdeithas – ni all unrhyw un sefydliad sicrhau cydraddoldeb ar eu pen eu hunain. Mae ein gwaith yn eistedd o dan dri philer. Byddwn yn Cysylltu, yn Ymgyrchu ac yn Hyrwyddo menywod hyd nes y caiff ein gweledigaeth ei gwireddu. 

Cefndir y Cerdyn Sgorio Ffeministaidd 

Mewn cydweithrediad ag Oxfam Cymru, rydym yn cyhoeddi Cerdyn Sgorio Ffeministaidd yn rheolaidd sy’n olrhain cynnydd Llywodraeth Cymru ar gydraddoldeb rhywedd ac yn eu dwyn i gyfrif. Mae Adroddiad Cerdyn Sgorio Ffeministaidd 2022 yn dangos cyfres o gipluniau o berfformiad Llywodraeth Cymru mewn chwe maes allweddol: 

  • Cyllid Teg
  • Cyfrifoldebau Gofalu
  • Hawliau Menywod Byd-eang
  • Cynrychiolaeth ac Arweinyddiaeth Gyfartal
  • Mynd i’r afael ag Anghydraddoldebau Iechyd ar sail Rhywedd
  • Rhoi Terfyn ar Drais yn Erbyn Menywod a Merched

Ar gyfer pob maes polisi, rydym yn ystyried datganiadau perthnasol Llywodraeth Cymru, y Rhaglen Lywodraethu, deddfwriaeth, polisïau ac arferion, yn dadansoddi ystadegau ac yn archwilio tystiolaeth gan arbenigwyr ym mhob maes. Caiff cynnydd ym mhob maes ei raddio gan ddefnyddio system goleuadau traffig (coch, oren a gwyrdd), sy’n dangos lefel y cynnydd tuag at gydraddoldeb i fenywod a merched yng Nghymru. 

Cefndir y rôl  

Bydd yr ymgynghorydd ymchwil a data yn cefnogi datblygiad Cerdyn Sgorio Ffeministaidd 2024 trwy ymchwil desg a dadansoddi data, paratoi, cynnal a gwerthuso cyfweliadau ar-lein gyda rhanddeiliaid allweddol, cyd-gynhyrchu’r adroddiad a chefnogi’r gwaith o ledaenu allbynnau ymchwil. 

Byddwch yn ymchwilydd annibynnol a brwdfrydig sy’n rhannu ein gwerthoedd ac â hanes cryf o gynhyrchu allbynnau polisi ac ymchwil. Byddwch yn gallu olrhain a gwerthuso datblygiadau polisi a deddfwriaethol yn effeithiol, dadansoddi data meintiol a chynnal a gwerthuso cyfweliadau â rhanddeiliaid. Byddwch yn gallu cyfleu eich canfyddiadau ar lafar ac mewn ysgrifen gryno a chywir i gynulleidfa ehangach o ran polisi a’r cyhoedd, a datblygu argymhellion polisi sy’n ddilyniant clir o ganfyddiadau eich ymchwil. 

Cyfrifoldebau 

  • Cynllunio a chyflwyno ymchwil o fewn amserlenni penodol
  • Gwerthuso gwybodaeth polisi a deddfwriaethol o amrywiaeth o ffynonellau
  • Nodi a dadansoddi data meintiol perthnasol
  • Cynllunio, cynnal a gwerthuso cyfweliadau gyda rhanddeiliaid arbenigol
  • Ysgrifennu canfyddiadau mewn adroddiad cryno a chywir, gan ddilyn fformat Cardiau Sgorio Ffeministaidd blaenorol
  • Cefnogi datblygiad argymhellion polisi a sgoriau RAG
  • Cefnogi’r gwaith o ddosbarthu’r adroddiad, gan gynnwys lansio’r adroddiad ac ymgysylltu dilynol â rhanddeiliaid gwleidyddol ac ehangach
  • Cyflwyno canfyddiadau drafft i arweinwyr RhCM Cymru ac Oxfam Cymru, ac i grwpiau rhanddeiliaid perthnasol yn ôl yr angen
  • Helpu i gydlynu a threfnu cyfarfodydd sy’n ymwneud â’r gwaith hwn, gan gynnwys cymryd a rhannu nodiadau
  • Cydgysylltu â Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus RhCM a’r Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu yn ôl yr angen

 

Sgiliau a phrofiad

  • Profiad o weithio mewn amgylchedd polisi, yn ddelfrydol o fewn amgylchedd elusennol/trydydd sector
  • Dadansoddi data meintiol ac ansoddol
  • Ymchwilio ac ysgrifennu briffiau ac adroddiadau cryno a chywir
  • Dealltwriaeth o anghydraddoldeb ar sail rhywedd a chroestoriadedd
  • Gallu gweithio’n gyflym heb fawr o oruchwyliaeth
  • Wedi ymrwymo i ddull croestoriadol o ymdrin â hawliau menywod a Chymru sy’n rhydd rhag gwahaniaethu ar sail rhywedd
  • Dealltwriaeth sylfaenol o ddatganoli yng Nghymru
  • Yn gyfarwydd â nodi ac ymdrin â data a thystiolaeth sy’n benodol i Gymru
  • Hyderus yn defnyddio Zoom/Microsoft Teams, Excel, Word, Outlook a PowerPoint
  • Yn wleidyddol graff ac yn hyderus wrth gysylltu ag ystod o randdeiliaid
  • Mae’n well eich bod yn siaradwr Cymraeg hefyd.

 

Telerau ac Amodau

  • Tua 40 diwrnod o nawr tan ddiwedd Medi 2024
  • Y gallu i ddechrau cyn gynted â phosibl
  • Cyfradd: £125 y diwrnod
  • Gweithio o bell ac yn hyblyg

   

Sut i wneud cais:

  • Anfonwch eich CV a datganiad o ddim mwy na 400 gair ar sut rydych yn cyflawni gofynion y rôl hon i recruitment@wenwales.org.uk
  • Dyddiad cau: Dydd Mawrth 28 Mai 2024, 18:00
  • Cyfweliadau Zoom: I’w gadarnhau, dyddiad posib 30 Mai
  • Unrhyw gwestiynau? Anfonwch e-bost at jessica@wenwales.org.uk