Gwleidyddiaeth & Gwasanaethau Cyhoeddus

Illustration of Suzy Davies by Molly Allen

Suzy Davies

Addysg Gwleidyddiaeth & Gwasanaethau Cyhoeddus

Suzy Davies yw Aelod Cynulliad Ceidwadol Cymru dros Orllewin De Cymru. Ar ôl gyrfa ym maes marchnata a rheoli, daeth yn gyfreithiwr yn gweithio i ddechrau mewn materion trais teuluol a domestig, yna, yn ddiweddarach, mewn eiddo a phrofiant.

Ers dod yn Aelod Cynulliad, bu’n ddeiliad portffolio ei phlaid ar gyfer Diwylliant a Threftadaeth, Gwasanaethau Cymdeithasol ac mae bellach yn Weinidog Cysgodol dros Addysg ac Iaith Gymraeg, ac yn Gadeirydd y grŵp Trawsbleidiol i Fenywod. Yn 2018, heriodd am arweinyddiaeth Ceidwadwyr Cymru, y fenyw gyntaf i wneud hynny.

Suzy hefyd yw Cadeirydd cyntaf Women2WinWales, sefydliad gwirfoddol a sefydlwyd i annog menywod o feddwl Ceidwadol i sefyll am swydd gyhoeddus, gan gynnwys fel cynrychiolwyr etholedig. Ar ran ei grŵp, bu’n awyddus i gysylltu â sefydliadau a grwpiau menywod yng nghymunedau BME Cymru i ddeall yn well y rhwystrau i gyfranogi – ynghyd â chymryd y profiad a’r wybodaeth honno i ymgyrchu ar gydraddoldeb o fewn ei phlaid ei hun. Roedd hi’n allweddol yn y Ceidwadwyr Cymreig gan fabwysiadu diffiniad o Islamoffobia.

Mae hi wedi hyfforddi fel mentor i droseddwyr ifanc ac wedi mentora gyda Prime Cymru. Mae hi hefyd wedi bod yn ymddiriedolwr nifer o brosiectau plant ac wedi gwirfoddoli gyda grwpiau cymorth cymunedol. Mae hi wedi ysgrifennu i amryw gyhoeddiadau ac roedd yn un o aelodau bwrdd sefydlu Gŵyl Ffilm Ryngwladol Cymru.

Illustration of Sian James by Molly Allen

Sian James

Gwleidyddiaeth & Gwasanaethau Cyhoeddus Twymder Cymdeithasol & Gweithrediad

Siân Catherine James o Abertawe oedd y fenyw gyntaf i gynrychioli Dwyrain Abertawe fel Aelod Seneddol. Bu’n AS Llafur o 2005 tan 2015. Yn ystod Streic y Glowyr yn 1984, helpodd Siân i fwydo dros 1,000 o deuluoedd mewn naw canolfan wahanol mewn tri chwm. Cafodd ei gwaith i gefnogi teuluoedd y glowyr ei bortreadu yn y ffilm Pride yn 2014. Ar ôl y streic, llwyddodd Siân i gwblhau ei harholiadau Safon Uwch a mynd yn fyfyrwraig hŷn i Brifysgol Abertawe. Bu Siân yn swyddog codi arian i Achub y Plant ac yn gyfarwyddwraig Cymorth i Fenywod Cymru cyn ennill ei sedd yn y Senedd.

Illustration of Rebecca Evans by Molly Allen

Rebecca Evans

Gwleidyddiaeth & Gwasanaethau Cyhoeddus

Ganwyd y soprano operatig Rebecca Evans ym Mhontrhydyfen ger Castell-nedd ac astudiodd yn Ysgol Cerdd a Drama’r Guildhall. Mae’n Gymrawd er Anrhydedd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, ac ymhlith y gwobrau y mae wedi’u hennill mae Canwr Ifanc y Flwyddyn Cymru (1989), enillydd MOCSA (1989), Théâtre du Châtelet Paris – Prix Hélène Rochas (2001), Gwobr Grammy am y Recordiad Opera Gorau am Hansel a Gretel (2008) a Gwobr Gerddoriaeth Syr Geraint Evans (2009). Mae’n is-lywydd ar Shelter Cymru ac yn Noddwr Cerdd â Gofal Cymru. Mae’n aelod o Orsedd y Beirdd.

Illustration of Megan Lloyd George by Molly Allen

Megan Lloyd George

Gwleidyddiaeth & Gwasanaethau Cyhoeddus Twymder Cymdeithasol & Gweithrediad

Yn enedigol o Sir Gaernarfon, Megan Lloyd-George oedd y fenyw gyntaf i’w hethol yn AS yng Nghymru. Bu’n Ddirprwy Arweinydd y Blaid Ryddfrydol cyn dod yn AS Llafur yn ddiweddarach. Roedd yn aelod blaenllaw o’r pwyllgor answyddogol amhleidiol a ymgyrchai dros hawliau menywod a chyflogau cyfartal. Yn Gymraes i’r carn, daeth yn aelod o Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol 1935. Hi hefyd oedd y fenyw gyntaf i ddod yn aelod o gomisiynwyr eglwysig Cymru yn 1942.

Illustration of Leanne Wood by Molly Allen

Leanne Wood

Gwleidyddiaeth & Gwasanaethau Cyhoeddus Twymder Cymdeithasol & Gweithrediad

Yn enedigol o’r Rhondda, mae Leanne Wood yn Aelod Cynulliad ers 2003 ac mae wedi bod yn llefarydd i’w phlaid ar faterion gwyrdd, cynaliadwyedd, cyfiawnder cymdeithasol, a thai ac adfywio. Mae Leanne wedi bod yn weithgar iawn ym mudiad yr undebau llafur ac mae wedi llunio dwy ddogfen bolisi fawr i’w phlaid. Yn 2008, roedd Gwneud ein Cymunedau’n Fwy Diogel yn dadlau dros ddatganoli’r system cyfiawnder troseddol i Gymru, ac yn 2011 cyhoeddwyd Cynllun Gwyrdd i’r Cymoedd, yn dadlau dros raglen i greu swyddi gwyrdd er mwyn adfywio hen feysydd glo’r cymoedd. Yn 2012 hi oedd y fenyw gyntaf i’w dewis yn arweinydd ar Blaid Cymru.

100 Welsh Women illustrations by Molly Allen